Rheoliadau Mˆl (Cymru) 2003

JurisdictionUK Non-devolved

2003Rhif 3044 (Cy.288)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Mêl (Cymru) 2003

26 Tachwedd 2003

28 Tachwedd 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1)(e), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990( 1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo( 2), ar ôl rhoi sylw, yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac ar ôl ymghynghori fel sy'n ofynnol o dan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 o Senedd Ewrop a'r Cyngor( 3) sy'n pennu egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith fwyd, yn sefydlu'r Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewropeaidd ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Teitl, cychwyn a chymhwyso

1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mêl (Cymru) 2003, a deuant i rym ar 28 Tachwedd 2003 a byddant yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli

2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn -

ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

ystyr "yr Asiantaeth" ("the Agency") yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd;

mae i "awdurdod bwyd" yr un ystyr â "food authority"yn adran 5(1A) a (3)(a) a (b) o Ddeddf Safonau Bwyd 1990;

ystyr "Cyfarwyddeb 2001/110" ("Directive 2001/110") yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/110/EC sy'n ymwneud â mêl( 4);

mae i "cynhwysyn" yr ystyr a briodolir i "ingredient" gan Reoliadau 1996;

ystyr "cynnyrch mêl penodol", ("specified honey product") yn ddarostyngedig i baragraff (2) yw unrhyw fwyd a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 1;

ystyr "Cytundeb yr AEE" ("EEA Agreement") yw'r Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd( 5) a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992 fel y'i haddaswyd gan y Protocol( 6) a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993;

ystyr "chwiler" ("brood") yw unrhyw gam anaeddfed o ran gwenynen mêl gan gynnwys yr wy, larfa a pwpa ac unrhyw wenynen mêl sydd heb ddod allan o'i gell mewn dil mêl;

ystyr "defnyddiwr olaf" ("ultimate consumer") yw unrhyw berson sy'n gwerthu bwyd heblaw -

(a) at ddibenion ei ailwerthu,(b) at ddibenion sefydliad arlwyo, neu(c) at ddibenion busnes gweithgynhyrchu.

ystyr "disgrifiad neilltuedig", ("reserved description") o ran unrhyw gynnyrch mêl penodol yw unrhyw ddisgrifiad a bennir mewn perthynas â'r cynnyrch hwnnw yng ngholofn 1 o Atodlen 1 (fel y'i darllenir gyda'r nodiadau sy'n ymwneud â'r Atodlen honno);

ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

mae "gwerthu" ("sell") yn cynnwys cynnig neu arddangos rhywbeth i'w werthu ac mae'n cynnwys cael rhywbeth yn eich meddiant i'w werthu, a rhaid deall "gwerthiant" ("sale") yn unol â hynny;

ystyr "Gwladwriaeth yr AEE" ("EEA State") yw Gwladwriaeth sy'n Barti Contractio i Gytundeb yr AEE;

mae i "labelu" yr ystyr a briodolir i "labelling" gan Reoliadau 1996;

ystyr "mêl" ("honey") yw'r sylwedd melys naturiol a gynhyrchir gan wenwynApis mellifera o neithdar planhigion neu gan secretiadau'r rhannau o blanhigion sy'n fyw neu ysgarthiadau pryfed sy'n sugno planhigion ar y rhannau o blanhigion sy'n fyw, y mae'r gwenyn yn eu casglu, yn eu gweddnewid trwy eu cyfuno â'u sylweddau penodol eu hunain, eu gwaddodi, eu dadhydradu, eu storio neu eu gadael mewn diliau mêl i aeddfedu;

mae "paratoi" ("preparation") yn cynnwys gweithgynhyrchu ac unrhyw fath o brosesu neu drin;

ystyr "Rheoliadau 1996" ("the 1996 Regulations") yw Rheoliadau Labelu Bwyd 1996( 7); ac

ystyr "sefydliad arlwyo" ("catering establishment") yw bwyty, ffreutur, clwb, tafarn, ysgol, ysbyty neu sefydliad tebyg (gan gynnwys cerbyd neu stondin symudol) os paratoir bwyd, yn ystod y busnes, i'w ddosbarthu i'r defnyddiwr olaf ac os yw'r bwyd yn barod i'w fwyta heb waith paratoi pellach.

(2) Er gwaethaf y ffaith bod bwyd yn cael ei bennu yng Ngholofn 2 o Atodlen 1, ni chaiff ei drin fel cynnyrch mêl penodol at ddibenion y Rheoliadau hyn hyn -

(i) ond os bydd yn bodloni'r manylebau perthnasol a gynhwysir yn Atodlen 2 fel y'i darllenir gyda'r nodiadau sy'n ymwneud â'r Atodlen honno, a(ii) ond os nad ychwanegwyd ato unrhyw gynhwysyn arall ac os yw cyn belled â phosibl yn rhydd rhag unrhyw sylwedd organig neu anorganig sy'n ddieithr i'w gyfansoddiad.

(3) Mae i unrhyw ymadrodd arall a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yng Nghyfarwyddeb 2001/110 yr un ystyr yn y rheoliadau hyn ag yn y Gyfarwyddeb honno.

Disgrifiadau neilltuedig

3. Ni chaiff neb werthu i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo unrhyw fwyd sydd â label, p'un a yw wedi'i atodi i'r papur lapio neu'r cynhwysydd neu wedi'i argraffu arno, sy'n dwyn, neu sy'n cynnwys unrhyw ddisgrifiad neilltuedig neu unrhyw ddeilliad ohono neu unrhyw air neu ddisgrifiad sy'n debyg iawn iddo oni bai -

(a) mai'r bwyd hwnnw yw'r cynnyrch mêl penodol y mae'r disgrifiad neilltuedig yn ymwneud ag ef;(b) bod disgrifiad, deilliad neu air o'r fath yn cael ei ddefnyddio yn y cyfryw gyd-destun ag i ddynodi yn eglur neu drwy awgrym clir nad yw'r sylwedd y mae'n ymwneud ag ef ond yn gynhwysyn yn y bwyd hwnnw;(c) bod disgrifiad, deilliad neu air o'r fath yn cael ei ddefnyddio yn y cyfryw gyd-destun ag i ddynodi yn eglur neu drwy awgrym clir nad yw'r bwyd yn gynnyrch mêl penodol ac nad yw'n cynnwys cynnyrch mêl penodol.

Labelu a disgrifio cynhyrchion mêl penodol

4. - (1) Heb niweidio cyffredinolrwydd Rhan II o Reoliadau 1996, ni chaiff neb werthu i'r defnyddiwr olaf nac i sefydliad arlwyo unrhyw gynnyrch mêl penodol oni bai ei fod wedi'i farcio neu wedi'i labelu gyda'r manylion canlynol -

(a) disgrifiad neilltuedig o'r cynnyrch;(b) yn achos mêl pobydd y geiriau "intended for cooking only" a'r geiriau hynny'n ymddangos ar y label yn agos at enw'r cynnyrch;(c) y wlad neu'r gwledydd y mae'r mêl yn tarddu ohoni/ohonynt a lle mae'r mêl wedi'i gynaeafu ac eithrio os yw'r mêl yn tarddu o fwy nag un Aelod-wladwriaeth neu drydedd wlad gellir rhoi un o'r canlynol yn lle'r wlad y mae'n tarddu ohoni fel y bo'n briodol - (i) "blend of EC honeys",(ii) "blend of non-EC honeys",(iii) "blend of EC and non-EC honeys";

(2) Ni chaiff neb werthu i'r defnyddiwr olaf nac i sefydliad arlwyo unrhyw fêl wedi'i hidlo neu fêl pobydd sydd wedi'i farcio neu wedi'i labelu â gwybodaeth sy'n ymwneud â tharddiad blodeuol neu lysieuol, tarddiad rhanbarthol, tiriogaethol neu dopagraffaidd neu unrhyw feini prawf ansawdd penodol.

(4) Lle, yn unol â nodyn 2 o Atodlen 1, defnyddiwyd y disgrifiad neilltuedig "honey" yn enw cynnyrch bwyd cyfansawdd sy'n cynnwys mêl...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT