Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) 2020

JurisdictionWales
CitationWSI 2020/44 (Cymru)
Year2020

2020 Rhif 44 (Cy. 5)

Amaethyddiaeth, Cymru

Anifeiliaid, Cymru

Iechyd Planhigion, Cymru

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) 2020

Gwnaed 21th January 2020

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 22th January 2020

Yn dod i rym 31th January 2020

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19721mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd2, ac mewn perthynas â’r meysydd milfeddygol a ffytoiechydol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd3.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, a chyda chydsyniad y Trysorlys, drwy arfer pwerau a roddir gan adran 56(1) o Ddeddf Cyllid 19734.

Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd5, ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio’r Rheoliadau hyn.

1 Cyffredinol

RHAN 1

Cyffredinol

S-1 Enwi, cymhwyso a chychwyn

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) 2020.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 31 Ionawr 2020.

S-2 Dehongli

Dehongli

2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “archwiliad” (“audit”) yw archwiliad o awdurdod cymwys a gynhelir at ddibenion Erthygl 6 mewn perthynas â deddfwriaeth berthnasol;

ystyr “archwilydd” (“auditor”) yw person sy’n cynnal archwiliad ar ran awdurdod cymwys;

ystyr “arolygydd” (“inspector”), mewn perthynas ag unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol, yw arolygydd, arolygydd milfeddygol, neu swyddog arall a awdurdodir gan Weinidogion Cymru neu gan awdurdod dynodedig arall i weithredu o dan y ddeddfwriaeth berthnasol honno;

ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw’r Asiantaeth Safonau Bwyd;

mae i “awdurdod bwyd” (“food authority”), mewn perthynas ag unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol, yr un ystyr ag sydd iddo yn y ddeddfwriaeth berthnasol honno;

ystyr “awdurdod dynodedig” (“designated authority”) yw awdurdod sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 3;

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;

ystyr “cynorthwyydd swyddogol” (“official auxiliary”) yw cynrychiolydd i Weinidogion Cymru sydd wedi ei hyfforddi’n briodol ac sy’n gweithredu o dan gyfrifoldeb neu oruchwyliaeth milfeddyg swyddogol i gyflawni rheolaethau swyddogol penodol neu dasgau penodol sy’n gysylltiedig â gweithgareddau swyddogol eraill;

ystyr “deddfwriaeth berthnasol” (“relevant legislation”) yw deddfwriaeth Ewropeaidd a domestig sy’n llywodraethu’r meysydd a restrir yn is-baragraffau (a), (c), (d), (e) ac (f) o Erthygl 1(2), ac eithrio deddfwriaeth bwyd a diogelwch bwyd, bwyd anifeiliaid a diogelwch bwyd anifeiliaid i’r graddau—

(a) y mae deddfwriaeth o’r fath wedi ei diffinio fel “cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol” neu “cyfraith bwyd berthnasol” yn y Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid a Bwyd,

(b) y mae deddfwriaeth o’r fath yn ymwneud â sylweddau y gall eu defnydd neu eu presenoldeb ar gnydau i gynhyrchu neu brosesu bwyd neu fwyd anifeiliaid arwain at weddillion o’r sylweddau hynny mewn bwyd neu mewn bwyd anifeiliaid, neu

(c) y mae’n ymwneud ag ychwanegion bwyd anifeiliaid neu fwydydd anifeiliaid meddyginiaethol;

mae i “gweithgareddau swyddogol eraill” yr ystyr a roddir i “other official activities” gan Erthygl 2(2);

mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw gyfrwng cludo;

ystyr “milfeddyg swyddogol” (“official veterinarian”) yw milfeddyg sydd wedi ei benodi gan Weinidogion Cymru ac sydd wedi cymhwyso’n briodol i gynnal rheolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill er mwyn gwirio cydymffurfedd â’r rheolau y cyfeirir atynt yn Erthygl 1(2);

ystyr “rheolaethau swyddogol” (“official controls”) yw’r gweithgareddau y cyfeirir atynt yn Erthygl 2(1) ac eithrio’r rheini a restrir yn Erthygl 1(4);

ystyr “Rheoliad yr UE” (“the EU Regulation”) yw Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 15 Mawrth 2017 ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion6;

ystyr “y Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid a Bwyd” (“the Feed and Food Regulations”) yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 20097;

ystyr “Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol yr UE” (“the EU Official Control Regulations”) yw Rheoliad yr UE a’r Rheoliadau Gweithredu a’r Rheoliadau Dirprwyedig a wnaed oddi tanynt;

ystyr “swyddog gorfodi” (“enforcement officer”) yw swyddog sydd wedi ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru neu gan awdurdod dynodedig i orfodi Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol yr UE a’r Rheoliadau hyn.

(2) Yn y diffiniad o “deddfwriaeth berthnasol” ym mharagraff (1)—

(a)

(a) ystyr “bwydydd anifeiliaid meddyginiaethol” yw unrhyw gymysgedd o fwyd anifeiliaid a chynnyrch meddyginiaethol milfeddygol sydd â nodweddion ar gyfer trin neu atal afiechyd, adfer, cywiro neu addasu swyddogaethau ffisiolegol mewn anifeiliaid, neu gynhyrchion a bwyd anifeiliaid neu fwydydd anifeiliaid sydd wedi eu paratoi’n barod ar gyfer eu marchnata ac y bwriedir eu bwydo i anifeiliaid heb eu prosesu ymhellach, ac

(b)

(b) ystyr “ychwanegion sootechnegol” yw ychwanegion bwyd anifeiliaid yn y categorïau a grybwyllir yn Erthygl 6.1(d) ac (e) o Reoliad (EC) Rhif 1831/2003 (EC) Rhif 1831/2003Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ychwanegion ar gyfer eu defnyddio mewn maeth anifeiliaid8, ac eithrio’r rheini sy’n perthyn i’r grwpiau swyddogaethol a restrir ym mharagraff 4(a), (b) ac (c) o Atodiad 1 i’r Rheoliad hwnnw.

(3) Oni ddarperir fel arall yn y rheoliad hwn, mae i dermau a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyron ag sydd i’r termau Saesneg cyfatebol yn Rheoliad yr UE.

(4) Oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at “Erthygl” neu “Teitl” yn gyfeiriad at Erthygl neu Deitl yn Rheoliad yr UE.

S-3 Dynodiadau at ddibenion Erthygl 4

Dynodiadau at ddibenion Erthygl 4

3.—(1) Mae’r Asiantaeth wedi ei dynodi fel yr awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 4 mewn perthynas â gofynion lles anifeiliaid, i’r graddau ei bod wedi ei dynodi i fod yr awdurdod cymwys a grybwyllir yn rheoliad 4(1) o Reoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 20149.

(2) Mewn unrhyw achos arall mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi i fod yr awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 4 mewn perthynas â meysydd a lywodraethir gan y ddeddfwriaeth berthnasol.

(3) Mae awdurdodau lleol ac awdurdodau bwyd lleol (gan gynnwys unrhyw rai sy’n awdurdodau gorfodi o dan unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol) yn awdurdodau dynodedig mewn perthynas â swyddogaethau gorfodi a gweithredu (ac eithrio erlyn) y maent yn eu harfer o dan ddeddfwriaeth berthnasol.

(4) Rhaid i unrhyw awdurdod dynodedig lunio cofnodion ysgrifenedig (ar bapur neu ar ffurf electronig) o reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir ganddynt, a rhaid i gofnodion o’r fath gynnwys—

(a)

(a) disgrifiad o ddiben y rheolaethau swyddogol a’r gweithgareddau swyddogol eraill perthnasol,

(b)

(b) y dulliau rheoli a gymhwyswyd,

(c)

(c) y canlyniad, a

(d)

(d) pan fo’n briodol, unrhyw gamau y mae’n ofynnol i’r awdurdod dynodedig eu cymryd.

(5) Pan fo unrhyw awdurdod dynodedig wedi nodi achos o fethu â chydymffurfio drwy gymhwyso rheolaethau swyddogol, rhaid iddo hysbysu gweithredwr y busnes yn brydlon am yr achos o fethu â chydymffurfio.

S-4 Cyfnewid gwybodaeth

Cyfnewid gwybodaeth

4. Caiff Gweinidogion Cymru ac unrhyw awdurdodau dynodedig eraill ddatgelu gwybodaeth i’w gilydd ac i awdurdodau cymwys eraill yn y Deyrnas Unedig ac mewn Aelod-wladwriaethau eraill at ddibenion cymhwyso’r Rheoliadau hyn a Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol yr UE.

2 Archwiliadau a rheolaethau swyddogol

RHAN 2

Archwiliadau a rheolaethau swyddogol

S-5 Pwerau archwilwyr

Pwerau archwilwyr

5.—(1) Caiff archwilydd arfer y pwerau yn y rheoliad hwn a chynnal archwiliad yn unol â Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol yr UE os caiff ei awdurdodi i wneud hynny—

(a)

(a) mewn perthynas â chynnal archwiliad o weithgareddau awdurdod dynodedig, gan yr awdurdod dynodedig, neu

(b)

(b) mewn perthynas â chynnal archwiliad yn unol â rheoliad 6(2), gan Weinidogion Cymru.

(2) At ddibenion cynnal archwiliad, caiff archwilydd fynd i fangre y mae gan arolygydd bŵer i fynd iddi o dan ddeddfwriaeth berthnasol (“mangre sy’n destun archwiliad”) fel pe bai’r archwilydd yn arolygydd sy’n bodloni’r meini prawf ar gyfer mynd iddi o dan y ddeddfwriaeth berthnasol honno.

(3) Caiff unrhyw berson y mae ei gymorth yn rhesymol ofynnol gan yr archwilydd fynd gydag archwilydd sy’n arfer pwer i fynd i fangre.

(4) Caiff archwilydd ofyn i unrhyw berson mewn unrhyw fangre sy’n destun archwiliad am unrhyw wybodaeth sy’n rhesymol ofynnol at ddibenion yr archwiliad, a chaiff arolygu unrhyw gofnodion sy’n rhesymol ofynnol at y dibenion hynny.

(5) Caiff archwilydd wneud copïau o gofnodion o’r fath neu wneud copïau ohonynt yn ofynnol.

(6) Wrth arfer y pwerau a roddir gan y rheoliad hwn, rhaid i archwilydd, pan ofynnir iddo, ddangos tystiolaeth o awdurdodiad o dan y Rheoliadau hyn.

(7) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo archwilydd yn cynnal archwiliad yn unol â rheoliad 7 ar ran yr Asiantaeth.

S-6 Pwerau Gweinidogion Cymru mewn perthynas ag archwiliadau o awdurdodau dynodedig

Pwerau Gweinidogion Cymru mewn perthynas ag archwiliadau o awdurdodau dynodedig

6.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru wneud cais ysgrifenedig i awdurdod dynodedig ddarparu gwybodaeth erbyn dyddiad penodedig ynglŷn ag unrhyw archwiliadau y mae wedi eu cynnal neu wedi bod yn destun iddynt neu y mae ganddo gynlluniau i’w cynnal neu i fod yn destun iddynt.

(2) Caiff...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT