Rheoliadau Plant (Perfformiadau a Gweithgareddau) (Cymru) 2015
Jurisdiction | England & Wales |
Citation | WSI 2015/1757 (Cymru) |
2015Rhif 1757 (Cy. 242)
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Rheoliadau Plant (Perfformiadau a Gweithgareddau) (Cymru) 2015
7 Hydref 2015
9 Hydref 2015
30 Hydref 2015
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 25(2) a 25(8) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933( 1) ac adrannau 37(3), 37(4), 37(5), 37(6), 39(3) a 39(5) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1963( 2), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy( 3).
RHAN 1
Cyffredinol
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.-(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Plant (Perfformiadau a Gweithgareddau) (Cymru) 2015 a deuant i rym ar 30 Hydref 2015.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas a'r canlynol-
(a) rhoi trwyddedau mewn cysylltiad a phlant sy'n preswylio yng Nghymru gan awdurdodau lleol yng Nghymru i gymryd rhan mewn perfformiadau neu weithgareddau ym Mhrydain Fawr, pan fo'n ofynnol gan adran 37(1) o Ddeddf 1963;(b) rhoi trwyddedau mewn cysylltiad a phlant nad ydynt yn preswylio ym Mhrydain Fawr gan awdurdodau lleol yng Nghymru i gymryd rhan mewn perfformiadau neu weithgareddau ym Mhrydain Fawr, pan fo'r ceisydd am y drwydded yn preswylio neu pan fo ganddo fan busnes o fewn ardal yr awdurdod lleol hwnnw, pan fo hynny'n ofynnol gan adran 37(1) o Ddeddf 1963;(c) perfformiadau yng Nghymru, nad yw'n ofynnol cael unrhyw drwydded ar eu cyfer yn rhinwedd adran 37(3)(a) o Ddeddf 1963;(d) rhoi trwyddedau gan ynadon heddwch yng Nghymru o dan adran 25 o Ddeddf 1933 i alluogi plant i gymryd rhan mewn perfformiadau neu weithgareddau dramor i wneud elw.Dehongli
2. Yn y Rheoliadau hyn-
mae i "awdurdod addysg" yr ystyr a roddir i "education authority" gan adran 135(1) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980( 4);
ystyr "awdurdod lletyol" ("host authority") yw'r awdurdod lleol neu, yn yr Alban, yr awdurdod addysg y mae perfformiad neu weithgaredd yn digwydd yn ei ardal;
ystyr "awdurdod trwyddedu" ("licensing authority") yw'r awdurdod lleol y mae'r cais am drwydded wedi ei wneud iddo ac sy'n rhoi'r drwydded;
ystyr "Deddf 1933" ("the 1933 Act") yw Deddf Plant a Phobl Ifanc 1933;
ystyr "Deddf 1963" ("the 1963 Act") yw Deddf Plant a Phobl Ifanc 1963;
ystyr "deiliad trwydded" ("licence holder") yw'r person y mae trwydded wedi ei rhoi iddo gan yr awdurdod trwyddedu;
ystyr "diwrnod" ("day") yw cyfnod o bedair awr ar hugain gan ddechrau a dod i ben am hanner nos ac, at ddibenion rheoliad 30 a pharagraff 13 o Ran 2 o Atodlen 2, rhaid barnu bod unrhyw berfformiad sy'n digwydd ar ôl hanner nos a chyn yr awr gynharaf a ganiateir fel y'i diffinnir yn rheoliad 23 wedi digwydd cyn hanner nos;
ystyr "gweithgaredd" ("activity") yw cymryd rhan mewn chwaraeon, neu weithio fel model o dan yr amgylchiadau a bennir yn adran 37(1)(b) o Ddeddf 1963;
mae i "hebryngwr" ("chaperone") yr ystyr a roddir yn rheoliad 15(1);
ystyr "oedran gadael ysgol" ("school leaving age") yw'r oedran pan fo person yn peidio a bod yn berson o oedran ysgol gorfodol yn unol ag adran 8(3) o Ddeddf Addysg 1996( 5);
ystyr "rhiant" ("parent") yw person sydd a chyfrifoldeb rhiant, fel y diffinnir "parental responsibility" yn adran 3 o Ddeddf Plant 1989( 6), dros y plentyn o dan sylw;
ystyr "wythnos" ("week") yw cyfnod o saith niwrnod gan ddechrau ar y diwrnod y mae'r perfformiad neu'r gweithgaredd cyntaf y mae'r drwydded wedi ei rhoi ar ei gyfer yn digwydd neu unrhyw seithfed diwrnod wedi hynny; ac
ystyr "ymarfer" ("rehearsal"), ac eithrio at ddibenion paragraff 15 o Ran 2 o Atodlen 2, yw unrhyw ymarfer ar gyfer, neu baratoad ar gyfer, perfformiad, a hwnnw'n ymarfer sy'n digwydd ar ddiwrnod y perfformiad neu yn ystod y cyfnod sy'n dechrau gyda'r perfformiad cyntaf ac yn dod i ben gyda'r perfformiad olaf.
Dirymiadau
3. Mae'r Rheoliadau a restrir yn Atodlen 1 wedi eu dirymu mewn cysylltiad a Chymru.
RHAN 2
Y gofynion, o ran dogfennaeth, mewn perthynas a phob trwydded
Cais am drwydded
4.-(1) Rhaid i gais am drwydded-
(a) cael ei wneud yn ysgrifenedig gan-(i) y person sy'n gyfrifol am drefnu'r digwyddiad chwaraeon neu, yn ôl y digwydd, y person sy'n bwriadu cymryd y plentyn ymlaen fel model; neu(ii) y person sy'n gyfrifol am gynhyrchu'r perfformiad y mae'r plentyn i gymryd rhan ynddo;(b) cynnwys yr wybodaeth a bennir yn Rhannau 1 a 2 o Atodlen 2;(c) cael ei lofnodi gan y ceisydd a rhiant i'r plentyn; a(d) cynnwys gydag ef y ddogfennaeth a bennir yn Rhan 3 o Atodlen 2.(2) Caiff yr awdurdod trwyddedu wrthod rhoi trwydded os na ddaw'r cais i law o leiaf un ar hugain o ddiwrnodau cyn y diwrnod y mae'r perfformiad neu'r gweithgaredd cyntaf, y gofynnir am y drwydded ar ei gyfer, i ddigwydd.
Amodau trwydded
5. Rhaid i'r awdurdod trwyddedu osod unrhyw amodau y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol er mwyn sicrhau-
(a) bod y plentyn yn ffit i gymryd rhan yn y perfformiad neu'r gweithgaredd;(b) bod darpariaeth briodol yn cael ei gwneud i sicrhau iechyd a llesiant y plentyn; ac(c) bod darpariaeth briodol yn cael ei gwneud i sicrhau na fydd addysg y plentyn yn dioddef.6. Pan fo'r ceisydd yn gofyn am drwydded i blentyn gymryd rhan mewn gweithgaredd, perfformiad neu ymarfer penodol, ond nad yw'n gallu pennu'r dyddiadau pan fydd y plentyn yn cymryd rhan yn y gweithgaredd, y perfformiad neu'r ymarfer hwnnw adeg gwneud y cais, rhaid i'r awdurdod trwyddedu, os yw'n penderfynu rhoi'r drwydded, osod amod mai dim ond am nifer penodedig o ddiwrnodau o fewn cyfnod o chwe mis y caiff y plentyn gymryd rhan yn y gweithgaredd, y perfformiad neu'r ymarfer penodol hwnnw.
7.-(1) Pan fo'r awdurdod trwyddedu'n barnu bod yr wybodaeth a ddarparwyd gan y ceisydd yn annigonol i'w alluogi i benderfynu p'un a fydd yn dyroddi trwydded neu'n dyroddi trwydded yn ddarostyngedig i amodau, rhaid i'r awdurdod trwyddedu ofyn am wybodaeth neu ddogfennaeth ychwanegol i'w alluogi i wneud penderfyniad o'r fath.
(2) Yn benodol, caiff yr awdurdod trwyddedu-
(a) gofyn bod y plentyn yn cael ei archwilio'n feddygol;(b) cyf-weld unrhyw athro preifat arfaethedig neu athrawes breifat arfaethedig;(c) cyf-weld y ceisydd, y plentyn, rhieni'r plentyn, neu'r hebryngwr arfaethedig, fel y bo'n briodol.Ffurf trwydded
8.-(1) Rhaid i drwydded gynnwys-
(a) enw'r plentyn;(b) enw rhieni'r plentyn;(c) enw'r ceisydd;(d) enwau, amserau, natur a lleoliad y gweithgaredd neu'r perfformiad (a lleoliad unrhyw ymarfer os yw'n wahanol) y mae'r drwydded wedi ei rhoi ar ei gyfer;(e) dyddiadau'r gweithgaredd, y perfformiad neu'r ymarfer, neu yn lle'r dyddiadau, nifer y diwrnodau pan fydd y plentyn yn cymryd rhan yn y gweithgaredd, y perfformiad neu'r ymarfer, a'r cyfnod, nad yw'n hwy na chwe mis, pan gaiff y gweithgareddau, y perfformiadau neu'r ymarferion ddigwydd yn unol a rheoliad 6;(f) unrhyw amodau, y mae'r awdurdod trwyddedu yn barnu eu bod yn angenrheidiol ar gyfer rhoi'r drwydded; ac(g) datganiad bod y drwydded yn ddarostyngedig i'r cyfyngiadau a'r amodau a gynhwysir yn y Rheoliadau hyn.(2) Rhaid i ffotograff o'r plentyn fod wedi ei atodi i'r drwydded.
Y manylion y mae'n rhaid i awdurdod trwyddedu eu darparu mewn cysylltiad a thrwydded
9. Rhaid i'r awdurdod trwyddedu anfon copi o'r drwydded at y rhiant a lofnododd y ffurflen gais.
10. Pan fo perfformiad neu weithgaredd i ddigwydd yn ardal awdurdod lletyol ac eithrio'r awdurdod trwyddedu, yn unol ag adran 39(3) o Ddeddf 1963, rhaid i'r awdurdod trwyddedu anfon at yr awdurdod lletyol hwnnw gopi o'r ffurflen gais, y drwydded, unrhyw wybodaeth neu ddogfennaeth ychwanegol a gafodd o dan reoliad 7 a phan fo'r awdurdod trwyddedu'n cymeradwyo unrhyw drefniadau ar gyfer addysg y plentyn, manylion y diwrnodau yn ystod cyfnod y drwydded pan fyddai'n ofynnol fel arfer i'r plentyn sy'n ddarostyngedig i'r drwydded fynychu'r ysgol pe bai'r plentyn hwnnw'n mynychu ysgol a gynhelir gan yr awdurdod trwyddedu.
Y cofnodion sydd i'w cadw gan y deiliad trwydded o dan adran 39(5) o Ddeddf 1963
11. Am chwe mis o ddyddiad y perfformiad neu'r gweithgaredd diwethaf y mae'r drwydded yn ymwneud ag ef, rhaid i'r deiliad trwydded gadw'r cofnodion a bennir yn-
(a) Rhan 1 o Atodlen 3, pan fo'r drwydded wedi ei rhoi mewn cysylltiad a pherfformiad; neu(b) Rhan 2 o Atodlen 3, pan fo'r drwydded wedi ei rhoi mewn cysylltiad a gweithgaredd.Dangos trwydded
12. Rhaid i'r deiliad trwydded, os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos y drwydded ar bob adeg resymol yn ystod y cyfnod sy'n dechrau gyda'r perfformiad neu'r gweithgaredd cyntaf ac yn dod i ben gyda'r un olaf y mae'r drwydded yn ymwneud ag ef, yn y man lle y cynhelir y perfformiad (neu unrhyw fan lle y cynhelir yr ymarfer), neu'r man lle y mae'r gweithgaredd y mae'r drwydded yn ymwneud ag ef yn digwydd, i swyddog awdurdodedig yr awdurdod lletyol neu i gwnstabl.
Polisi amddiffyn plant
13. Rhaid i'r deiliad trwydded sicrhau y glynir wrth y polisi neu'r polisïau a amgaeir gyda'r cais.
Llythyr oddi wrth y pennaeth
14.-(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chaniateir i awdurdod trwyddedu roi trwydded mewn cysylltiad a phlentyn sy'n mynychu ysgol oni bai bod yr awdurdod -
(a) wedi cael llythyr oddi wrth bennaeth yr ysgol honno sy'n ymdrin ag unrhyw fater sy'n berthnasol i'r broses o ystyried adran 37(4) o Ddeddf 1963 gan yr awdurdod; a(b) wedi ystyried y llythyr hwnnw.(2) Nid yw'r gofyniad ym mharagraff (1) yn gymwys pan fo'r awdurdod wedi ei fodloni nad yw wedi bod yn ymarferol cyflwyno llythyr.
RHAN 3
Gofynion cyffredinol sy'n gymwys i bob perfformiad neu weithgaredd trwyddedig
Addysg
15.-(1) Ni chaniateir i'r awdurdod trwyddedu roi trwydded-
(a) oni chaiff ei fodloni na fyddai addysg y plentyn yn dioddef drwy iddo gymryd rhan yn y perfformiadau neu'r gweithgareddau;(b) onid yw wedi cymeradwyo'r trefniadau (os oes rhai) ar gyfer addysg y plentyn yn ystod y cyfnod y mae'r drwydded yn gymwys iddo; ac(c) onid yw wedi cymeradwyo'r man lle y mae'r plentyn i gael addysg, yn ddarostyngedig i unrhyw amodau y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol i sicrhau bod y man hwnnw'n addas ar gyfer addysg y plentyn.(2) Rhaid i'r deiliad trwydded sicrhau bod unrhyw drefniadau a...
To continue reading
Request your trial