Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020
Jurisdiction | Wales |
Citation | WSI 2020/295 (Cymru) |
2020 Rhif 295 (Cy. 67)
Bwyd, Cymru
Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020
Gwnaed 13th March 2020
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 17th March 2020
Yn dod i rym 1st October 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1)(e), 26(3) ac 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19901, ac, mewn perthynas â rheoliad 2(3), (5) ac (8), gan baragraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau at Reoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch darparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr3, a fewnosodir yn Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 20144gan rheoliad 2(3) a (5) o’r Rheoliadau hyn, gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y Rheoliad yr UE hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.
I’r graddau y mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer pwerau o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn unol ag adran 48(4A)5o’r Ddeddf honno.
Ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau hyn fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd6.
Enwi a chychwyn
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Hydref 2021.
Diwygio Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014
2.—(1) Mae Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 5 (bwydydd nad ydynt wedi eu rhagbecynnu etc. sy’n cynnwys sylwedd neu gynnyrch alergenaidd etc.), ym mharagraff (2)—
(a)
(a) yn is-baragraff (a), ar ôl “ragbecynnu,” mewnosoder “neu”;
(b)
(b) yn is-baragraff (b), yn lle “, neu” rhodder “.”;
(c)
(c) hepgorer is-baragraff (c).
(3) Ar ôl rheoliad 5, mewnosoder—
“Bwydydd sydd wedi eu rhagbecynnu i’w gwerthu’n uniongyrchol – dyletswydd i restru cynhwysion
5A. (1) Rhaid i weithredwr busnes bwyd sy’n cynnig gwerthu bwyd y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo ddarparu’n uniongyrchol ar y pecyn neu ar label sydd ynghlwm wrth y pecyn y manylion sy’n ofynnol o dan y canlynol—
(a)
(a) Erthygl 9(1)(b) (rhestr cynhwysion), fel y’i darllenir gyda’r canlynol—
Erthygl 13(1) i (3),
Erthygl 15,
Erthygl 16(2), i’r graddau y mae’n ymwneud â’r manylion sy’n ofynnol o dan Erthygl 9(1)(b),
Erthygl 17, fel y’i darllenir gyda Rhannau A ac C o Atodiad 6 ac, yn achos cynhwysyn sy’n defnyddio dynodiad briwgig fel enw, y pwyntiau canlynol o Ran B o Atodiad 6—
pwynt 1, a
pwynt 3, fel y’i darllenir gyda rheoliad 4 ac Atodlen 2,
Erthygl 18, fel y’i darllenir gydag Atodiad 7 a pharagraff (1)(a)(iv) o’r rheoliad hwn,
Erthygl 19(1), a
Erthygl 20;
(b)
(b) Erthygl 9(1)(c) (labelu sylweddau neu gynhyrchion penodol sy’n peri alergeddau neu anoddefeddau) fel y’i darllenir gydag Erthygl 21(1) ac Atodiad 2.
(2) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fwyd—
(a)
(a) a gynigir i’w werthu i ddefnyddiwr terfynol neu i arlwywr mawr ac eithrio drwy gyfrwng cyfathrebu o hirbell, a
(b)
(b) sydd wedi ei ragbecynnu i’w werthu’n uniongyrchol.”
(4) Yn rheoliad 6 (bwydydd nad ydynt wedi eu rhagbecynnu etc. – gofyniad cyffredinol i’w henwi), ym mharagraff (2)—
(a)
(a) yn is-baragraff (a), ar ôl “ragbecynnu,” mewnosoder “neu”;
(b)
(b) yn is-baragraff (b), yn lle “, neu” rhodder “.”;
(c)
(c) hepgorer is-baragraff (c).
(5) Ar ôl rheoliad 6, mewnosoder—
“Bwydydd sydd wedi eu rhagbecynnu i’w gwerthu’n uniongyrchol – gofyniad cyffredinol i’w henwi
6A. (1) Rhaid i weithredwr busnes bwyd sy’n cynnig gwerthu bwyd y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo...
To continue reading
Request your trial