Gorchymyn Cefnffordd yr A458 (Mallwyd i Nant yr Ehedydd, Gwynedd) (Gwaharddiadau a Chyfyngiadau Traffig Dros Dro) 2018
Jurisdiction | Wales |
Citation | WSI 2018/948 |
2018Rhif 948 (Cy. 188)
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Gorchymyn Cefnffordd yr A458 (Mallwyd i Nant yr Ehedydd, Gwynedd) (Gwaharddiadau a Chyfyngiadau Traffig Dros Dro) 2018
Gwnaed28Awst2018
Yn dod i rym1Medi2018
Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod traffig ar gyfer Cefnffordd yr A458, wedi eu bodloni y dylid gwahardd traffig a/neu gyfyngu arno ar ddarn penodedig o'r gefnffordd oherwydd gwaith y bwriedir ei wneud ar y ffordd neu gerllaw iddi.
Mae Gweinidogion Cymru, felly, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 14(1), (4) a (7) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984( 1), yn gwneud y Gorchymyn hwn.
Enwi, Cychwyn a Dehongli
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cefnffordd yr A458 (Mallwyd i Nant yr Ehedydd, Gwynedd) (Gwaharddiadau a Chyfyngiadau Traffig Dros Dro) 2018 a daw i rym ar 1 Medi 2018.
2. Yn y Gorchymyn hwn:
ystyr “cerbyd esempt” (“exempted vehicle”) yw:
(a) unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio at y dibenion a ddisgrifir yn adran 87 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984( 2); a
(b) unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion y llynges, y fyddin neu'r llu awyr ac sy'n cael ei yrru gan berson sydd am y tro yn ddarostyngedig i orchmynion aelod o luoedd arfog y Goron, sy'n aelod o'r lluoedd arbennig—
(i) ac sydd wedi ei hyfforddi i yrru ar gyflymderau uchel ac sy'n gweithredu wrth ymateb, neu wrth ymarfer ymateb, i argyfwng diogelwch gwladol; neu
(ii) at ddiben hyfforddi person i yrru cerbydau ar gyflymderau uchel;
ystyr “cyfnod y gwaith” (“works period”) yw cyfnodau ysbeidiol sy'n dechrau am 08:00 o'r gloch ar 1 Medi 2018 ac sy'n dod i ben pan gaiff yr arwyddion traffig dros dro ar gyfer pob cyfnod gwaith eu symud ymaith;
ystyr “y gefnffordd” (“the trunk road”) yw Cefnffordd yr A458 Amwythig i Ddolgellau yn Sir Gwynedd sy'n ymestyn o'i chyffordd â Chylchfan Mallwyd yr A470 i Nant yr Ehedydd, ger ffin Gwynedd/Powys;
ystyr “lluoedd arbennig” (“special forces”) yw'r unedau hynny o'r lluoedd arfog y mae Cyfarwyddwr y Lluoedd Arbennig yn gyfrifol am gynnal eu galluoedd neu sydd am y tro yn ddarostyngedig i reolaeth weithredol y Cyfarwyddwr hwnnw.
Gwaharddiadau a Chyfyngiadau
3. Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, yrru unrhyw gerbyd, ac eithrio cerbyd esempt, ar y darn o'r gefnffordd.
4. Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, yrru unrhyw gerbyd modur yn gyflymach na 40 milltir yr awr ar y darn o'r gefnffordd.
5. Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, yrru unrhyw gerbyd modur yn gyflymach na 30 milltir yr awr ar...
To continue reading
Request your trial