Rheoliadau Trwyddedu Morol (Ffioedd) (Cymru) 2017

Year2017
CitationWSI 2017/280 (W74) (Cymru)

2017 Rhif 280 (Cy. 74)

Diogelu’r Amgylchedd, Cymru

Trwyddedu (morol), Cymru

Llygredd Morol, Cymru

Rheoliadau Trwyddedu Morol (Ffioedd) (Cymru) 2017

Gwnaed 6th March 2017

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 8th March 2017

Yn dod i rym 1st April 2017

Drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 67(2), (3), 72A(4), 107A(3), 107B(5) a 316(1)(b) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 20091, mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod trwyddedu priodol o dan adran 113(4)(b)2o’r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

S-1 Enwi a chychwyn

Enwi a chychwyn

1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trwyddedu Morol (Ffioedd) (Cymru) 2017.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2017.

S-2 Dehongli

Dehongli

2. Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009;

ystyr “gweithgaredd” (“activity”) yw gweithgaredd morol trwyddedadwy;

ystyr “Rheoliadau 2011” (“the 2011 Regulations”) yw Rheoliadau Trwyddedu Morol (Ffioedd am Geisiadau) (Cymru) 20113; ac

ystyr “trwydded” (“licence”) yw trwydded forol a roddir o dan adran 71(1)(a) neu (b) o’r Ddeddf.

S-3 Cymhwyso

Cymhwyso

3. Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw drwydded ac unrhyw gais am drwydded y mae Gweinidogion Cymru yn awdurdod trwyddedu priodol mewn perthynas â hwy o dan adran 113 o’r Ddeddf ac mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at “yr awdurdod trwyddedu” i’w darllen yn unol â hynny.

S-4 Ffioedd ar gyfer ceisiadau am drwyddedau

Ffioedd ar gyfer ceisiadau am drwyddedau

4. Mae’r ffioedd sy’n daladwy mewn cysylltiad â phenderfynu ar gais sy’n dod o fewn band a ddisgrifir yng ngholofn gyntaf paragraff 1 o Atodlen 1 wedi eu nodi yn ail golofn y paragraff hwnnw.

S-5 Ffioedd ar gyfer monitro a bodloni amodau trwydded

Ffioedd ar gyfer monitro a bodloni amodau trwydded

5. Mae’r ffioedd sy’n daladwy mewn cysylltiad â gwaith monitro o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn gyntaf Atodlen 2 mewn perthynas â thrwyddedau o ddisgrifiad a bennir yn ail golofn yr Atodlen honno wedi eu nodi yn nhrydedd golofn yr Atodlen honno.

S-6 Ffioedd ar gyfer amrywio a throsglwyddo trwyddedau

Ffioedd ar gyfer amrywio a throsglwyddo trwyddedau

6. Mae’r ffioedd sy’n daladwy ar gyfer penderfynu ar gais i amrywio neu drosglwyddo trwydded forol o dan yr amgylchiadau a bennir yng ngholofn gyntaf Atodlen 3 mewn perthynas â thrwyddedau o fath a bennir yn ail golofn yr Atodlen honno wedi eu nodi yn nhrydedd golofn yr Atodlen honno.

S-7 Cyfrifo ffioedd

Cyfrifo ffioedd

7. Wrth gyfrifo ffioedd drwy luosi nifer yr oriau a weithiwyd â chyfradd yr awr, caiff cyfanswm yr oriau a weithiwyd ei fynegi ar ffurf ffracsiwn pan fo—

(a) llai nag un awr wedi ei weithio; neu

(b) cyfanswm yr amser a weithiwyd yn fwy nag un awr ond na ellir ei fynegi fel rhif cyfan mewn oriau.

S-8 Talu ffioedd

Talu ffioedd

8.—(1) Mae pob ffi yn daladwy i Weinidogion Cymru pan ofynnir amdani.

(2) Caniateir talu unrhyw ffi drwy gyfrwng electronig.

(3) Nid yw taliad ffi wedi ei gael hyd nes bod Gweinidogion Cymru wedi cael arian cliriedig ar gyfer y swm cyfan sy’n ddyledus.

(4) Caiff unrhyw ffi nad yw wedi ei thalu ei hadennill gan Weinidogion Cymru fel dyled sifil.

S-9 Blaendaliadau

Blaendaliadau

9. Rhaid cyfrifo blaendaliadau unrhyw ffioedd sy’n daladwy ar gyfradd yr awr drwy gyfeirio at yr amcangyfrif o hyd y gwaith sy’n debygol o fod yn ofynnol a’r gyfradd yr awr sy’n daladwy.

S-10 Ad-daliadau

Ad-daliadau

10. Rhaid i Weinidogion Cymru ad-dalu unrhyw daliad a wnaed sy’n fwy na’r ffi sy’n daladwy, ond nid yw ffioedd a dalwyd yn ad-daladwy fel arall.

S-11 Dirymu Rheoliadau 2011

Dirymu Rheoliadau 2011

11. Yn ddarostyngedig i reoliad 12, mae Rheoliadau 2011 wedi eu dirymu.

S-12 Darpariaethau trosiannol ac arbed

Darpariaethau trosiannol ac arbed

12.—(1) Mae Rheoliadau 2011 yn parhau i gael effaith mewn cysylltiad ag unrhyw gais am drwydded forol, a chais i amrywio neu drosglwyddo trwydded forol sy’n dod i law Gweinidogion Cymru cyn 1 Ebrill 2017 nad oedd Gweinidogion Cymru wedi penderfynu arno cyn y dyddiad hwnnw.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas â phob cais am drwydded forol, a chais i amrywio neu drosglwyddo trwydded forol sy’n dod i law ar neu ar ôl 1 Ebrill 2017.

(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas â’r gwaith monitro a ddisgrifir yn Atodlen 2 a gyflawnir ar neu ar ôl 1 Ebrill 2017 ni waeth pa un a yw’r gwaith monitro hwnnw yn ymwneud â thrwydded forol a roddwyd cyn, ar neu ar ôl 1 Ebrill 2017.

(4) At ddibenion y rheoliad hwn, nid yw cais wedi dod i law hyd nes bod ceisydd wedi darparu pa bynnag wybodaeth neu wedi dangos pa bynnag eitemau sy’n angenrheidiol neu’n hwylus ym marn yr awdurdod trwyddedu i alluogi’r awdurdod trwyddedu i benderfynu ar y cais.

Lesley Griffiths

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

6 Mawrth 2017

ATODLEN 1

Rheoliad 4

Bandiau a Ffioedd Ceisiadau

SCH-1.1

1. Mae’r bandiau a’r ffioedd fel a ganlyn—

Band y cais a disgrifiad ohono

Y ffi ar gyfer penderfynu ar gais

Band 1

Unrhyw gais sy’n ymwneud ag:

(a) atgyweirio neu ailosod bolltau, fflapiau, falfiau, byrddau ar lanfa neu ysgraff;

(b) symud ymaith dyfiant morol a gwano oddi ar unrhyw adeilad neu strwythur neu unrhyw ran ohono;

(c) gosod ysgolion wrth unrhyw adeilad neu strwythur;

(d) dyddodi pyst a’u symud ymaith wedi hynny at ddibenion marcio sianeli, ardaloedd dwr bâs, arllwysfeydd a grwynau;

(e) dyddodi bwiau marcio a’u symud ymaith wedi hynny;

(f) defnyddio cerbyd neu lestr i symud ymaith fân ddarnau arwahanol o falurion nad ydynt ynghlwm wrth wely’r môr (gan gynnwys polion, trawstiau, distiau a mân wrthrychau tebyg) sy’n gysylltiedig ag adeiladu, dymchwel, difrod neu adfeiliad adeilad neu strwythur;

(g) cael gwared ar ysbwriel gan ddefnyddio cerbyd neu lestr; neu

(h) unrhyw mân weithgaredd tebyg.

£600

Band 2

Unrhyw gais nad yw’n dod o fewn disgrifiadau Band 1, neu nad yw’n dod o fewn disgrifiadau Band 1 yn unig, ac sy’n ymwneud â gweithgaredd penodedig.

£1,920

Band 3

Unrhyw gais nad yw’n dod o fewn disgrifiadau Band 1 neu Fand 2, neu nad yw’n dod o fewn disgrifiadau Band 1 neu Fand 2 yn unig.

Cyfrifir y ffi ar gyfradd o £120 yr awr.

SCH-1.2

2. Ym mharagraff 1, yn ddarostyngedig i’r eithriad ym mharagraff 3...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT