YR ATODLEN
Y darn o gerbytffordd tua'r dwyrain y gefnffordd sy'n ymestyn o drwyniad y ffordd ymadael tua'r dwyrain wrth Gyffordd 33 (Llaneurgain) hyd at drwyniad y ffordd ymuno tua'r dwyrain wrth Gyffordd 33b...
Jurisdiction | Wales |
Citation | WSI 2019/161 |
Year | 2019 |
2019Rhif 161 (Cy. 39)
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Gwnaed30Ionawr2019
Yn dod i rym4Chwefror2019
Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod traffig ar gyfer y darn perthnasol o Gefnffordd yr A55, wedi eu bodloni y dylid gwahardd traffig ar ddarnau penodedig o'r gefnffordd oherwydd gwaith y bwriedir ei wneud ar y ffordd neu gerllaw iddi.
Mae Gweinidogion Cymru, felly, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 14(1) a (4) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984( 1), yn gwneud y Gorchymyn hwn.
Enwi, Cychwyn a Dehongli
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cefnffordd yr A55 (Cerbytffordd tua'r Dwyrain rhwng Cyffordd 33 (Llaneurgain) a Chyffordd 33b (Ewloe), Sir y Fflint) (Gwahardd Cerbydau, Beicwyr a Cherddwyr Dros Dro) 2019 a daw i rym ar 4 Chwefror 2019.
2. Yn y Gorchymyn hwn:
ystyr “cerbyd esempt” (“exempted vehicle”) yw unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio gan y gwasanaethau brys ac mewn cysylltiad â'r gwaith sy'n arwain at y Gorchymyn hwn;
ystyr “cyfnod y gwaith” (“works period”) yw'r cyfnod hwnnw sy'n dechrau am 20:00 o'r gloch ar 4 Chwefror 2019 ac sy'n dod i ben pan gaiff yr arwyddion traffig dros dro eu symud ymaith yn barhaol;
ystyr “y gefnffordd” (“the trunk road”) yw Cefnffordd yr A55 Caer i Fangor.
Gwaharddiadau
3. Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, yrru unrhyw gerbyd, ac eithrio cerbyd esempt, ar y darnau o'r gefnffordd a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
4. Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, reidio unrhyw feic pedal ar y darnau o'r gefnffordd a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
5. Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, gerdded ar y darnau o'r gefnffordd a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
Cymhwyso
6. Nid yw'r gwaharddiadau yn erthyglau 3, 4 a 5 yn gymwys ond ar yr adegau hynny ac i'r graddau hynny y mae arwyddion traffig yn eu dangos.
Cyfnod Para'r Gorchymyn hwn
7. Bydd y Gorchymyn hwn yn para am 12 mis ar y mwyaf.
Llofnodwyd o dan awdurdod Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru.
Dyddiedig 30 Ionawr 2019 |
Richard Morgan Pennaeth Cynllunio, Rheoli Asedau a Safonau Llywodraeth Cymru |
YR ATODLEN
Y darn o gerbytffordd tua'r dwyrain y gefnffordd sy'n ymestyn o drwyniad y ffordd ymadael tua'r dwyrain wrth Gyffordd 33 (Llaneurgain) hyd at drwyniad y ffordd ymuno tua'r dwyrain wrth Gyffordd 33b...
To continue reading
Request your trial