Gorchymyn Cefnffordd yr A470 (Tal-y-cafn, Bwrdeistref Sirol Conwy) (Cyfyngiadau Cyflymder Dros Dro a Dim Goddiweddyd) 2016
2016Rhif 652 (Cy. 178)
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Gwnaed13Mehefin2016
Yn dod i rym20Mehefin2016
Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod traffig ar gyfer y darn perthnasol o Gefnffordd Maentwrog – Man i'r Dwyrain o Gonwy (yr A470) (‘y gefnffordd’), wedi eu bodloni y dylid cyfyngu ar draffig a'i wahardd ar ddarn penodedig o'r gefnffordd oherwydd gwaith y bwriedir ei wneud ar y ffordd neu gerllaw iddi.
Mae Gweinidogion Cymru, felly, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 14(1), (4), (7) a 124 o
Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984( 1), a pharagraff 27 o Atodlen 9 iddi, yn gwneud y Gorchymyn hwn.
Enwi, Dehongli a Chychwyn
1. Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 20 Mehefin 2016 a'i enw yw Gorchymyn Cefnffordd yr A470 (Tal-ycafn, Bwrdeistref Sirol Conwy) (Cyfyngiadau Cyflymder Dros Dro a Dim Goddiweddyd) 2016.
2.—(1) Yn y Gorchymyn hwn:
ystyr ‘cerbyd esempt’ (‘exempted vehicle’) yw:
(a) unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio gan y gwasanaethau brys; a
(b) unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion y llynges, y fyddin neu'r llu awyr ac sy'n cael ei yrru gan berson sydd am y tro yn ddarostyngedig i orchmynion aelod o luoedd arfog y Goron, sy'n aelod o'r lluoedd arbennig—
(i) ac sydd wedi ei hyfforddi i yrru ar gyflymderau uchel ac sy'n gweithredu wrth ymateb, neu wrth ymarfer ymateb, i argyfwng diogelwch gwladol; neu
(ii) at ddiben hyfforddi person i yrru cerbydau ar gyflymderau uchel;
ystyr ‘cyfnod y gwaith’ (‘works period’) yw'r cyfnod hwnnw sy'n dechrau am 06:00 o'r gloch ar 20 Mehefin 2016 ac sy'n dod i ben pan gaiff yr arwyddion traffig dros dro eu symud ymaith yn barhaol;
ystyr ‘y darn o'r gefnffordd’ (‘the length of the trunk road’) yw'r darn o'r gefnffordd yn Nhal-y-cafn ym Mwrdeistref Sirol Conwy sy'n ymestyn o'i chyffordd â'r ffordd fynediad ddiddosbarth â chlwyd ar ei thraws sy'n arwain at Neuadd Bod Hyfryd, i'r de o Dal-y-cafn i'w chyffordd â'r ffordd ddiddosbarth a elwir yn Ffordd Bodnant (sy'n arwain at Ganolfan Arddio Bodnant) i'r gogledd o Dal-y-cafn;
ystyr ‘lluoedd arbennig’(‘special forces’) yw'r unedau hynny o'r lluoedd arfog y mae Cyfarwyddwr y Lluoedd Arbennig yn gyfrifol am gynnal eu galluoedd neu sydd am y tro yn ddarostyngedig i reolaeth weithredol y Cyfarwyddwr hwnnw.
Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at erthygl â rhif yn gyfeiriad at yr erthygl sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y...
To continue reading
Request your trial