Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2017

Year2017

2017 Rhif 421 (Cy. 89)

Aer Glân, Cymru

Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2017

Gwnaed 15th March 2017

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 17th March 2017

Yn dod i rym 7th April 2017

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir gan adran 20(6) o Ddeddf Aer Glân 19931.

S-1 Enwi, cychwyn a chymhwyso

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2017 a deuant i rym ar 7 Ebrill 2017.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

S-2 Tanwyddau awdurdodedig at ddibenion Rhan III o Ddeddf Aer Glân 1993

Tanwyddau awdurdodedig at ddibenion Rhan III o Ddeddf Aer Glân 1993

2. Datgenir bod glo caled, glo lled-galed, trydan, nwy, gloeau stêm isel eu hanweddolrwydd a’r tanwyddau a ddisgrifir yn yr Atodlen yn danwyddau awdurdodedig at ddibenion Rhan III o Ddeddf Aer Glân 1993.

S-3 Dirymu

Dirymu

3. Mae Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 20162wedi eu dirymu.

Carwyn Jones

Prif Weinidog Cymru

15 Mawrth 2017

YR ATODLEN

Rheoliad 2

Tanwyddau Awdurdodedig

SCH-1.1

1. ALDI Winter Flame Smokeless Fuel, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln—

(a) a gyfansoddir o lo caled (sef tua 60 i 80% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 10 i 30% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr o driagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 300°C;

(c) sydd naill ai’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd neu’n frics glo ar siâp gobennydd wedi eu marcio â hicyn ar ffurf llinell hydredol sengl ar bob wyneb, 10 milimetr i ffwrdd o’r llinell gyfatebol gyferbyn;

(d) sy’n pwyso naill ai 55 neu 80 gram ar gyfartaledd; ac

(e) nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau sych yn sylffwr.

SCH-1.2

2. Brics glo Aimcor Excel, a weithgynhyrchir gan Applied Industrial Materials UK Limited yn Newfield, Swydd Durham, neu a weithgynhyrchir gan Oxbow Carbon & Minerals UK Limited yn Windsor House, Cornwall Road, Harrogate, Gogledd Swydd Efrog—

(a) a gyfansoddir o olosg petrolewm (sef tua 60 i 75% o’r cyfanswm pwysau), glo anweddolrwydd-isel a golosg adweithiol (sef tua 20 i 25% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr resin sy’n caledu wrth oeri (sef gweddill y pwysau);

(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu;

(c) sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd;

(d) sy’n pwyso 73 gram ar gyfartaledd; ac

(e) nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

SCH-1.3

3. Brics glo Aimcor Pureheat, a weithgynhyrchir gan Applied Industrial Materials UK Limited yn Immingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln, neu a weithgynhyrchir gan Oxbow Carbon & Minerals UK Limited yn Windsor House, Cornwall Road, Harrogate, Gogledd Swydd Efrog—

(a) a gyfansoddir o lo caled (sef tua 60% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 25% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr (sef gweddill y pwysau);

(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 250°C;

(c) sy’n frics glo ar siâp gobennydd gyda hicyn ar ffurf llinell sengl ar un ochr a hicyn ar ffurf llinell ddwbl ar yr ochr arall;

(d) sy’n pwyso 75 gram ar gyfartaledd; ac

(e) nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

SCH-1.4

4. Brics glo Ancit, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln—

(a) a gyfansoddir o lo caled (sef tua 60 i 95% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (hyd at tua 30% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal (hyd at tua 15% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr o driagl ac asid ffosfforig neu rwymwr organig (sef gweddill y pwysau);

(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 300°C;

(c) sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp clustog;

(d) sy’n pwyso 48 gram ar gyfartaledd; ac

(e) nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

SCH-1.5

5. Big K Fire Log, a weithgynhyrchir gan Top Flames Europe BV, Rustenburgerweg 3, 1646 WJ Ursem Gem, Alkmaar, yr Iseldiroedd—

(a) a gyfansoddir o 29% o gwyr paraffin, 20% o gwyr sy’n tarddu o blanhigion, 17% o belenni coed â diamedr o 6mm a 34% o flawd llif (yn ôl pwysau);

(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o gymysgu ac allwthio;

(c) sydd tua 172 o filimetrau o hyd, 75 o filimetrau o ddyfnder a 75 o filimetrau o uchder, gyda 6 rhigol;

(d) sy’n pwyso 0.8 cilogram ar gyfartaledd; ac

(e) nad yw mwy na 0.1% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

SCH-1.6

6. Big K Fire Log, a weithgynhyrchir gan Top Flames Europe BV, Rustenburgerweg 3, 1646 WJ Ursem Gem, Alkmaar, yr Iseldiroedd—

(a) a gyfansoddir o 29% o gwyr paraffin, 20% o gwyr sy’n tarddu o blanhigion, 17% o belenni coed â diamedr o 6mm a 34% o flawd llif (yn ôl pwysau);

(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o gymysgu ac allwthio;

(c) sydd tua 193 o filimetrau o hyd, 75 o filimetrau o ddyfnder a 75 o filimetrau o uchder, gyda 6 rhigol;

(d) sy’n pwyso 0.9 cilogram ar gyfartaledd; ac

(e) nad yw mwy na 0.1% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

SCH-1.7

7. Big K Fire Log, a weithgynhyrchir gan Top Flames Europe BV, Rustenburgerweg 3, 1646 WJ Ursem Gem, Alkmaar, yr Iseldiroedd—

(a) a gyfansoddir o 29% o gwyr paraffin, 20% o gwyr sy’n tarddu o blanhigion, 17% o belenni coed â diamedr o 6mm a 34% o flawd llif (yn ôl pwysau);

(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o gymysgu ac allwthio;

(c) sydd tua 215 o filimetrau o hyd, 75 o filimetrau o ddyfnder a 75 o filimetrau o uchder, gyda 6 rhigol;

(d) sy’n pwyso 1 cilogram ar gyfartaledd; ac

(e) nad yw mwy na 0.1% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

SCH-1.8

8. Big K Instant Lighting Fire Logs, a weithgynhyrchir gan Allspan BV ym Macroweg 4, 5804 CL Venray, yr Iseldiroedd—

(a) a gyfansoddir o gwyr hydrin (sef tua 58 i 59% o’r cyfanswm pwysau) a blawd llif pren caled (sef gweddill y pwysau);

(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o drin â gwres ac allwthio;

(c) sydd tua 235 o filimetrau o hyd a 80 o filimetrau o ddyfnder, gyda rhigolau ar hyd yr wynebau;

(d) sy’n pwyso 1.1 cilogram ar gyfartaledd; ac

(e) nad yw mwy na 0.1% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

SCH-1.9

9. Big K Restaurant Grade Charcoal, a weithgynhyrchir gan Big K Products UK Limited yn Parque Industrial Alvear, 2126 Alvear, Provincia de Santa Fe, yr Ariannin—

(a) a gyfansoddir o bren quebracho gwyn a byrolyswyd;

(b) a weithgynhyrchwyd gan ddefnyddio proses o byrolysis mewn odyn ar tua 450°C;

(c) sy’n ddarnau o siarcol heb eu marcio, rhwng 30 o filimetrau a 150 o filimetrau; a

(d) nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

SCH-1.10

10. Brics glo Black Diamond Gem, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln—

(a) a gyfansoddir o lwch glo caled (sef tuag 20 i 30% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 40 i 45% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef tua 12 i 22% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr o driagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 300°C;

(c) sy’n frics glo ar siâp gobennydd wedi eu marcio â hicyn ar ffurf dwy linell gyfochrog sy’n rhedeg yn lledredol o amgylch y fricsen;

(d) sy’n pwyso 160 gram ar gyfartaledd; ac

(e) nad yw mwy nag 1.5% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

SCH-1.11

11. Bord na Móna Firelogs, a weithgynhyrchir gan Bord na Móna Fuels Limited, Newbridge, County Kildare, Iwerddon—

(a) a gyfansoddir o gwyr hydrin (sef tua 55% o’r cyfanswm pwysau) a blawd llif pren caled (sef gweddill y pwysau);

(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o drin â gwres ac allwthio;

(c) sydd tua 255 o filimetrau o hyd gyda diamedr o 75 o filimetrau, gyda rhigolau ar hyd un wyneb hydredol:

(d) sy’n pwyso 1.3 cilogram (net) ar gyfartaledd; ac

(e) nad yw mwy na 0.1% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

SCH-1.12

12. Brics glo Bord na Móna Firepak (a farchnetir hefyd fel brics glo Arigna Special), a weithgynhyrchir gan Bord na Móna Fuels Limited, Newbridge, County Kildare, Iwerddon—

(a) a gyfansoddir o lo caled (sef tua 50% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tuag 20 i 40% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef tua 10 i 30% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr seiliedig ar starts (sef gweddill y pwysau);

(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres;

(c) sy’n frics glo heb eu marcio, ar siâp gobennydd;

(d) sy’n pwyso 50 gram ar gyfartaledd; ac

(e) nad yw mwy nag 1.5% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

SCH-1.13

13. Brics glo Brazier, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln—

(a) a gyfansoddir o lo caled (sef tua 60 i 80% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 10 i 30% o’r cyfanswm pwysau), a rhwymwr o driagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 300°C;

(c) sydd naill ai’n frics heb eu marcio ar siâp gobennydd neu’n frics ar siâp gobennydd wedi eu marcio â hicyn ar ffurf llinell hydredol sengl ar bob wyneb, 10 milimetr i ffwrdd o’r llinell gyfatebol gyferbyn;

(d) sy’n pwyso naill ai 50 neu 80 gram ar gyfartaledd; ac

(e) nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau sych yn sylffwr.

SCH-1.14

14. Brics glo Briteflame, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited yn Ystad Ddiwydiannol Mwyndy, Llantrisant, Rhondda Cynon Taf—

(a) a gyfansoddir o lo meddal (sef tua 10 i 15% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 10 i 15% o’r cyfanswm pwysau), llwch glo caled (sef tua 70 i 80% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr starts (sef gweddill y pwysau);

(b) a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT