Gorchymyn Cefnffordd yr A48 (Cylchfan Cross Hands i Gylchfan Pont Abraham, Sir Gaerfyrddin) (Gwaharddiadau a Chyfyngiadau Traffig Dros Dro) 2020

JurisdictionWales
CitationSI 2020/554

2020Rhif 554 (Cy. 127)

TRAFFIG FFYRDD, CYMRU

Gorchymyn Cefnffordd yr A48 (Cylchfan Cross Hands i Gylchfan Pont Abraham, Sir Gaerfyrddin) (Gwaharddiadau a Chyfyngiadau Traffig Dros Dro) 2020

Gwnaed22Mai2020

Yn dod i rym1Mehefin2020

Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod traffig ar gyfer y darnau perthnasol o Gefnffordd yr A48, wedi eu bodloni y dylid cyfyngu ar draffig a/neu ei wahardd ar ddarnau penodedig o'r gefnffordd oherwydd gwaith y bwriedir ei wneud ar y ffordd neu gerllaw iddi.

Mae Gweinidogion Cymru, felly, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 14(1), (4) a (7) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984( 1), yn gwneud y Gorchymyn hwn.

Enwi, Cychwyn a Dehongli

1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cefnffordd yr A48 (Cylchfan Cross Hands i Gylchfan Pont Abraham, Sir Gaerfyrddin) (Gwaharddiadau a Chyfyngiadau Traffig Dros Dro) 2020 a daw i rym ar 1 Mehefin 2020.

2. Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “cerbyd esempt” (“exempted vehicle”) yw:

(a) unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio at y dibenion a ddisgrifir yn adran 87 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984( 2) neu mewn cysylltiad â'r gwaith sy'n arwain at y Gorchymyn hwn;

(b) unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion y llynges, y fyddin neu'r llu awyr ac sy'n cael ei yrru gan berson sydd am y tro yn ddarostyngedig i orchmynion aelod o luoedd arfog y Goron, sy'n aelod o'r lluoedd arbennig—

(i) ac sydd wedi ei hyfforddi i yrru ar gyflymderau uchel ac sy'n gweithredu wrth ymateb, neu wrth ymarfer ymateb, i argyfwng diogelwch gwladol; neu

(ii) at ddiben hyfforddi person i yrru cerbydau ar gyflymderau uchel;

ystyr “cyfnod y gwaith” (“works period”) yw cyfnodau ysbeidiol sy'n dechrau am 19:00 o'r gloch ar 1 Mehefin 2020 ac sy'n dod i ben pan gaiff yr arwyddion traffig dros dro ar gyfer pob cyfnod o'r gwaith eu symud ymaith;

ystyr “y gefnffordd” (“the trunk road”) yw'r darnau o gefnffordd yr A48 Llundain Abergwaun;

ystyr “lluoedd arbennig” (“special forces”) yw'r unedau hynny o'r lluoedd arfog y mae Cyfarwyddwr y Lluoedd Arbennig yn gyfrifol am gynnal eu galluoedd neu sydd am y tro yn ddarostyngedig i reolaeth weithredol y Cyfarwyddwr hwnnw.

Gwaharddiadau a Chyfyngiadau

3. Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, yrru unrhyw gerbydac eithrio cerbyd esempt, ar y darnau o'r gefnffordd a bennir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn.

4. Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, yrru unrhyw gerbyd modur yn gyflymach na 50 milltir yr awr ar y darnau o'r gefnffordd a bennir yn Atodlen 2...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT