Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Radiograffydd Therapiwtig-Ragnodydd Annibynnol a Deietegydd-Ragnodydd Atodol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2016
Jurisdiction | Wales |
Citation | WSI 2016/1221 (W292) (Cymru) |
2016 Rhif 1221 (Cy. 292)
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Radiograffydd Therapiwtig-Ragnodydd Annibynnol a Deietegydd-Ragnodydd Atodol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2016
Gwnaed 14th December 2016
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 19th December 2016
Yn dod i rym 9th January 2017
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 47, 80, 83 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 20061, ac adrannau 77 a 90 o Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 20082, a pharagraff 3 o Atodlen 6 iddi, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Radiograffydd Therapiwtig-Ragnodydd Annibynnol a Deietegydd-Ragnodydd Atodol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2016 a deuant i rym ar 9 Ionawr 2017.
(2) Maeʼr Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Rheoliadau 2004” (“the 2004 Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 20043;
ystyr “Rheoliadau 2007” (“the 2007 Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Presgripsiynau am Ddim a Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 20074;
ystyr “Rheoliadau 2010” (“the 2010 Regulations”) yw Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 20105; ac
ystyr “Rheoliadau 2013” (“the 2013 Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 20136.
Diwygio Rheoliadau 2004
3.—(1) Mae Rheoliadau 2004 wedi eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2(1), yn y lleoedd priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder y diffiniadau a ganlyn—
““the Health and Care Professions Council register” means the register established and maintained by the Health and Care Professions Council under article 5 of the Health and Social Work Professions Order 20017;”;
““registered radiographer” means a person registered in Part 11 of the Health and Care Professions Council register;”;
““therapeutic radiographer independent prescriber” means a person —
(a) who is a registered radiographer; and
(b) against whose name is recorded in the relevant register
(i) an entitlement to use the title “therapeutic radiographer”; and
(ii) an annotation signifying that he or she is qualified to order drugs, medicines and appliances as a therapeutic radiographer independent prescriber;”.
(3) Yn rheoliad 2(1) —
(a)
(a) yn y diffiniad o “prescriber”—
(i) yn is-baragraff (f) hepgorer “and”;
(ii) yn is-baragraff (g) ar ôl “prescriber;” mewnosoder “and”;
(iii) ar ôl is-baragraff (g) mewnosoder—
“(h)
“(h) a therapeutic radiographer independent prescriber,”;
(b)
(b) yn y diffiniad o “supplementary prescriber” ar ôl is-baragraff (b)(iv)(cc) mewnosoder —
“(dd)
“(dd) dietitians, or”; ac
(c)
(c) yn y diffiniad o “relevant register” ar ôl is-baragraff (c)(i) mewnosoder —
“(ia)
“(ia) dietitians;”.
(4) Ym mharagraff 49(3) a (4) o Atodlen 6 (telerau sy’n berthnasol i ddarparu gwasanaethau gweinyddu) ar ôl “chiropodist independent prescriber” ym mhob lle y mae’n digwydd mewnosoder “, a therapeutic radiographer independent prescriber”.
(5) Ym mharagraff 64(1) a (2) o Atodlen 6 (sy’n ymwneud â nyrsys sy’n rhagnodi’n annibynnol, nyrsys-ragnodwyr annibynnol, fferyllwyr-ragnodwyr annibynnol, ffisiotherapyddion-ragnodwyr annibynnol, podiatryddion-ragnodwyr neu giropodyddion-ragnodwyr annibynnol a rhagnodwyr atodol) ar ôl “chiropodist independent prescriber” ym mhob lle y mae’n digwydd mewnosoder “, a therapeutic radiographer independent prescriber”.
(6) Ym mhennawd paragraff 64 o Atodlen 6, ar ôl “chiropodist independent prescriber” mewnosoder “, therapeutic radiographer independent prescriber”.
Diwygio Rheoliadau 2007
4.—(1) Mae Rheoliadau 2007 wedi eu diwygio yn unol â...
To continue reading
Request your trial