Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2009

JurisdictionUK Non-devolved
CitationWSI 2009/3378 (Cymru)
Year2009

2009Rhif 3378 (Cy.300)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2009

21 Rhagfyr 2009

23 Rhagfyr 2009

20 Ionawr 2010

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1)(a), (e) ac (f), 17(1) a (2), 26(1)(a) a (b), (2)(e) a (3), a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990( 1), a pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972( 2).

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i unrhyw gyfeiriad at Atodiad i offeryn UE a bennir yn rheoliad 2(6) gael ei ddehongli fel cyfeiriad at yr Atodiad hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.

Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, rhoesant sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd ( 3), ymgynghorwyd yn agored a thryloyw a'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2009, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 20 Ionawr 2010.

Dehongli

2.-(1)Yn y Rheoliadau hyn-

ystyr "asid" ("asid") yw unrhyw sylwedd sy'n cynyddu asidedd bwyd a/neu'n rhoi iddo flas sur;

mae i "awdurdod bwyd" ("food authority"), yn ddarostyngedig i baragraff (3), yr ystyr a roddir i "food authority" yn rhinwedd adran 5(1A) o'r Ddeddf;

ystyr "babanod" ("infants") yw plant sydd o dan un flwydd oed;

ystyr "bwyd" ("food") yw bwyd a werthir, neu y bwriedir ei werthu, i'w fwyta gan bobl, ac at ddibenion rheoliad 16 ac yn rheoliad 17, sy'n cynnwys lliw, melysydd ac ychwanegyn bwyd;

ystyr "bwyd ar gyfer babanod neu blant ifanc" ("food for infants or young children") yw bwyd o fewn cwmpas Erthygl 1.1, 2 a 3(c) o Gyfarwyddeb 09/39, ond sydd hefyd yn cynnwys unrhyw fwyd ar gyfer babanod neu blant ifanc nad yw eu hiechyd yn dda;

ystyr "cadwolyn" ("preservative") yw unrhyw sylwedd sy'n estyn oes silff bwyd drwy ei amddiffyn rhag dirywiad a achosir gan ficro-organebau;

mae i "cludydd" ("carrier") a "toddydd cludo" ("carrier solvent") yr ystyron, yn eu trefn, a roddir i "carrier" a "carrier solvent" yng Nghyfarwyddeb 95/2;

ystyr "codydd" ("raising agent") yw unrhyw sylwedd neu gyfuniad o sylweddau sy'n rhyddhau nwy a thrwy hynny yn cynyddu cyfaint toes neu gytew;

ystyr "Cyfarwyddeb 88/388 "("Directive 88/388") yw Cyfarwyddeb y Cyngor 88/388/EEC ar ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau ynglyn a chyflasynnau i'w defnyddio mewn bwydydd ac a deunyddiau crai ar gyfer eu cynhyrchu( 4);

ystyr "Cyfarwyddeb 94/35" ("Directive 94/3") yw Cyfarwyddeb 94/35/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar felysyddion i'w defnyddio mewn bwydydd( 5);

ystyr "Cyfarwyddeb 94/36" ("Directive 94/36") yw Cyfarwyddeb 94/36/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar liwiau i'w defnyddio mewn bwydydd ( 6);

ystyr "Cyfarwyddeb 95/2" ("Directive 95/2") yw Cyfarwyddeb 95/2/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ychwanegion bwyd ac eithrio lliwiau a melysyddion( 7);

ystyr "Cyfarwyddeb 08/60" ("Directive 08/60") yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2008/60/EC sy'n pennu meini prawf purdeb penodol ynglyn a melysyddion i'w defnyddio mewn bwydydd( 8);

ystyr "Cyfarwyddeb 08/84" ("Directive 08/84") yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2008/84/EC sy'n pennu meini prawf purdeb penodol ar gyfer ychwanegion bwyd ac eithrio lliwiau a melysyddion( 9);

ystyr "Cyfarwyddeb 08/128" ("Directive 08/128") yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2008/128/EC sy'n pennu meini prawf purdeb penodol ar gyfer lliwiau i'w defnyddio mewn bwydydd( 10);

ystyr "Cyfarwyddeb 09/39" ("Directive 09/39") yw Cyfarwyddeb 2009/39/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar fwydydd i'w defnyddio at ddibenion maethol penodol (ail-luniwyd)( 11);

mae i "cyflasyn" ("flavouring") yr ystyr a roddir i "flavouring" yn Erthygl 1.2 o Gyfarwyddeb 88/388;

ystyr "cyfrwng ewynnu" ("foaming agent") yw unrhyw sylwedd sy'n gwneud yn bosibl ffurfio gwasgariad homogenaidd o wedd nwyol yn bosibl mewn bwyd hylifol neu solid;

ystyr "cyfrwng gelio" ("gelling agent") yw unrhyw sylwedd sy'n rhoi gwead i fwyd drwy ffurfio gel;

ystyr "cyfrwng gwrthdalpio" ("anti-caking agent") yw unrhyw sylwedd sy'n lleihau tuedd gronynnau unigol o fwyd i lynu wrth ei gilydd;

ystyr "cyfrwng gwrthewynnu" ("anti-foaming agent") yw unrhyw sylwedd sy'n atal neu'n lleihau ewynnu;

ystyr "cyfrwng sadio" ("firming agent") yw unrhyw sylwedd sy'n gwneud neu'n cynnal meinweoedd ffrwythau neu lysiau mewn cyflwr cadarn neu gras, neu sy'n rhyngweithio a chyfrwng gelio i gynhyrchu neu gryfhau gel;

ystyr "cyfrwng sgleinio" ("glazing agent") yw unrhyw sylwedd, pan osodir ef ar arwyneb allanol bwyd, sy'n rhoi gwedd loyw i'r bwyd neu'n darparu haen amddiffynnol, ac yn cynnwys ireidiau;

ystyr "cyfrwng swmpuso" ("bulking agent") yw unrhyw sylwedd sy'n cyfrannu at gyfaint bwyd, heb gyfrannu'n sylweddol at yr ynni sydd ar gael ohono;

ystyr "cyfrwng trin blawd" ("flour treatment agent") yw sylwedd a ychwanegir at flawd neu does i wella ei ansawdd ar gyfer pobi, ond nid yw'n cynnwys unrhyw emylsydd;

ystyr "cymhorthyn prosesu" ("processing aid") yw unrhyw sylwedd, nas bwyteir fel bwyd ar ei ben ei hunan, a ddefnyddir yn fwriadol wrth brosesu deunyddiau crai, bwydydd neu'u cynhwysion i gyflawni diben technolegol penodol wrth drin neu brosesu, ac a allai achosi presenoldeb anfwriadol, ond technegol anochel, gweddillion o'r sylwedd neu'i ddeilliadau yn y cynnyrch terfynol, ond yn unig pan nad yw'r gweddillion hynny yn achosi unrhyw risg i iechyd nac yn cael unrhyw effaith dechnolegol ar y cynnyrch gorffenedig;

ystyr "darpariaeth Rheoliad 1333/2008 benodedig" ("specified Regulation 1333/2008 provision") yw unrhyw ddarpariaeth o Reoliad 1333/2008 a nodir yn y golofn gyntaf o'r Atodlen ac y disgrifir ei bwnc yn ail golofn yr Atodlen honno;

ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

ystyr "emylsydd" ("emulsifier") yw unrhyw sylwedd sy'n gwneud yn bosibl ffurfio neu gynnal cymysgedd homogenaidd o ddwy neu ragor o weddau anghymysgadwy, megis olew a dwr, mewn bwyd;

mae "gwerthu" ("sell") yn cynnwys meddu ar gyfer gwerthu, a chynnig, dangos neu hysbysebu ar gyfer gwerthu, a dehonglir "gwerthiant" ("sale" ) a "sold" ("gwerthwyd" ) yn unol a hynny;

ystyr "gwlybyrydd" ("humectant") yw unrhyw sylwedd sy'n atal bwyd rhag sychu, drwy wrthweithio yn erbyn effaith lleithder isel yn yr awyrgylch, neu sy'n hyrwyddo ymdoddiad powdr mewn cyfrwng dyfrllyd;

ystyr "gwrthocsidydd" ("antioxidant") yw unrhyw sylwedd sy'n estyn oes silff bwyd drwy ei amddiffyn rhag dirywiad a achosir gan ocsideiddio, gan gynnwys egrwydd braster a newidiadau o ran lliw;

ystyr "gyrrydd" ("propellant") yw unrhyw nwy, ac eithrio aer, sy'n allyrru bwyd allan o gynhwysydd;

ystyr "halwyn emylsio" ("emulsifying salt") yw unrhyw sylwedd sy'n trawsnewid y proteinau mewn caws i ffurf wasgaredig, a thrwy hynny greu dosbarthiad homogenaidd o'r braster a'r cydrannau eraill;

mae i "lliw" ("colour") yr ystyr a roddir i "colour" yng Nghyfarwyddeb 94/36;

ystyr "lliw a ganiateir" ("permitted colour") yw unrhyw liw a restrir yn Atodiad I i Gyfarwyddeb 94/36 sy'n bodloni'r meini prawf purdeb penodol ar gyfer y lliw hwnnw, a bennir yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb 08/128;

ystyr "lliw penodedig a ganiateir" ("specified permitted colour") yw unrhyw liw a ganiateir ac eithrio-

(a) E123 Amaranth;(b) E127 Erythrosine;(c) E128 Red 2G;(ch) E154 Brown FK;(d) E160b Annatto, bixin, norbixin;(dd) E161g Canthaxanthin;(e) E173 Aluminium; ac(h) E180 Litholrubine BK;

ystyr "meini prawf purdeb" ("purity criteria"), mewn perthynas ag ychwanegyn amrywiol, yw'r meini prawf purdeb a bennir mewn perthynas a'r ychwanegyn hwnnw yn Atodiad I i Gyfarwyddeb 08/84/EC;

ystyr "melysydd" ("sweetener") yw unrhyw ychwanegyn bwyd a ddefnyddir neu a fwriedir i'w ddefnyddio-

(a) i roi blas melys i fwyd; neu(b) fel melysydd pen-bwrdd;

ystyr "melysydd a ganiateir" ("permitted sweetener") yw unrhyw felysydd a nodir yn yr ail golofn o'r Atodiad i Gyfarwyddeb 94/35 sy'n bodloni'r meini prawf purdeb penodol ar gyfer y melysydd hwnnw, a bennir yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb 08/60;

ystyr "nwy pecynnu" ("packaging gas") yw unrhyw nwy ac eithrio aer, a osodir mewn cynhwysydd cyn, yn ystod, neu ar ôl rhoi bwyd yn y cynhwysydd hwnnw;

ystyr "plant ifanc" ("young children") yw plant rhwng un flwydd a thair blwydd oed;

ystyr "Rheoliad 1333/2008" ("Regulation 1333/2008") yw Rheoliad (EC) Rhif 1333/2008Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ychwanegion bwyd ( 12);

ystyr "rheolydd asidedd" ("acidity regulator") yw unrhyw sylwedd sy'n newid neu'n rheoli asidedd neu alcalinedd bwyd;

mae i'r ymadrodd "rhoi ar y farchnad" ("placing on the market") yr ystyr a roddir i "placing on the market" yn Erthygl 3.8 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd;

ystyr "secwestrydd" ("sequestrant") yw unrhyw sylwedd sy'n ffurfio cymhlygyn cemegol gydag ionau metelig;

mae i "sefydlogydd" ("stabiliser") yr ystyr a roddir i "stabiliser" yng Nghyfarwyddeb 95/2;

ystyr "startsh addasedig" ("modified starch") yw unrhyw sylwedd a geir drwy gyfrwng un neu ragor o driniaethau ar startsh bwytadwy, a allai fod wedi cael triniaeth ffisegol neu ensymatig ac wedi ei deneuo ag asid neu alcali, neu wedi ei gannu;

ystyr "sylwedd gwella blas" ("flavour enhancer") yw unrhyw sylwedd sy'n gwella blas presennol a/neu arogl bwyd;

ystyr "tewychydd" ("thickener") yw unrhyw sylwedd sy'n cynyddu gludedd bwyd;

ystyr "ychwanegyn amrywiol" ("miscellaneous additive") yw unrhyw ychwanegyn bwyd a ddefnyddir neu a fwriedir i'w ddefnyddio yn bennaf fel asid, rheolydd asidedd, cyfrwng gwrthdalpio, cyfrwng gwrthewynnu, gwrthocsidydd, cyfrwng...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT