Gorchymyn Cefnffordd yr A40 (Cylchfan Sanclêr, Sir Gaerfyrddin) (Gwahardd Cerbydau Dros Dro) 2020

2020Rhif 441 (Cy. 99)

TRAFFIG FFYRDD, CYMRU

Gorchymyn Cefnffordd yr A40 (Cylchfan Sanclêr, Sir Gaerfyrddin) (Gwahardd Cerbydau Dros Dro) 2020

Gwnaed14Ebrill2020

Yn dod i rym20Ebrill2020

Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod traffig ar gyfer cefnffordd yr A40, wedi eu bodloni y dylid gwahardd traffig ar ddarnau penodedig o'r gefnffordd oherwydd gwaith y bwriedir ei wneud ar y ffordd neu gerllaw iddi.

Mae Gweinidogion Cymru, felly, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 14(1) a (4) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984( 1), yn gwneud y Gorchymyn hwn.

Enwi, Cychwyn a Dehongli

1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cefnffordd yr A40 (Cylchfan Sanclêr, Sir Gaerfyrddin) (Gwahardd Cerbydau Dros Dro) 2020 a daw i rym ar 20 Ebrill 2020.

2. Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “cerbyd esempt” (“exempted vehicle”) yw unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio gan y gwasanaethau brys neu mewn cysylltiad â'r gwaith sy'n arwain at y Gorchymyn hwn;

ystyr “cyfnod y gwaith” (“works period”) yw'r cyfnod hwnnw sy'n dechrau am 19:00 o'r gloch ar 20 Ebrill 2020 ac sy'n dod i ben pan gaiff yr arwyddion traffig dros dro eu symud ymaith yn barhaol;

ystyr “y gefnffordd” (“the trunk road”) yw'r A40 Llundain i Abergwaun fel a ganlyn;

i. y darn o ffordd unffrwd y gefnffordd sy'n ymestyn o ganolbwynt ei chyffordd â'r Ffordd Sirol sy'n arwain i Bwll Trap hyd at ei chyffordd â Chylchfan Sanclêr.

ii. y darn o ffordd ddeuol y gefnffordd sy'n ymestyn o drwyniad y ffordd ymadael tua'r gorllewin wrth Gylchfan Sanclêr hyd at ganolbwynt y gyffordd honno.

Gwaharddiad

3. Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, yrru unrhyw gerbyd, ac eithrio cerbyd esempt, ar y darnau o'r gefnffordd.

Cymhwyso

4. Ni fydd y gwaharddiad yn erthygl 3 yn gymwys ond ar yr adegau hynny ac i'r graddau hynny y bydd arwyddion traffig yn eu dangos.

Cyfnod Para'r Gorchymyn hwn

5. Bydd y Gorchymyn hwn yn para am 18 mis ar y mwyaf.

Llofnodwyd o dan awdurdod Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, un o Weinidogion Cymru.

Dyddiedig 14 Ebrill 2020

Richard Morgan

Pennaeth Cynllunio, Rheoli...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT