Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) (Diwygio) 2020

JurisdictionWales
CitationWSI 2020/1134 (W259) (Cymru)

2020 Rhif 1134 (Cy. 259)

Iechyd Planhigion, Cymru

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) (Diwygio) 2020

Gwnaed 16th October 2020

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 20th October 2020

Yn dod i rym 13th November 2020

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19721(“Deddf 1972”) mewn perthynas â’r polisi amaethyddol cyffredin2.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf 1972, a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi, a chyda cysyniad y Trysorlys, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 56(1) o Ddeddf Cyllid 19733sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy4.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i’r cyfeiriadau at offerynnau’r Undeb Ewropeaidd a grybwyllir yn rheoliad 2(3)(b) gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.

S-1 Enwi a chychwyn

Enwi a chychwyn

1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) (Diwygio) 2020 a deuant i rym ar 13 Tachwedd 2020.

1 Diwygio Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020

RHAN 1

Diwygio Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020

S-2 Diwygio Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020

Diwygio Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020

2.—(1) Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 20205wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2(1), ym mharagraff (c) o’r diffiniad o “pla planhigion a reolir”, ar y diwedd mewnosoder “, gan gynnwys pla planhigion cwarantin posibl o fewn yr ystyr a roddir yn rheoliad 21(3)”.

(3) Yn rheoliad 3(1)—

(a)

(a) hepgorer y diffiniadau o—

(i) “Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2017/198”, a

(ii) “Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1615”;

(b)

(b) ar y diwedd mewnosoder—

“ystyr “Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2020/885” (“Commission Implementing Regulation (EU) 2020/885”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2020/885 o ran mesurau i atal Pseudomonas syringae pv. actinidiae Takikawa, Serizawa, Ichikawa, Tsuyumu & Goto6rhag cael ei gyflwyno i’r Undeb a lledaenu ynddo;

ystyr “Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2020/1191” (“Commission Implementing Regulation (EU) 2020/1191”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2020/1191 yn sefydlu mesurau i atal Firws ffrwythau crychlyd coch tomatos (ToBRFV)7rhag cael ei gyflwyno i’r Undeb a lledaenu ynddo.”

(4) Yn rheoliad 13(10)—

(a)

(a) hepgorer y diffiniad o “awr waith”;

(b)

(b) yn y lle priodol mewnosoder—

“mae i “diwrnod gwaith” (“working day”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 7(4);”.

(5) Yn rheoliad 21—

(a)

(a) yn lle paragraff (1) rhodder—

S-1

1. Caiff yr awdurdod priodol roi awdurdodiad i ganiatáu—

(a) cyflawni unrhyw weithgaredd a bennir mewn rhanddirymiad iechyd planhigion,

(b) cyflwyno pla planhigion cwarantin posibl i Gymru, symud pla planhigion cwarantin posibl o fewn Cymru, neu ddal neu luosogi pla planhigion cwarantin posibl yng Nghymru, at ddibenion profion swyddogol, dibenion gwyddonol neu addysgol, treialon, dewis neu fridio amrywogaethau, neu

(c) cyflawni unrhyw weithgaredd arall y mae cymeradwyaeth yr awdurdod priodol yn ofynnol ar ei gyfer o dan Reoliad Iechyd Planhigion yr UE, y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol neu’r Rheoliadau hyn.”;

(b)

(b) yn lle paragraff (3) rhodder—

S-3

3. Ym mharagraff (1)—

ystyr “pla planhigion cwarantin posibl” (“potential quarantine plant pest”) yw pla planhigion nad yw’n bla cwarantin yr Undeb, yn bla cwarantin parth gwarchodedig nac yn bla planhigion sy’n destun unrhyw fesurau a fabwysiedir yn unol ag Erthygl 30(1) o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE, ond sydd, ym marn yr awdurdod priodol, yn bodloni’r meini prawf a nodir yn Is-adran 1 o Adran 3 o Atodiad 1 i’r Rheoliad hwnnw neu y gallai fod yn bodloni’r meini prawf yn Is-adran 2 o’r Adran honno;

ystyr “rhanddirymiad iechyd planhigion” (“plant health derogation”) yw—

(a) rhanddirymiad darpariaethau Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE a nodir mewn act weithredu neu act ddirprwyedig a fabwysiadwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd o dan Reoliad Iechyd Planhigion yr UE neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol, neu

(b) rhanddirymiad unrhyw benderfyniad o fewn ystyr Erthygl 288 o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd, sy’n dal yn gymwys at ddibenion Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE ar neu ar ôl y dyddiad cychwyn ac sy’n caniatáu i’r Aelod-wladwriaethau awdurdodi gweithgaredd a fyddai fel arall wedi ei wahardd gan Reoliad Iechyd Planhigion yr UE neu odano.”

(6) Yn...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT