Gorchymyn Tenantiaethau Sicr (Diwygio'r Trothwy Rhent) (Cymru) 2011
Jurisdiction | Wales |
Citation | SI 2011/1409 |
2011Rhif 1409 (Cy.169)
TAI, CYMRU
Gorchymyn Tenantiaethau Sicr (Diwygio'r Trothwy Rhent) (Cymru) 2011
2 Mehefin 2011
6 Mehefin 2011
1 Rhagfyr 2011
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 1(2A) o Ddeddf Tai 1988( 1) ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy o ran Cymru( 2):
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.-(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tenantiaethau Sicr (Diwygio'r Trothwy Rhent) (Cymru) 2011 a daw i rym ar 1 Rhagfyr 2011.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Cynyddu'r trothwy rhent
2.-(1) Diwygir Atodlen 1 i Ddeddf Tai 1988 (tenantiaethau na chant fod yn denantiaethau sicr) yn unol a pharagraff (2).
(2) Ym mharagraff 2(1)(b) o Atodlen 1( 3), yn lle "£25,000" rhodder "£100,000".
Huw Lewis Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, un o Weinidogion Cymru. |
|
2 Mehefin 2011 |
NODYN ESBONIADOL
( Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio'r swm o rent blynyddol sy'n peri, o dan baragraff 2 o Atodlen 1 i Ddeddf Tai 1988, na chaiff tenantiaeth fod yn denantiaeth sicr pan fo'r rhent blynyddol uwchlaw'r swm hwnnw. Cynyddir y swm hwnnw o £25,000 i £100,000, yn effeithiol o 1 Rhagfyr 2011 ymlaen.
Paratowyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas a'r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi ohono gan y Gyfarwyddiaeth Dai, Llywodraeth Cymru, Swyddfa Merthyr Tudful, Rhydycar, Merthyr Tudful, CF48 1UZ.
(1) 1988 p.50. Mewnosodwyd adran 1(2A) gan reoliad 2 o Reoliadau Cyfeiriadau at Ardrethu (Tai) 1990 (O.S. 1990/434) a pharagraff 27 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hynny.
(2) Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 1(2A), i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); gweler y cofnod ar gyfer Deddf Tai 1988 yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn...
To continue reading
Request your trial