WELSH STATUTORY INSTRUMENT
2020 Rhif 89 (Cy. 13)
Bwyd, Cymru
Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2020
Made 30th January 2020
Laid before the National Assembly for Wales 31th January 2020
Coming into force in accordance with regulation 1
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 6(4), 16(1)(a) ac (e) a (2)(b), 17(1) a (2), 26(1) a (3) ac 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990ac a freiniwyd bellach ynddynt hwyac adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â mesurau sy’n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod), gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau penodol at ddarpariaethau Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2016/127 dyddiedig 25 Medi 2015 sy’n ychwanegu at Reoliad (EU) Rhif 609/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch y gofynion penodol o ran cyfansoddiad a gwybodaeth ar gyfer fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol ac ynghylch gofynion o ran gwybodaeth sy’n ymwneud â bwydo babanod a phlant ifancgael eu dehongli fel cyfeiriadau at y darpariaethau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.
Mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.
Ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 (EC) Rhif 178/2002Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau hyn.
S-1
Enwi, cychwyn a chymhwysoEnwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym—
(a)
(a) ac eithrio pan fo is-baragraff (b) yn gymwys, ar 22 Chwefror 2020;
(b)
(b) ar 22 Chwefror 2021 mewn cysylltiad â fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol sydd wedi eu gweithgynhyrchu o hydrolysadau protein.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “awdurdod bwyd” yr ystyr a roddir i “food authority” yn rhinwedd adran 5(1A) o’r Ddeddf;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
ystyr “gofyniad cyfraith UE penodedig” (“specified EU law requirement”) yw unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliad Dirprwyedig a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 1, fel y’i darllenir gydag unrhyw ddarpariaeth a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw;
ystyr “y Rheoliad Dirprwyedig” (“the Delegated Regulation”) yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2016/127 dyddiedig 25 Medi 2015 sy’n ychwanegu at Reoliad (EU) Rhif 609/2013 Senedd Ewrop aʼr Cyngor ynghylch y gofynion penodol o ran cyfansoddiad a gwybodaeth ar gyfer fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol ac ynghylch gofynion o ran gwybodaeth sy’n ymwneud â bwydo babanod a phlant ifanc.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad at ddarpariaeth yn y Rheoliad Dirprwyedig yn gyfeiriad at y ddarpariaeth honno fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.
(3) Mae i ymadroddion Saesneg a’r ymadroddion Cymraeg cyfatebol a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn y Rheoliad Dirprwyedig yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt yn y Rheoliad Dirprwyedig.
Gorfodi
3. Rhaid i bob awdurdod bwyd weithredu a gorfodi’r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.
S-4
Cymhwyso darpariaethau’r DdeddfCymhwyso darpariaethau’r Ddeddf
4.—(1) Mae adran 10(1) a (2) o’r Ddeddf (hysbysiadau gwella) yn gymwys, gyda’r addasiad (yn achos adran 10(1)) a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 2, at ddibenion—
(a)
(a) galluogi i hysbysiad gwella gael ei gyflwyno i berson, sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw sicrhau cydymffurfedd ag unrhyw ofyniad cyfraith UE penodedig; a
(b)
(b) gwneud methu â chydymffurfio â hysbysiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) yn drosedd.
(2) Mae adran 32(1) i (8) o’r Ddeddf(pwerau mynediad) yn gymwys, gyda’r addasiadau (yn achos adran 32(1)) a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 2, at ddibenion galluogi swyddog awdurdodedig o awdurdod gorfodi—
(a)
(a) i arfer pŵer mynediad i ganfod a yw bwyd nad yw’n cydymffurfio â gofyniad cyfraith UE penodedig yn cael ei werthu neu wedi ei werthu; a
(b)
(b) i arfer pŵer mynediad i ganfod a oes unrhyw dystiolaeth o unrhyw doriad o ofyniad cyfraith UE penodedig.
(3) Mae adran 35 o’r Ddeddf (cosbi troseddau) yn gymwys, gyda’r addasiadau a bennir yn Rhan 3 o Atodlen 2, at ddiben pennu’r gosb am drosedd a gyflawnir o dan adran 10(2) fel y’i cymhwysir gan baragraff (1)(b).
(4) Mae adran 37 o’r Ddeddf (apelau) yn gymwys, gyda’r addasiadau a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 2, at ddiben galluogi person i apelio yn erbyn penderfyniad i gyflwyno hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a).
(5) Mae adran 39 o’r Ddeddf (apelau yn erbyn hysbysiadau gwella) yn gymwys, gyda’r addasiadau (yn achos adran 39(1) a (3)) a bennir yn Rhan 5 o Atodlen 2, at ddiben ymdrin ag apelau yn erbyn penderfyniad i gyflwyno hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a).
(6) Mae darpariaethau’r Ddeddf a bennir ym mharagraff (7) (“y darpariaethau paragraff (7)”) yn gymwys, gyda’r addasiadau a bennir yn Rhan 6 o Atodlen 2, at ddibenion y Rheoliadau hyn i’r graddau y maent yn ymwneud â’r darpariaethau yn y Ddeddf, a bennir ym mharagraffau (1) i (5) ac a addesir ganddynt.
