Gorchymyn Cefnffordd yr A55 (Cyffordd 2 (Cyfnewidfa TyMawr) i Gyffordd 5 (Cyfnewidfa Treban), Ynys Môn) (Gwahardd Cerbydau, Beicwyr a Cherddwyr Dros Dro) 2020
Jurisdiction | Wales |
Citation | SI 2020/968 |
2020Rhif 968 (Cy. 217)
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Gorchymyn Cefnffordd yr A55 (Cyffordd 2 (Cyfnewidfa TyMawr) i Gyffordd 5 (Cyfnewidfa Treban), Ynys Môn) (Gwahardd Cerbydau, Beicwyr a Cherddwyr Dros Dro) 2020
Gwnaed10Medi2020
Yn dod i rym16Medi2020
Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod traffig ar gyfer y darn perthnasol o gefnffordd yr A55, wedi eu bodloni y dylid gwahardd traffig ar ddarnau penodedig o'r gefnffordd oherwydd gwaith y bwriedir ei wneud ar y ffordd neu gerllaw iddi.
Mae Gweinidogion Cymru, felly, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 14(1) a (4) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984( 1), yn gwneud y Gorchymyn hwn.
Enwi, Cychwyn a Dehongli
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cefnffordd yr A55 (Cyffordd 2 (Cyfnewidfa TyMawr) Gyffordd 5 (Cyfnewidfa Treban), Ynys Môn) (Gwahardd Cerbydau, Beicwyr a Cherddwyr Dros Dro) 2020 a daw i rym ar 16 Medi 2020.
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “cyfnod y gwaith” (“works period”) yw cyfnodau ysbeidiol sy'n dechrau am 19:00 o'r gloch ar 16 Medi 2020 ac sy'n dod i ben pan gaiff yr arwyddion traffig dros dro ar gyfer pob cyfnod gwaith eu symud ymaith;
ystyr “y gefnffordd” (“the trunk road”) yw cefnffordd yr A55 Llundain i Gaergybi.
Gwaharddiadau
3. Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, yrru unrhyw gerbyd ar y darnau o'r gefnffordd a bennir yn Atodlenni 1 a 2 i'r Gorchymyn hwn.
4. Tra bo traffig yn cael ei wahardd gan erthygl 3 rhag symud ar gerbytffordd tua'r dwyrain y darn o'r gefnffordd a bennir yn Atodlen 2 ond, yn unol ag erthygl 8, nad yw'n cael ei wahardd rhag symud ar y gerbytffordd tua'r gorllewin, ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, yrru unrhyw gerbyd ar lôn allanol cerbytffordd tua'r gorllewin y darn o'r gefnffordd i unrhyw gyfeiriad ac eithrio tua'r dwyrain.
5. Tra bo traffig yn cael ei wahardd gan erthygl 3 rhag symud ar gerbytffordd tua'r gorllewin y darn o'r gefnffordd a bennir yn Atodlen 2 ond, yn unol ag erthygl 8, nad yw'n cael ei wahardd rhag symud ar y gerbytffordd tua'r dwyrain, ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, yrru unrhyw gerbyd ar lôn allanol cerbytffordd tua'r dwyrain y darn o'r gefnffordd unrhyw gyfeiriad ac eithrio tua'r gorllewin.
6. Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, yrru unrhyw gerbyd sy'n 3.2 metr o led neu'n lletach ar y darn o'r gefnffordd a bennir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn.
7. Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, reidio unrhyw feic pedal ar y darnau o'r gefnffordd a bennir yn Atodlenni 1 a 3 i'r Gorchymyn hwn.
8. Ni...
To continue reading
Request your trial