Rheoliadau Addysg (Diwygiadau sy'n Ymwneud ag Arolygu Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2014

JurisdictionWales
CitationSI 2014/1212

2014Rhif 1212 (Cy. 128)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Diwygiadau sy'n Ymwneud ag Arolygu Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2014

8 Mai 2014

12 Mai 2014

1 Medi 2014

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 122(1) a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998( 1) a pharagraff 6B(1)(a) o Atodlen 26 i'r Ddeddf honno, a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 77(2) a (9), 80(4), 150 a 152 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000( 2), a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 28(1) ac (8), 39(2)(a), 42(2)(a), 50(4) ac (8), 55(4), 56(3), 57(9) a (10) a 120(2) o Ddeddf Addysg 2005( 3) a pharagraff 6(b) o Atodlen 4 a pharagraffau 2(1) a 3(1) o Atodlen 6 i'r Ddeddf honno, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.-(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Diwygiadau sy'n Ymwneud ag Arolygu Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2014 a deuant i rym ar 1 Medi 2014.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 1999

2. Yn Rheoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 1999( 4) yn rheoliad 4, yn lle paragraff (1)(b) rhodder-

"(b) in all other cases at least once within a six year period beginning on 1 September 2014 and ending on 31 August 2020 and at least once within every subsequent six year period beginning on the expiry of the previous six year period.".

Diwygio Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001

3.-(1) Mae Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001( 5) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2, yn lle paragraff (1)(b) rhodder-

"(b) ym mhob achos arall o leiaf unwaith o fewn cyfnod o chwe blynedd yn dechrau ar 1 Medi 2014 ac yn dod i ben ar 31 Awst 2020 ac o leiaf unwaith o fewn pob cyfnod o chwe blynedd wedi hynny yn dechrau pan ddaw'r cyfnod blaenorol o chwe blynedd i ben.".

(3) Yn rheoliad 4 yn lle "50" rhodder "20".

Diwygio Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006

4.-(1) Mae Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006( 6) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 6, yn lle paragraff (1)(b), rhodder-

"(b) ym mhob achos arall o leiaf unwaith o fewn cyfnod o chwe blynedd yn dechrau ar 1 Medi 2014 ac yn dod i ben ar 31 Awst 2020 ac o leiaf unwaith o fewn pob cyfnod o chwe blynedd wedi hynny yn dechrau pan ddaw'r cyfnod...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT