Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2020

JurisdictionWales
CitationWSI 2020/686 (Cymru)
Year2020

2020 Rhif 686 (Cy. 153)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2020

Gwnaed 3rd July 2020

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 3rd July 2020

Yn dod i rym 6th July 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 19841.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

S-1 Enwi a dod i rym

Enwi a dod i rym

1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2020 a deuant i rym ar 6 Gorffennaf 2020.

S-2 Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020

Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020

2.—(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 20202wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 1, ar ôl paragraff (5) mewnosoder—

S-6

6. Os yw dwy aelwyd yn cytuno i gael eu trin fel un aelwyd estynedig at ddibenion y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn (ac eithrio ym mharagraffau (7) ac (8)) at “aelwyd” i’w ddehongli fel petai’n cynnwys y ddwy aelwyd.

S-7

7. Er mwyn cytuno i gael eu trin fel un aelwyd estynedig rhaid i bob oedolyn ar y ddwy aelwyd gytuno.

S-8

8. Ond—

(a) dim ond gydag un aelwyd arall y caiff aelwyd gytuno i gael ei thrin fel un aelwyd estynedig, a

(b) os yw’r ddwy aelwyd yn peidio â chytuno i gael eu trin fel un aelwyd estynedig, ni chaiff y naill aelwyd na’r llall gytuno i gael ei thrin fel un aelwyd o dan baragraff (6) gydag unrhyw aelwyd arall.”

(3) Yn lle rheoliad 8 rhodder—

S-8

8. (1) Yn ystod cyfnod yr argyfwng, ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol—

(a)

(a) ymgynnull yn yr awyr agored gydag unrhyw berson arall oni bai am—

aelodau o’i aelwyd neu aelodau o ddim mwy nag un aelwyd arall,

gofalwr iddo, neu

person y mae’n darparu gofal iddo;

(b)

(b) ymgynnull mewn mangre o dan do gydag unrhyw berson arall oni bai am—

aelodau o’i aelwyd,

gofalwr iddo, neu

person y mae’n darparu gofal iddo.

(2) Mae esgus rhesymol yn cynnwys yr angen i wneud y canlynol—

(a)

(a) cael cynhorthwy meddygol, gan gynnwys cael gafael ar unrhyw un neu ragor o’r gwasanaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff 42 o Atodlen 1 neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;

(b)

(b) darparu neu gael gofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;

(c)

(c) darparu neu gael cynhorthwy brys;

(d)

(d) rhoi gwaed;

(e)

(e) gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;

(f)

(f) pan fo’r person yn athletwr elît, hyfforddi neu gystadlu;

(g)

(g) mynd i weinyddiad priodas neu ffurfiad partneriaeth sifil—

fel parti i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil,

os caiff ei wahodd i fynd i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil, neu

fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil.

(h)

(h) mynd i angladd—

fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,

os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu

fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;

(i)

(i) cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;

(j)

(j) cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus hanfodol neu gael y...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT