Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) 2020
Jurisdiction | Wales |
2020 Rhif 479 (Cy. 110)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) 2020
Gwnaed 30th April 2020
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1st May 2020
Yn dod i rym 4th May 2020
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 94(5) a (5A), 95(3) a (3A) a 138(7) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 19981ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy2yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) 2020 a deuant i rym ar 4 Mai 2020.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i apelau y mae Rheoliadau 20053yn gymwys iddynt ac a gyflwynir—
(a)
(a) ar neu ar ôl 4 Mai 2020 ond ar neu cyn 31 Ionawr 2021;
(b)
(b) cyn 4 Mai 2020 ond pan na fo’r apêl wedi ei phenderfynu’n llawn ar neu cyn 4 Mai 2020.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2005” yw Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005.
Adolygu rheoliadau 5 i 12 a pha bryd y deuant i ben
2.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu effeithiolrwydd rheoliadau 5 i 12 yn ystod y cyfnod y maent yn cael effaith.
(2) Yn ddarostyngedig i reoliad 3, mae rheoliadau 5 i 12 yn peidio â chael effaith ar 31 Ionawr 2021.
Darpariaethau arbed
3.—(1) Mae rheoliadau 5 i 12 yn parhau i gael effaith ar gyfer apelau y mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt ac nad ydynt wedi eu penderfynu cyn i’r Rheoliadau hyn beidio â chael effaith yn y ffyrdd a ganlyn—
(a)
(a) pan fo panel apêl yn cael ei gyfansoddi i ystyried yr apêl fel panel a chanddo ddau aelod yn unol â pharagraff 1(1) o Atodlen 3 i Reoliadau 2005, caiff barhau i benderfynu’r apêl fel y’i cyfansoddir felly;
(b)
(b) pan fo panel apêl wedi dechrau penderfynu apêl ar sail yr wybodaeth ysgrifenedig a gyflwynir yn unol â pharagraff 2(2) o Atodlen 3 i Reoliadau 2005, caiff barhau i benderfynu’r apêl ar y sail honno;
(c)
(c) mae unrhyw derfynau amser a ragnodir ym mharagraffau 3 i 5 o Atodlen 3 i Reoliadau 2005, neu unrhyw derfynau amser a benderfynir o dan y paragraffau hynny, yn parhau i fod yn gymwys.
(2) Nid yw’r ffaith bod y Rheoliadau hyn wedi dod i ben o dan reoliad 2(2) yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir yn unol â’r Rheoliadau hyn cyn y dyddiad dod i ben.
4. Yn ddarostyngedig i reoliad 3, unwaith y bydd rheoliadau 5 i 12 yn peidio â chael effaith yn unol â rheoliad 2(2), mae Rheoliadau 2005 yn parhau i fod yn gymwys fel pe na bai’r diwygiadau hyn wedi eu gwneud i apelau a gyflwynir—
(a) ar neu ar ôl 1 Chwefror 2021;
(b) ar neu cyn 31 Ionawr 2021 ac nad ydynt wedi eu penderfynu.
Diwygio Rheoliadau 2005
Mae Rheoliadau 2005 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
5. Mae Rheoliadau 2005 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
6. Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y lleoedd priodol mewnosoder—
“mae i “yr awdurdod derbyn” yr un ystyr ag a roddir i “the admisssion authority” yn adran 88(1)(a) a (b);”;
“ystyr “y Cod Apelau Derbyn i Ysgolion” (“the School Admission Appeals Code”) yw’r Cod Apelau Derbyn i Ysgolion, sef y cod a ddyroddir o dan adran 84 sy’n ymwneud ag apelau derbyn;”;
“ystyr “coronafeirws” (“coronavirus”) yw coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-Cov-2);”;
““eithriad y coronafeirws” (“coronavirus exception”) yw amod sy’n gymwys, am reswm sy’n gysylltiedig â mynychder neu drosglwyddiad y coronafeirws—
(a) pan na fo’n rhesymol ymarferol i awdurdod lleol neu gorff llywodraethu ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir gydymffurfio â gofynion paragraff 1(1) a (2) neu 2(1) a (2) o Atodlen 1 (yn ôl y digwydd), (“rheswm y cyfansoddiad”), neu
(b) pan na fo’n rhesymol ymarferol i banel apêl gydymffurfio â’r gofyniad ym mharagraff 1(6) o Atodlen 2, neu baragraffau 4.13, 4.14 neu 7.5 o’r Cod Apelau Derbyn i Ysgolion i ganiatáu i apelyddion neu gynrychiolwyr awdurdodau lleol neu gyrff llywodraethu ymddangos yn bersonol (“rheswm yr apêl yn bersonol);”;
“ystyr “mynediad o bell” (“remote access”) yw mynediad at wrandawiad apêl i alluogi’r rheini nad ydynt i gyd yn bresennol gyda’i gilydd yn yr un man i fynd i’r gwrandawiad neu gymryd rhan ynddo ar yr un pryd drwy ddulliau electronig, gan gynnwys drwy gyswllt awdio byw a chyswllt fideo byw;”;
“ystyr “penderfyniad derbyn” (“admission decision”) yw penderfyniad y cyfeirir ato yn adran 94(1) i (2A) sy’n gwrthod derbyn plentyn i ysgol neu sy’n gwrthod mynediad iddo at chweched dosbarth neu o ran yr ysgol y mae addysg i’w darparu ar gyfer plentyn ynddi.”
7. Yn rheoliad 3 (cyfansoddiad panelau apêl), yn lle “Atodlen 1” rhodder “Atodlen 1 neu, pan fo rheswm cyfansoddiad eithriad y coronafeirws yn gymwys, y paragraffau perthnasol yn Atodlen 1, yn ddarostyngedig i baragraff 1 o Atodlen 3”.
8. Yn rheoliad 5 (y weithdrefn apelio), yn lle “Atodlen 2” rhodder “Atodlen 2 neu, pan fo rheswm apêl yn bersonol eithriad y coronafeirws yn gymwys, y paragraffau perthnasol yn Atodlen 2, yn ddarostyngedig i baragraff 2 o Atodlen 3”.
9. Ar ôl rheoliad 8 (indemnio) mewnosoder—
“Terfynau amser
9. (1) Mae paragraffau 3 a 4 o Atodlen 3 yn effeithiol at ddibenion penderfynu’r amserlen mewn cysylltiad ag apêl yn unol â threfniadau a wneir gan awdurdod lleol neu gorff llywodraethu ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir o dan adran 94.
(2) Mae paragraff 5 o Atodlen 3 yn effeithiol at ddibenion...
To continue reading
Request your trial