Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2020

JurisdictionWales
CitationWSI 2020/912 (W204) (Cymru)

2020 Rhif 912 (Cy. 204)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2020

Gwnaed 27th August 2020

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 28th August 2020

Yn dod i rym 28th August 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 19841.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

S-1 Enwi a dod i rym

Enwi a dod i rym

1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2020 a deuant i rym am 12.01 a.m. ar 28 Awst 2020.

S-2 Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020

Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020

2.—(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 20202wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2(1), ar ôl is-baragraff (n) mewnosoder—

“(o)

“(o) ystyr “cartref gofal” yw mangre y mae “gwasanaeth cartref gofal” o fewn yr ystyr a roddir gan baragraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 20163yn cael ei ddarparu ynddi;

(p)

(p) ystyr “hosbis” yw mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar gyfer darparu gofal lliniarol i bersonau sy’n dioddef o glefyd sy’n gwaethygu ac sydd yn ei gyfnodau olaf, gan neu ar ran sefydliad y mae darparu gofal o’r fath yn brif swyddogaeth iddo;

(q)

(q) ystyr “llety diogel” yw mangre y mae “gwasanaeth llety diogel” o fewn yr ystyr a roddir gan baragraff 2 o Atodlen 1 i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn cael ei ddarparu ynddi.”

(3) Yn rheoliad 7(2)(a), yn lle “2, 5 neu 6” rhodder “2 neu 5”.

(4) Yn rheoliad 12(2A)—

(a)

(a) yn lle’r geiriau o flaen is-baragraff (a) rhodder “Mae mesurau y gellir eu cymryd o dan baragraff (2) hefyd yn cynnwys—”,

(b)

(b) yn is-baragraff (c), yn lle “Weinidogion Cymru neu i swyddog iechyd cyhoeddus ar gais y naill neu’r llall” rhodder

“unrhyw un o’r canlynol, ar ei gais—

Gweinidogion Cymru,

swyddog iechyd cyhoeddus,

person a ddynodir gan yr awdurdod lleol y mae’r fangre yn ei ardal i brosesu gwybodaeth at ddibenion cysylltu â phersonau a all fod wedi dod i gysylltiad â’r coronafeirws”.

(5) Yn rheoliad 14(2)—

(a)

(a) ar ôl is-baragraff (ja) mewnosoder—

“(jb)

“(jb) cael gwasanaethau addysgol;”,

(b)

(b) ar ôl is-baragraff (p) mewnosoder—

“(q)

“(q) ymweld â pherson sy’n preswylio mewn cartref gofal, hosbis, neu lety diogel.”

(6) Yn rheoliad 14A(2), ar ôl is-baragraff (e) mewnosoder—

“(f)

“(f) cael gwasanaethau addysgol.”

(7) Ar ôl rheoliad 14A mewnosoder—

S-14B

Cyfyngiad ar drefnu digwyddiadau cerddorol penodol sydd heb eu trwyddedu

14B. (1) Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, ymwneud â threfnu digwyddiad cerddorol perthnasol sydd heb ei drwyddedu.

(2) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “digwyddiad cerddorol perthnasol sydd heb ei drwyddedu” yw digwyddiad—

(a)

(a) sy’n cynnwys mwy na 30 o bobl,

(b)

(b) lle y mae pobl yn ymgynnull yn groes i reoliad 14(1) neu 14A(1),

(c)

(c) lle y mae cerddoriaeth yn cael ei chwarae neu ei pherfformio at ddiben adloniant, neu at ddibenion sy’n cynnwys y diben hwnnw, a

(d)

(d) lle o ran chwarae neu berfformio cerddoriaeth—

y mae’n weithgarwch trwyddedadwy (o fewn...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT