Gorchymyn Cefnffyrdd yr A40/A449 (Man i'r gorllewin o Langrwyne, Powys i Raglan, Sir Fynwy a Rhaglan hyd at y ffin rhwng Cymru a Lloegr, Sir Fynwy) (Gwaharddiadau a Chyfyngiadau Traffig Dros Dro) 2020
Jurisdiction | Wales |
Citation | WSI 2020/467 |
2020Rhif 467 (Cy. 107)
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Gorchymyn Cefnffyrdd yr A40/A449 (Man i'r gorllewin o Langrwyne, Powys i Raglan, Sir Fynwy a Rhaglan hyd at y ffin rhwng Cymru a Lloegr, Sir Fynwy) (Gwaharddiadau a Chyfyngiadau Traffig Dros Dro) 2020
Gwnaed28Ebrill2020
Yn dod i rym5Mai2020
Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod traffig ar gyfer cefnffordd yr A40 a'r darn perthnasol o gefnffordd yr A40/A449, wedi eu bodloni y dylid gwahardd traffig a/neu gyfyngu arno ar ddarnau penodedig o'r cefnffyrdd oherwydd gwaith y bwriedir ei wneud ar y ffyrdd neu gerllaw iddynt.
Mae Gweinidogion Cymru, felly, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 14(1), (4) a (7) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984( 1), yn gwneud y Gorchymyn hwn.
Enwi, Cychwyn a Dehongli
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cefnffyrdd yr A40/A449 (Man i'r gorllewin o Langrwyne, Powys i Raglan, Sir Fynwy a Rhaglan hyd at y ffin rhwng Cymru a Lloegr, Sir Fynwy) (Gwaharddiadau a Chyfyngiadau Traffig Dros Dro) 2020 a daw i rym ar 5 Mai 2020.
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “cerbyd esempt”(“exempted vehicle”) yw:
(a) unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio at y dibenion a ddisgrifir yn adran 87 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984( 2); a
(b) unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion y llynges, y fyddin neu'r llu awyr ac sy'n cael ei yrru gan berson sydd am y tro yn ddarostyngedig i orchmynion aelod o luoedd arfog y Goron, sy'n aelod o'r lluoedd arbennig—
(i) ac sydd wedi ei hyfforddi i yrru ar gyflymderau uchel ac sy'n gweithredu wrth ymateb, neu wrth ymarfer ymateb, i argyfwng diogelwch gwladol; neu
(ii) at ddiben hyfforddi person i yrru cerbydau ar gyflymderau uchel;
ystyr “cyfnod y gwaith”(“works period”) yw cyfnodau ysbeidiol sy'n dechrau am 20:00 o'r gloch ar 5 Mai 2020 ac sy'n dod i ben pan gaiff yr arwyddion traffig dros dro ar gyfer pob cyfnod gwaith eu symud ymaith yn barhaol;
ystyr “y gefnffordd/cefnffyrdd”(“the trunk road(s)”) yw Cefnffordd yr A40/A449 Casnewydd i Gaerwrangon a Chefnffordd yr A40 Rhaglan i Lanymddyfri;
ystyr “lluoedd arbennig”(“special forces”) yw'r unedau hynny o'r lluoedd arfog y mae Cyfarwyddwr y Lluoedd Arbennig yn gyfrifol am gynnal eu galluoedd neu sydd am y tro yn ddarostyngedig i reolaeth weithredol y Cyfarwyddwr hwnnw.
Gwaharddiadau a Chyfyngiadau
3. Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, yrru unrhyw gerbyd, ac eithrio cerbyd esempt, ar y darnau o'r cefnffyrdd a bennir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn.
4. Ni chaiff neb, yn...
To continue reading
Request your trial