Rheoliadau Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) (Diwygio) 2020

JurisdictionWales
CitationWSI 2020/257 (Cymru)
Year2020

2020 Rhif 257 (Cy. 59)

Bwyd, Cymru

Rheoliadau Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) (Diwygio) 2020

Gwnaed 10th March 2020

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 12th March 2020

Yn dod i rym 3rd April 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1)(a) ac (f), 17(2), 26(1)(a) a (3) ac 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19901ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy2ac adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19723a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â mesurau sy’n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd4. Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau penodol at ddarpariaethau yn Rheoliad (EC) Rhif 2016/1285gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y darpariaethau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.

Mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19906.

Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd7, ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau hyn.

S-1 Enwi a chychwyn

Enwi a chychwyn

1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) (Diwygio) 2020.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 3 Ebrill 2020.

S-2 Diwygio Rheoliadau Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) 2007

Diwygio Rheoliadau Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) 2007

2.—(1) Mae Rheoliadau Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) 20078wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y diffiniad o “y Rheoliad CE” (“the EC Regulation”) yn lle “I neu II” rhodder “1, 2 neu 3”.

(3) Yn rheoliad 4(2) (tramgwyddau a chosbau)—

(a)

(a) ar ddiwedd is-baragraff (ch) hepgorer “a”;

(b)

(b) ar ddiwedd is-baragraff (d) yn lle “.” rhodder “;”;

(c)

(c) ar ôl is-baragraff (d) mewnosoder—

“(dd)

“(dd) Erthygl 8(2)(a)(i) (gwahardd ychwanegu sylwedd a restrir yn Atodiad 3, Rhan A at fwydydd neu ei ddefnyddio wrth weithgynhyrchu bwydydd);

(e)

(e) Erthygl 8(2)(a)(ii) (gwahardd ychwanegu sylwedd a restrir yn Atodiad 3, Rhan B at fwydydd neu ei ddefnyddio wrth weithgynhyrchu bwydydd oni bai bod y sylwedd hwnnw yn cael ei ychwanegu neu ei ddefnyddio yn unol â’r amodau a bennir yn y Rhan honno).”

(4) Ar ôl rheoliad 4 mewnosoder—

S-4A

Darpariaeth drosiannol mewn perthynas â bwyd sy’n cynnwys sylwedd a restrir yn Atodiad 3, Rhan B

4A. Nid oes tramgwydd wedi’i gyflawni o dan baragraff (1) o reoliad 4 yn rhinwedd paragraff (2)(e) o’r rheoliad hwnnw mewn cysylltiad ag ychwanegu...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT