Gorchymyn Cefnffordd yr A470 (Bwlch y Garreg, man i'r dwyrain o Langurig, Powys) (Gwahardd Cerbydau, Beicwyr a Cherddwyr Dros Dro) 2020
Jurisdiction | Wales |
Citation | WSI 2020/55 |
Year | 2020 |
2020Rhif 55 (Cy. 9)
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Gwnaed27Ionawr2020
Yn dod i rym3Chwefror2020
Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod traffig ar gyfer Cefnffordd yr A470, wedi eu bodloni y dylid gwahardd traffig ar ddarn penodedig o'r gefnffordd oherwydd gwaith y bwriedir ei wneud ar y ffordd neu gerllaw iddi.
Mae Gweinidogion Cymru, felly, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 14(1) a (4) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984( 1), yn gwneud y Gorchymyn hwn.
Enwi, Cychwyn a Dehongli
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cefnffordd yr A470 (Bwlch y Garreg, man i'r dwyrain o Langurig, Powys) (Gwahardd Cerbydau, Beicwyr a Cherddwyr Dros Dro) 2020 a daw i rym ar 3 Chwefror 2020.
2. Yn y Gorchymyn hwn:
ystyr “cerbyd esempt” (“exempted vehicle”) yw unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio gan y gwasanaethau brys neu mewn cysylltiad â'r gwaith sy'n arwain at y Gorchymyn hwn;
ystyr “cyfnod y gwaith” (“works period”) yw'r cyfnod sy'n dechrau am 19:00 o'r gloch ar 3 Chwefror 2020 ac sy'n dod i ben pan gaiff yr arwyddion traffig dros dro eu symud ymaith yn barhaol;
ystyr “y gefnffordd” (“the trunk road”) yw'r darn o Gefnffordd yr A470 y Drenewydd i Aberystwyth ym Mwlch y Garreg, man i'r dwyrain o Langurig, Powys sy'n ymestyn o bwynt 1.7 cilometr i'r dwyrain o ganolbwynt Cylchfan Llangurig hyd at bwynt 820 o fetrau i'r gogledd o ganolbwynt ei chyffordd â'r C2079.
Gwaharddiadau
3. Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, yrru unrhyw gerbyd, ac eithrio cerbyd esempt, ar y darn o'r gefnffordd.
4. Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, reidio unrhyw feic pedal ar y darn o'r gefnffordd.
5. Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, gerdded ar y darn o'r gefnffordd.
Cymhwyso
6. Nid yw'r gwaharddiadau yn erthyglau 3, 4 a 5 yn gymwys ond ar yr adegau hynny ac i'r graddau hynny y mae arwyddion traffig yn eu dangos.
Cyfnod Para'r Gorchymyn hwn
7. Bydd y Gorchymyn hwn yn para am 18 mis ar y mwyaf.
Llofnodwyd o dan awdurdod Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru.
Dyddiedig 27 Ionawr 2020 |
Richard Morgan Pennaeth Cynllunio, Rheoli... |
To continue reading
Request your trial