Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2003

JurisdictionUK Non-devolved
CitationWSI 2003/1719 (Cymru)
Year2003

2003Rhif 1719 (Cy.186)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2003

9 Gorffennaf 2003

1 Awst 2005

Drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1)(a) ac (e), 17(1), 26(1)(a) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990( 1) , ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru( 2), ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol â gofynion Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 o Senedd Ewrop a'r Cyngor( 3) yn pennu egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu'r Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewropeaidd ac yn pennu gweithdrefnau ynglyn â materion diogelwch bwyd ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2003; deuant i rym ar 1 Awst 2005 ac maent yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli

2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn -

ystyr "Cyfarwyddeb 2002/46" ("Directive 2002/46") yw Cyfarwyddeb 2002/46/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor( 4)) ar gyd-ddynesu cyfreithiau Aelod-wladwriaethau mewn perthynas ag ychwanegion bwyd;

ystyr "defnyddiwr olaf" ("ultimate consumer") yw unrhyw berson sy'n prynu ac eithrio -

(a) at ddibenion ailwerthu;(b) at ddibenion sefydliad arlwyo; neu(c) at ddibenion busnes gweithgynhyrchu;

ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

ystyr "ffurf dogn" ("dose form") yw ffurf megis capsiwlau, pastiliau, tabledi, pils, a ffurfiau tebyg eraill, sachets powdr, ampylau hylifau, poteli sy'n dosbarthu diferion, a ffurfiau tebyg eraill ar hylifau neu bowdrau sydd wedi'u dylunio i gael eu cymryd mewn meintiau unedol bach sydd wedi'u mesur;

mae "gwerthu" ("sell") yn cynnwys meddu gyda'r bwriad o werthu a chynnig, amlygu neu hysbysebu gyda'r bwriad o werthu;

mae "paratoi" ("preparation") yn cynnwys gweithgynhyrchu ac unrhyw ffurf ar brosesu neu drin;

ystyr "sefydliad arlwyo" ("catering establishment") yw bwyty, ffreutur, clwb, tafarn, ysgol, ysbyty neu sefydliad tebyg (gan gynnwys cerbyd neu stondin sefydlog neu symudol) os yw bwyd, wrth gynnal busnes, yn cael ei baratoi i'w gyflenwi i'r defnyddiwr olaf ac yn barod i'w fwyta heb baratoi pellach; ac

ystyr "ychwanegyn bwyd" ("food supplement") yw unrhyw fwyd sydd wedi'i fwriadu i ychwanegu at ddeiet normal ac sydd -

(a) yn ffynhonnell grynodedig o fitamin neu fwyn neu sylwedd arall ag effaith faethol neu ffisiolegol, ar ei ben ei hun neu mewn cyfuniad; a(b) yn cael ei werthu ar ffurf dogn.

(2) Rhaid ystyried bod ychwanegyn bwyd wedi'i ragbacio at ddibenion y Rheoliadau hyn -

(a) os yw'n barod i'w werthu i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo, a(b) os yw wedi'i roi mewn pecyn cyn cael ei gynnig i'w werthu yn y fath fodd ag i beidio â chaniatáu newid yr ychwanegyn bwyd heb agor neu newid y pecyn.

(3) Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac ar eu ffurf Saesneg yng Nghyfarwyddeb 2002/46 yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn â'r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn y Gyfarwyddeb honno.

Cwmpas y Rheoliadau

3. - (1) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ychwanegion bwyd sy'n cael eu gwerthu fel bwyd a'u cyflwyno fel y cyfryw.

(2) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i gynhyrchion meddyginiaethol fel y'u diffinnir gan Gyfarwyddeb 2001/83/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor( 5) ar god y Gymuned ynglyn â chynhyrchion meddyginiaethol i bobl eu defnyddio.

Cyfyngiad ar y ffurf a ddefnyddir i werthu ychwanegion bwyd i'r defnyddiwr olaf

4. Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn bwyd i'r defnyddiwr olaf oni bai ei fod wedi'i ragbacio.

