Gorchymyn Cefnffordd yr A487 (Y Stryd Fawr a Sgwâr Owain Glyndwr, Aberystwyth, Ceredigion) (Gwaharddiadau Traffig Dros Dro) 2020
Jurisdiction | Wales |
Citation | WSI 2020/204 |
Year | 2020 |
2020Rhif 204 (Cy. 47)
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Gorchymyn Cefnffordd yr A487 (Y Stryd Fawr a Sgwâr Owain Glyndwr, Aberystwyth, Ceredigion) (Gwaharddiadau Traffig Dros Dro) 2020
Gwnaed24Chwefror2020
Yn dod i rym29Chwefror2020
Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod traffig ar gyfer y darn perthnasol o Gefnffordd yr A487, wedi eu bodloni y dylid gwahardd traffig ar ddarn penodedig o'r gefnffordd gan y cynhelir digwyddiad Parêd Gŵyl Dewi ar y ffordd neu gerllaw iddi.
Mae Gweinidogion Cymru, felly, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 16A o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984( 1), yn gwneud y Gorchymyn hwn.
Enwi, Cychwyn a Dehongli
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cefnffordd yr A487 (Y Stryd Fawr a Sgwâr Owain Glyndwr, Aberystwyth, Ceredigion) (Gwaharddiadau Traffig Dros Dro) 2020 a daw i rym ar 29 Chwefror 2020.
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “cerbyd esempt” (“exempted vehicle”) yw:
(i) unrhyw gerbyd gwasanaeth cyhoeddus;
(ii) unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio gan y gwasanaethau brys;
(iii) unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â gwaith ar y ffordd neu oleuadau neu arwyddion traffig neu waith brys i unrhyw garthffos neu i unrhyw brif bibell neu gyfarpar ar gyfer cyflenwi nwy, dŵr neu drydan, neu gyfarpar telathrebu yn y darn o'r ffordd o dan sylw, neu mewn unrhyw dir cyfagos; neu
(iv) unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio gan un o swyddogion awdurdodedig y digwyddiad i gefnogi'r digwyddiad ac am resymau diogelwch.
ystyr “y cyfnod cau” (“closure period”) yw'r cyfnod sy'n dechrau am 13:00 o'r gloch ar 29 Chwefror 2020 ac sy'n dod i ben pan gaiff yr arwyddion traffig dros dro eu symud ymaith yn barhaol.
ystyr “y gefnffordd” (“the trunk road”) yw cefnffordd yr A487 Abergwaun i Fangor o'r enw Y Stryd Fawr a Sgwâr Owain Glyndwr sy'n ymestyn o'i chyffordd â Stryd y Bont a Heol y Wig hyd at ei chyffordd â Ffordd y Môr a Rhodfa'r Gogledd.
Gwaharddiadau
3. Ni chaiff neb, yn ystod y cyfnod cau, yrru unrhyw gerbyd modur, ac eithrio cerbyd esempt, ar y darn o'r gefnffordd.
4. Ni chaiff neb, yn ystod y cyfnod cau, beri na chaniatáu i unrhyw gerbyd modur lwytho na dadlwytho ar unrhyw adeg ar ochrau'r darn o'r gefnffordd.
Cymhwyso
5. Ni fydd y gwaharddiadau yn erthyglau 3 a 4 yn gymwys ond ar yr adegau hynny ac i'r graddau hynny y bydd arwyddion traffig yn eu dangos.
Cyfnod Para'r Gorchymyn hwn
6. Bydd y Gorchymyn hwn...
To continue reading
Request your trial