Gorchymyn Cefnffordd yr A470 (Cyffordd 19 (Cyfnewidfa Llansanffraid Glan Conwy), Bwrdeistref Sirol Conwy) (Gwahardd Cerbydau Dros Dro) 2020

2020Rhif 492 (Cy. 115)

TRAFFIG FFYRDD, CYMRU

Gorchymyn Cefnffordd yr A470 (Cyffordd 19 (Cyfnewidfa Llansanffraid Glan Conwy), Bwrdeistref Sirol Conwy) (Gwahardd Cerbydau Dros Dro) 2020

Gwnaed27Ebrill2020

Yn dod i rym1Mai2020

Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod traffig ar gyfer Cefnffordd yr A470, wedi eu bodloni y dylid gwahardd traffig ar ddarnau penodedig o'r gefnffordd oherwydd gwaith y bwriedir ei wneud ar y ffordd neu gerllaw iddi.

Mae Gweinidogion Cymru, felly, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 14(1) a (4) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984( 1), yn gwneud y Gorchymyn hwn.

Enwi, Cychwyn a Dehongli

1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cefnffordd yr A470 (Cyffordd 19 (Cyfnewidfa Llansanffraid Glan Conwy), Bwrdeistref Sirol Conwy) (Gwahardd Cerbydau Dros Dro) 2020 a daw i rym ar 1 Mai 2020.

2. Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “cyfnod y gwaith” (“works period”) yw'r cyfnod sy'n dechrau am 19:30 ar 1 Mai 2020 ac sy'n dod i ben pan gaiff yr arwyddion traffig dros dro eu symud ymaith yn barhaol;

ystyr “y gefnffordd” (“the trunk road”) yw Cefnffordd yr A470 Maentwrog i Fan i'r Dwyrain o Gonwy.

Gwaharddiad

3. Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, yrru unrhyw gerbyd ar y darnau o'r gefnffordd a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.

Cymhwyso

4. Nid yw'r gwaharddiad yn erthygl 3 yn gymwys ond ar yr adegau hynny ac i'r graddau hynny y bydd arwyddion traffig yn eu dangos.

Cyfnod Para'r Gorchymyn hwn

5. Bydd y Gorchymyn hwn yn para am 18 mis ar y mwyaf.

Llofnodwyd o dan awdurdod Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, un o Weinidogion Cymru.

Dyddiedig 27 Ebrill 2020

Nicci Hunter

Arweinydd Tîm Busnes

Llywodraeth Cymru

YR ATODLEN

Gwahardd Cerbydau Dros Dro

Y darn cyfan o gerbytffordd gylchredol yr A470 wrth Gyffordd 19 (Cyfnewidfa Llansanffraid Glan Conwy), Conwy.

Cefnffordd yr A470 sy'n ymestyn o gerbytffordd gylchredol yr A470 wrth Gyffordd 19 (Cyfnewidfa Llansanffraid Glan Conwy) hyd at gyffordd Cylchfan y Black Cat.

(1) 1984 p. 27; amnewidiwyd adran 14 gan adran 1(1) o Ddeddf Traffig Ffyrdd (Cyfyngiadau Dros Dro) 1991 (p. 26), ac Atodlen 1 iddi. Yn rhinwedd O.S. 1999/672, ac adran 162 o Ddeddf...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT