Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) a Llaeth a Chynhyrchion Llaeth (Diogelu Dynodiadau) (Cymru) 2008
Jurisdiction | UK Non-devolved |
Citation | WSI 2008/1341 (Cymru) |
Year | 2008 |
2008 Rhif 1341 (Cy.141)
BWYD, CYMRU
Gwnaed 21th May 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 22th May 2008
Yn dod i rym 1st July 2008
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1), 17(2), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19901.
Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd iddynt gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd2, cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw tra'r oedd y Rheoliadau hyn yn cael eu llunio a'u gwerthuso.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) a Llaeth a Chynhyrchion Llaeth (Diogelu Dynodiadau) (Cymru) 2008; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2008.
Dehongli
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn —
mae i “awdurdod bwyd” yr ystyr sydd i'r ymadrodd “food authority” yn rhinwedd adran 5(1A) o'r Ddeddf;
ystyr “darpariaeth Gymunedol” (“Community provision”) yw darpariaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 6(2);
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
ystyr “fitamin A” (“vitamin A”) yw fitamin A sy'n bresennol fel y cyfryw neu ar ffurf ei esterau ac mae'n cynnwys beta-caroten ar y sail bod 6 microgram o feta-caroten neu 12 microgram o garotenau eraill sy'n fiolegol actif yn hafal i un microgram o gyfwerth retinol;
ystyr “fitamin D” (“vitamin D”) yw'r fitaminau gwrth-lechau;
mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys meddu ar rywbeth i'w werthu, a chynnig rhywbeth, ei roi ar ddangos neu ei hysbysebu i'w werthu;
ystyr “manwerthu” (“sell by retail”) yw gwerthu i berson nad yw'n prynu er mwyn adwerthu;
ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 445/2007sy'n gosod rheolau manwl penodol ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2991/94sy'n gosod safonau ar gyfer brasterau taenadwy a Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 1898/87ar ddiogelu dynodiadau a ddefnyddir i farchnata llaeth a chynhyrchion llaeth3;
ystyr “Rheoliad y Cyngor” (“the Council Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007sy'n sefydlu cyd-drefniadaeth o farchnadoedd amaethyddol (CFA) ac sy'n ymdrin â darpariaethau penodol ar gyfer cynhyrchion amaethyddol penodedig (Rheoliad CFA Sengl)4.
(2) Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y mae'r ymadroddion Saesneg sy'n cyfateb iddynt yn ymddangos yn Rheoliad y Cyngor neu Reoliad y Comisiwn yr un ystyron yn y Rheoliadau hyn ag sydd i'r ymadroddion Saesneg hynny yn Rheoliad y Cyngor neu Reoliad y Comisiwn.
Esemptiadau rhag y Rheoliadau hyn
3.—(1) Ac eithrio pan fo paragraff (2) yn gymwys, onid oes, a hyd oni fydd, penderfyniad gan Gydbwyllgor yr AEE i ddiwygio Cytundeb yr AEE o dan Erthygl 98 fel y bydd yn cyfeirio at Reoliad y Cyngor a Rheoliad y Comisiwn, ni fydd y Rheoliadau hyn yn gymwys mewn cysylltiad ag unrhyw fraster taenadwy y mae Cytundeb yr AEE yn gymwys iddo ac—
(a)
(a) y daethpwyd ag ef i Gymru —
(i) o Wladwriaeth AAE (ac eithrio Aelod-wladwriaeth) lle cafodd ei gynhyrchu a'i werthu'n gyfreithlon, neu
(ii) o ran arall o'r Deyrnas Unedig os daethpwyd â'r braster taenadwy hwnnw yno o Wladwriaeth AAE o'r fath; a
(b)
(b) sydd wedi'i labelu'n addas i ddangos natur y braster taenadwy.
(2) Ni fydd rheoliad 4 yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fargarîn —
(a)
(a) y daethpwyd ag ef i Gymru —
(i) o Wladwriaeth AAE (ac eithrio'r Deyrnas Unedig) lle cafodd ei gynhyrchu a'i werthu'n gyfreithlon,
(ii) o Aelod-wladwriaeth (ac eithrio'r Deyrnas Unedig) lle'r oedd mewn cylchrediad rhydd ac yn cael ei werthu'n gyfreithlon, neu
(iii) o ran arall o'r Deyrnas Unedig lle'r oedd yn cael ei gynhyrchu a'i werthu'n gyfreithlon neu mewn cylchrediad rhydd ac yn cael ei werthu'n gyfreithlon; a
(b)
(b) sydd wedi'i labelu'n addas i ddangos natur y margarîn.
(3) At ddibenion paragraff (2), mae i “cylchrediad rhydd” yr un ystyr â “free circulation” yn Erthygl 23(2) o'r Cytuniad a sefydlodd y Gymuned Ewropeaidd.
Cynnwys margarîn o ran fitaminau
4. Ni chaiff neb fanwerthu unrhyw fargarîn onid yw'n cynnwys ym mhob 100 gram —
(a) dim llai nag 800 microgram a dim mwy na 1,000 o ficrogramau o fitamin A, a
(b) dim llai na 7.05 microgram a dim mwy nag 8.82 ficrogram o fitamin D,
a swm cymesur mewn unrhyw ran o 100 gram.
Gorfodi
5. Rhaid i bob awdurdod bwyd...
To continue reading
Request your trial