Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Taliadau i Ffermwyr) (Coronafeirws) (Cymru) 2020
Jurisdiction | Wales |
Citation | WSI 2020/473 (Cymru) |
Year | 2020 |
2020 Rhif 473 (Cy. 109)
Amaethyddiaeth, Cymru
Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Taliadau i Ffermwyr) (Coronafeirws) (Cymru) 2020
Gwnaed 29th April 2020
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 30 Ebrill 2020
Yn dod i rym 30th April 2020
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi1at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722mewn perthynas â’r polisi amaethyddol cyffredin, ac yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan yr adran honno a thrwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan Erthygl 78(b) o Reoliad (EU) Rhif 1306/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 ar ariannu, rheoli a monitro’r polisi amaethyddol cyffredin3, ac Erthygl 34(5) o Reoliad (EU) Rhif 1307/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 sy’n sefydlu rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin4, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Taliadau i Ffermwyr) (Coronafeirws) (Cymru) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Ebrill 2020.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(4) Yn y Rheoliadau hyn, mae “blwyddyn hawlio 2020” i’w ddehongli yn unol ag adran 1(7) o Ddeddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 20205.
Diwygio Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 809/2014
2. At ddibenion blwyddyn hawlio 2020, mae Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 809/2014 dyddiedig 17 Gorffennaf 2014 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EU) Rhif 1306/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran y system weinyddu a rheoli integredig, mesurau datblygu gwledig a thrawsgydymffurfio6yn gymwys fel pe bai—
(a) yn Erthygl 13(1), “15 June 2020” wedi ei roi yn lle “15 May each year”;
(b) yn Erthygl 15(2), “30 June 2020” wedi ei roi yn lle “31 May of the year concerned”;
(c) yn Erthygl 22(1), “15 June 2020” wedi ei roi yn lle “15 May of the relevant calendar year”.
Diwygio Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 641/2014
3. At ddibenion blwyddyn hawlio 2020, mae Erthygl 8(1) o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 641/2014 dyddiedig 16 Mehefin 2014 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EU) Rhif 1307/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin7yn gymwys fel pe bai’r geiriau “prior to exit day” wedi eu hepgor.
Diwygio Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014
4. At ddibenion blwyddyn hawlio 2020, mae rheoliad 3(1) o Reoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 20148yn gymwys fel pe bai “15 Mehefin 2020” wedi ei roi yn lle “15 Mai” yn y ddau le y mae’n digwydd.
Diwygio Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) 2015
5. At ddibenion blwyddyn hawlio 2020, mae Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) 20159yn gymwys fel pe bai—
(a) yn rheoliad 10(1), “15 Mehefin 2020” wedi ei roi yn lle “15 Mai yn y flwyddyn galendr berthnasol”;
(b) yn rheoliad 11(3), “2019 a 15 Mai 2020” wedi ei roi yn lle’r geiriau o “yn y flwyddyn galendr flaenorol” hyd at y diwedd.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
29 Ebrill 2020
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae rheoliad 2 yn addasu cymhwysiad Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 809/2014 (“Rheoliad 809/2014”) sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EU)...
To continue reading
Request your trial