Gorchymyn Traffordd yr M4 a Chefnffordd yr A470 (Cyfnewidfa Coryton, Caerdydd i Gyfnewidfa Bridge Street, Pontypridd, Rhondda Cynon Taf) (Gwahardd Cerbydau Dros Dro) 2016

JurisdictionWales
CitationWSI 2016/864
Year2016

2016Rhif 864 (Cy. 220)

TRAFFIG FFYRDD, CYMRU

Gorchymyn Traffordd yr M4 a Chefnffordd yr A470 (Cyfnewidfa Coryton, Caerdydd i Gyfnewidfa Bridge Street, Pontypridd, Rhondda Cynon Taf) (Gwahardd Cerbydau Dros Dro) 2016

Gwnaed1Medi2016

Yn dod i rym5Medi2016

Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod traffig ar gyfer y darnau perthnasol o Draffordd Llundain – De Cymru (yr M4) (‘y draffordd’) a Chefnffordd Caerdydd – Llangurig (yr A470) (‘y gefnffordd’), wedi eu bodloni y dylid gwahardd traffig ar ddarnau penodedig o'r draffordd a'r gefnffordd oherwydd gwaith y bwriedir ei wneud ar y draffordd a'r ffordd neu gerllaw iddynt.

Mae Gweinidogion Cymru, felly, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 14(1) a (4) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984( 1), yn gwneud y Gorchymyn hwn.

Enwi, Dehongli a Chychwyn

1. Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 5 Medi 2016 a'i enw yw Gorchymyn Traffordd yr M4 a Chefnffordd yr A470 (Cyfnewidfa Coryton, Caerdydd i Gyfnewidfa Bridge Street, Pontypridd, Rhondda Cynon Taf) (Gwahardd Cerbydau Dros Dro) 2016.

2.—(1) Yn y Gorchymyn hwn:

ystyr ‘cerbyd esempt’(‘exempted vehicle’) yw unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio gan y gwasanaethau brys neu mewn cysylltiad â'r gwaith sy'n arwain at y Gorchymyn hwn;

ystyr ‘cyfnod y gwaith’(‘works period’) yw cyfnodau ysbeidiol sy'n cychwyn am 20:00 o'r gloch ar 5 Medi 2016 ac sy'n dod i ben pan gaiff yr arwyddion traffig dros dro ar gyfer pob cyfnod gwaith eu symud ymaith yn barhaol;

ystyr ‘y darn o'r draffordd’(‘the length of the motorway’) ac ‘y darnau o'r gefnffordd’ (‘the lengths of the trunk road’) yw'r darnau hynny o'r draffordd a'r gefnffordd rhwng Cyfnewidfa Coryton yn Ninas a Sir Caerdydd a Chyfnewidfa Bridge Street, Pontypridd ym Mwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.

(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at erthygl â rhif yn gyfeiriad at yr erthygl sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Gorchymyn hwn.

Gwaharddiad

3. Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, yrru unrhyw gerbyd na pheri na chaniatáu i unrhyw gerbyd, ac eithrio cerbyd esempt, fynd ar y darnau o'r draffordd a'r gefnffordd a bennir yn yr Atodlen.

Cymhwyso

4. Ni fydd y gwaharddiad yn erthygl 3 yn gymwys ond ar yr adegau hynny ac i'r graddau hynny y'i dangosir gan arwyddion traffig.

Cyfnod Para'r Gorchymyn hwn

5. Bydd y Gorchymyn hwn yn para am 12 mis ar y mwyaf.

Llofnodwyd o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, un o Weinidogion Cymru.

Dyddiedig...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT