Gorchymyn Cefnffordd yr A55 (Cyffordd 11 (Cyfnewidfa Llys y Gwynt), Bangor, Gwynedd i Ffin Cymru/Lloegr) a Chefnffordd yr A494/A550 (Cyfnewidfa Ewlo i Ffin Cymru/Lloegr, Sir y Fflint) (Gwaharddiadau a Chyfyngiadau Traffig Dros Dro) 2020
Jurisdiction | Wales |
Citation | WSI 2020/1145 (Cymru) |
Year | 2020 |
2020Rhif 1145 (Cy. 260)
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Gorchymyn Cefnffordd yr A55 (Cyffordd 11 (Cyfnewidfa Llys y Gwynt), Bangor, Gwynedd i Ffin Cymru/Lloegr) a Chefnffordd yr A494/A550 (Cyfnewidfa Ewlo i Ffin Cymru/Lloegr, Sir y Fflint) (Gwaharddiadau a Chyfyngiadau Traffig Dros Dro) 2020
Gwnaed20Hydref2020
Yn dod i rym21Hydref2020
Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod traffig ar gyfer y darnau perthnasol o Gefnffyrdd yr A55 a'r A494/A550, wedi eu bodloni y dylid cyfyngu ar draffig a/neu ei wahardd ar ddarnau penodedig o'r cefnffyrdd oherwydd gwaith y bwriedir ei wneud ar y ffyrdd neu gerllaw iddynt.
Mae Gweinidogion Cymru, felly, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 14(1), (4) a (7) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984( 1), yn gwneud y Gorchymyn hwn.
Enwi, Cychwyn a Dehongli
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cefnffordd yr A55 (Cyffordd 11 (Cyfnewidfa Llys y Gwynt), Bangor, Gwynedd i Ffin Cymru/Lloegr) a Chefnffordd yr A494/A550 (Cyfnewidfa Ewlo i Ffin Cymru/Lloegr, Sir y Fflint) (Gwaharddiadau a Chyfyngiadau Traffig Dros Dro) 2020 a daw i rym ar 21 Hydref 2020.
2. (1) Yn y Gorchymyn hwn:
ystyr “cerbyd esempt” (“exempted vehicle”) yw:
(a) unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio at y dibenion a ddisgrifir yn adran 87 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984( 2) neu mewn cysylltiad â'r gwaith sy'n arwain at y Gorchymyn hwn;
(b) unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion y llynges, y fyddin neu'r llu awyr ac sy'n cael ei yrru gan berson sydd am y tro yn ddarostyngedig i orchmynion aelod o luoedd arfog y Goron, sy'n aelod o'r lluoedd arbennig—
(i) ac sydd wedi ei hyfforddi i yrru ar gyflymderau uchel ac sy'n gweithredu wrth ymateb, neu wrth ymarfer ymateb, i argyfwng diogelwch gwladol; neu
(ii) at ddiben hyfforddi person i yrru cerbydau ar gyflymderau uchel;
ystyr “cyfnod y gwaith” (“works period”) yw cyfnodau ysbeidiol sy'n dechrau am 00:01 o'r gloch ar 21 Hydref 2020 ac sy'n dod i ben pan gaiff yr arwyddion traffig dros dro ar gyfer pob cyfnod gwaith eu symud ymaith;
ystyr “y gefnffordd” neu “y cefnffyrdd” (“the trunk road(s)”) yw Cefnffordd yr A55 Caer i Fangor a Chefnffordd yr A494/A550 Dolgellau i Fan i'r De o Benbedw;
ystyr “lluoedd arbennig” (“special forces”) yw'r unedau hynny o'r lluoedd arfog y mae Cyfarwyddwr y Lluoedd Arbennig yn gyfrifol am gynnal eu galluoedd neu sydd am y tro yn ddarostyngedig i reolaeth weithredol y Cyfarwyddwr hwnnw.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at erthygl â rhif yn...
To continue reading
Request your trial