Gwaharddiadau gwerthu sy'n ymwneud â chyfansoddiad ychwanegion bwyd

5. - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni chaiff neb werthu ychwanegyn bwyd y mae fitamin neu fwyn wedi'i ddefnyddio wrth ei gynhyrchu oni bai bod y fitamin neu'r mwyn hwnnw -

(a) wedi'i restru yng ngolofn 1 o Atodlen 1; a(b) ar ffurf sydd(i) wedi'i rhestru yn Atodlen 2, a(ii) yn bodloni'r meini prawf purdeb perthnasol.

(2) Y meini prawf purdeb perthnasol at ddibenion paragraff (1)(b)(ii) yw -

(a) y meini prawf purdeb, os o gwbl, a bennwyd drwy ddeddfwriaeth Gymunedol ar gyfer defnyddio'r sylwedd o dan sylw wrth gynhyrchu bwyd at ddibenion heblaw'r rhai y mae Cyfarwyddeb 2002/46 yn ymdrin â hwy; neu(b) yn absenoldeb meini prawf purdeb o'r fath, y meini prawf purdeb sy'n dderbyniol yn gyffredinol ar gyfer y sylwedd o dan sylw ac sy'n cael eu hargymell gan gyrff rhyngwladol.

(3) Yn achos fitamin neu fwyn nad yw wedi'i restru yng ngholofn 1 o Atodlen 1 neu nad yw ar ffurf a restrir yn Atodlen 2, ni fydd y gwaharddiadau ym mharagraff (1) yn gymwys tan 1 Ionawr 2010 -

(a) os oedd y sylwedd o dan sylw yn cael ei ddefnyddio wrth gynhyrchu ychwanegyn bwyd a oedd ar werth yn y Gymuned Ewropeaidd ar 12 Gorffennaf 2002;(b) os cafodd coflen yn cefnogi'r defnydd ar y sylwedd o dan sylw ei chyflwyno i'r Comisiwn gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd neu unrhyw Aelod-wladwriaeth arall erbyn 12 Gorffennaf 2005; ac(c) nad yw'r Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewropeaidd wedi rhoi barn anffafriol ynglyn â defnyddio'r sylwedd hwnnw, neu ar ei ddefnyddio ar y ffurf honno wrth gynhyrchu ychwanegion bwyd.

Cyfyngiadau ar werthu sy'n ymwneud â labelu etc ychwanegion bwyd

6. - (1) Ni chaiff neb werthu ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon at y defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo os nad yw'r enw y mae'n cael ei werthu odano yn "ychwanegyn bwyd".

(2) Heb ragfarnu Rheoliadau Labelu Bwyd 1996( 6), ni chaiff neb werthu ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon at y defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo oni bai ei fod wedi'i farcio neu wedi'i labelu â'r manylion canlynol -

(a) enw categori unrhyw fitamin neu fwyn neu sylwedd arall ag effaith faethol neu ffisiolegol sy'n nodweddu'r cynnyrch neu fynegiant o natur y fitamin neu'r mwyn neu'r sylwedd arall;(b) y gyfran o'r cynnyrch yr argymhellir ei bwyta'n ddyddiol;(c) rhybudd i beidio â chymryd mwy na'r dogn dyddiol penodedig a argymhellir;(ch) datganiad i'r perwyl na ddylid defnyddio ychwanegion bwyd yn lle deiet amrywiol;(d) datganiad i'r perwyl y dylid storio'r cynnyrch y tu allan i gyrraedd plant bach; ac(dd) faint o unrhyw fitamin neu fwyn neu sylwedd arall ag effaith faethol neu ffisiolegol sy'n bresennol yn y cynnyrch.

(3) Rhaid i'r wybodaeth sy'n ofynnol o dan baragraff (2)(dd) -

(a) cael ei rhoi ar ffurf Rhif au;(b) cael ei rhoi yn achos fitamin neu fwyn a rhestrir yng ngholofn 1 o Atodlen 1, gael ei roi drwy ddefnyddio'r uned berthnasol a...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT