Gorchymyn Cefnffordd yr A4042 (Cylchfan Edlogan Way, Croesyceiliog i Gylchfan Court Farm, Pont-y-pwl, Torfaen) (Terfyn Cyflymder 50 mya Dros Dro) 2019
Year | 2019 |
2019Rhif 890 (Cy. 160)
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Gwnaed29Ebrill2019
Yn dod i rym3Mai2019
Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod traffig ar gyfer y darn perthnasol o Gefnffordd yr A4042, wedi eu bodloni y dylid cyfyngu ar draffig ar ddarn penodedig o'r gefnffordd oherwydd perygl tebygol i'r cyhoedd.
Mae Gweinidogion Cymru, felly, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 14(1), (4) a (7) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984( 1), yn gwneud y Gorchymyn hwn.
Enwi, Cychwyn a Dehongli
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cefnffordd yr A4042 (Cylchfan Edlogan Way, Croesyceiliog i Gylchfan Court Farm, Pont-y-pwl, Torfaen) (Terfyn Cyflymder 50 mya Dros Dro) 2019 a daw i rym ar 3 Mai 2019.
2. Yn y Gorchymyn hwn:
ystyr “cerbyd esempt” (“exempted vehicle”) yw:
(a) unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio at y dibenion a ddisgrifir yn adran 87 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984( 2); a
(b) unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion y llynges, y fyddin neu'r llu awyr ac sy'n cael ei yrru gan berson sydd am y tro yn ddarostyngedig i orchmynion aelod o luoedd arfog y Goron, sy'n aelod o'r lluoedd arbennig—
(i) ac sydd wedi ei hyfforddi i yrru ar gyflymderau uchel ac sy'n gweithredu wrth ymateb, neu wrth ymarfer ymateb, i argyfwng diogelwch gwladol; neu
(ii) at ddiben hyfforddi person i yrru cerbydau ar gyflymderau uchel;
ystyr “y gefnffordd” (“the trunk road”) yw Cefnffordd yr A4042 Casnewydd i Amwythig;
ystyr “lluoedd arbennig” (“special forces”) yw'r unedau hynny o'r lluoedd arfog y mae Cyfarwyddwr y Lluoedd Arbennig yn gyfrifol am gynnal eu galluoedd neu sydd am y tro yn ddarostyngedig i reolaeth weithredol y Cyfarwyddwr hwnnw.
Cyfyngiad
3. Ni chaiff neb yrru unrhyw gerbyd modur, ac eithrio cerbyd esempt, yn gyflymach na 50 milltir yr awr ar y darn o'r gefnffordd sy'n ymestyn o'i chyffordd ag ochr ogleddol Cylchfan Edlogan Way, Croesyceiliog i'w chyffordd ag ochr ddeheuol Cylchfan Court Farm, Pont-y-pwl, Torfaen, gan gynnwys cerbytffyrdd cylchredol Cylchfannau Cwmbrân a Phont-y-pwl.
Cymhwyso
4. Nid yw'r cyfyngiad yn erthygl 3 yn gymwys ond ar yr adegau hynny ac i'r graddau hynny y mae arwyddion traffig yn eu dangos.
Atal Dros Dro
5. Mae unrhyw ddarpariaethau statudol sy'n cyfyngu ar gyflymder cerbydau ar y darn o'r gefnffordd wedi eu hatal dros dro ar yr adegau hynny pan fo'r...
To continue reading
Request your trial