OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2020Rhif 12 (Cy. 1)
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Gorchymyn Cefnffordd yr A494 (Ewloe, Sir y Fflint) (Gwahardd Cerddwyr a Beicwyr Dros Dro) 2020
Gwnaed7Ionawr2020
Yn dod i rym12Ionawr2020
Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod traffig ar gyfer y darn perthnasol o Gefnffordd yr A494, wedi eu bodloni y dylid gwahardd traffig ar ddarn penodedig o'r gefnffordd oherwydd gwaith y bwriedir ei wneud ar y ffordd neu gerllaw iddi.
Mae Gweinidogion Cymru, felly, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 14(1) a (4) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984( 1), yn gwneud y Gorchymyn hwn.
Enwi, Cychwyn a Dehongli
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cefnffordd yr A494 (Ewloe, Sir y Fflint) (Gwahardd Cerddwyr a Beicwyr Dros Dro) 2020 a daw i rym ar 12 Ionawr 2020.
2. Yn y Gorchymyn hwn:
ystyr “cyfnod y gwaith” (“works period”) yw'r cyfnod hwnnw sy'n dechrau am 19:00 o'r gloch ar 12 Ionawr 2020 ac sy'n dod i ben pan gaiff yr arwyddion traffig dros dro eu symud ymaith yn barhaol;
ystyr “y gefnffordd” (“the trunk road”) yw Cefnffordd yr A494 Dolgellau i Fan i'r De o Benbedw.
Gwaharddiadau
3. Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, gerdded ar y darn o'r gefnffordd a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
4. Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, reidio unrhyw feic pedal ar y darn o'r gefnffordd a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
Cymhwyso
5. Ni fydd y gwaharddiadau yn erthyglau 3 a 4 yn gymwys ond ar yr adegau hynny ac i'r graddau hynny y bydd arwyddion traffig yn eu dangos.
Cyfnod Para'r Gorchymyn hwn
6. Bydd y Gorchymyn hwn yn para am 18 mis ar y mwyaf.
Llofnodwyd o dan awdurdod Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru.
Dyddiedig 7 Ionawr 2020 |
Richard Morgan
Pennaeth Cynllunio, Rheoli Asedau a Safonau
Llywodraeth Cymru
|
YR ATODLEN
Y darn o droetffordd sy'n gyfagos i ochr ogleddol cefnffordd yr A494 ger Aston Hill, Ewloe, Sir y Fflint sy'n ymestyn am 690 o fetrau o bwynt sy'n gyfagos i ochr ogledd-ddwyreiniol Cylchfan Ewloe hyd at bwynt yn union i'r de o Lwybr Troed Cyhoeddus Rhif 25.
(1) 1984 p. 27; amnewidiwyd adran 14 gan adran 1(1) o Ddeddf Traffig Ffyrdd (Cyfyngiadau Dros Dro) 1991 (p. 26)ac Atodlen 1...