(7) Y darpariaethau yn y Ddeddf, a bennir at ddibenion y paragraff hwn, yw—
(a)
(a) adran 3 (rhagdybiaethau y bwriedir i fwyd gael ei fwyta gan bobl);
(b)
(b) adran 20 (troseddau oherwydd bai person arall);
(c)
(c) adran 21(amddiffyniad diwydrwydd dyladwy);
(d)
(d) adran 22 (amddiffyn cyhoeddi yng nghwrs busnes);
(e)
(e) adran 29 (caffael samplau);
(f)
(f) adran 30(dadansoddi etc. samplau);
(g)
(g) adran 33(rhwystro etc. swyddogion);
(h)
(h) adran 36 (troseddau gan gyrff corfforedig);
(i)
(i) adran 36A(troseddau gan bartneriaethau Albanaidd);
(j)
(j) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy’n gweithredu’n ddidwyll);
(k)
(k) adran 53 (dehongli cyffredinol);
ac mae unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau paragraff (7) at adran o’r Ddeddf, gan gynnwys cyfeiriad at “any of the preceding provisions of this Part”, i’w ddarllen fel cyfeiriad at yr adrannau hynny o’r Ddeddf sy’n gymwys yn rhinwedd y Rheoliadau hyn, a chyda’r addasiadau a wneir ganddynt.
S-5
Dirymiadau, arbedion a darpariaethau trosiannolDirymiadau, arbedion a darpariaethau trosiannol
5.—(1) Mae’r offerynnau a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 3 wedi eu dirymu i’r graddau a bennir yng ngholofn 3 o’r tabl hwnnw, yn ddarostyngedig i baragraff (2).
(2) Mae’r offerynnau a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 3 yn parhau i gael effaith (i’r graddau y maent wedi eu dirymu fel arall i’r graddau a bennir yng ngholofn 3 o’r tabl hwnnw)—
(a)
(a) tan 21 Chwefror 2021 mewn cysylltiad â fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol sydd wedi eu gweithgynhyrchu o hydrolysadau protein;
(b)
(b) at ddibenion paragraff (3)(b).
(3) Caiff fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol nad ydynt yn cydymffurfio â gofyniad cyfraith UE penodedig barhau i gael eu marchnata nes i’r stociau o’r bwyd hwnnw gael eu disbyddu, ar yr amod—
(a)
(a) iddo gael ei roi ar y farchnad neu ei labelu—
(i) cyn 22 Chwefror 2020; neu
(ii) cyn 22 Chwefror 2021 yn achos fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol sydd wedi eu gweithgynhyrchu o hydrolysadau protein; a
(b)
(b) bod yr amodau a bennir yn y ddarpariaeth a ganlyn yn Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2007wedi eu bodloni—
(i) rheoliad 3(1) (gwaharddiad ar farchnata fformiwla fabanod oni bai bod amodau penodol wedi eu bodloni) yn achos fformiwla fabanod;
(ii) rheoliad 3(2) (gwaharddiad ar farchnata fformiwla ddilynol oni bai bod amodau penodol wedi eu bodloni) yn achos fformiwla ddilynol.
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
30 Ionawr 2020
ATODLEN 1
Rheoliad 2(1)
Gofynion cyfraith UE penodedig
Colofn 1 |
Colofn 2 |
Darpariaeth benodedig yn y Rheoliad Dirprwyedig |
Y ddarpariaeth yn y Rheoliad Dirprwyedig sydd i’w darllen gydaʼr ddarpariaeth benodedig yn y Rheoliad Dirprwyedig |
Erthygl 1(2) (rhoi ar y farchnad) |
Erthygl 1(1) |
Erthygl 2(1) (gofynion o ran cyfansoddiad ar gyfer fformiwla fabanod) |
Erthyglau 1(1) a 2(3), Atodiad 1 ac Atodiad 3 |
Erthygl 2(2) (gofynion o ran cyfansoddiad ar gyfer fformiwla ddilynol) |
Erthyglau 1(1) a 2(3), Atodiad 2 ac Atodiad 3 |
Erthygl 2(3) (paratoi fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol) |
Erthyglau 1(1), 2(1) a (2) |
Erthygl 3(1) (addasrwydd cynhwysion ar gyfer fformiwla fabanod) |
Erthyglau 1(1) a 3(3) a pharagraff 2 o Atodiad 1 |
Erthygl 3(2) (addasrwydd cynhwysion ar gyfer fformiwla ddilynol) |
Erthyglau 1(1) a 3(3) a pharagraff 2 o Atodiad 2 |
Erthygl 4(2) (trothwy gweddillion sylwedd gweithredol) |
Erthyglau 1(1) a 4(1), (3) a (5) |
Erthygl 4(3) (rhanddirymiad o drothwy gweddillion sylwedd gweithredol) |
Erthyglau 1(1) a 4(1), (2) a (5) |
Erthygl 4(4) (gofynion o ran plaladdwyr) |
Erthyglau 1(1) a 4(1) a (5) |
Erthygl 5(1) (enw bwyd nad yw wedi ei weithgynhyrchu’n llwyr o brotein llaeth gwartheg neu eifr) |
Erthygl 1(1) a Rhan A o Atodiad 6 |
Erthygl 5(2) (enw bwyd sydd wedi ei weithgynhyrchu’n llwyr o brotein llaeth gwartheg neu eifr) |
Erthygl 1(1) a Rhan B o Atodiad 6 |
Erthygl 6 (gofynion penodol o ran gwybodaeth am fwyd) |
Erthyglau 1(1) a 7(1), (2), (3), (5), (6), (7) ac (8) |
Erthygl 7(1) (gofynion penodol o ran y datganiad ynglŷn â maethiad) |
Erthyglau 1(1) a 7(4), Atodiad 1 ac Atodiad 2 |
Erthygl 7(3) (ailadrodd gwybodaeth a gynhwysir mewn datganiad mandadol ynglŷn â maethiad) |
Erthygl 1(1) |
Erthygl 7(4) (datganiad ynglŷn â maethiad yn fandadol ni waeth beth fo maint y pecyn neu’r cynhwysydd) |
Erthyglau 1(1) a 7(1), Atodiad 1 ac Atodiad 2 |
Erthygl 7(5) (cymhwyso Erthyglau 31 i 35 o Reoliad... |