Rheoliadau Llywodraethu Digidol (Cyrff Cymreig) (Cymru) 2018

JurisdictionUK Non-devolved
CitationWSI 2018/551 (Cymru)
Year2018

2018 Rhif 551 (Cy. 93)

DATGELU GWYBODAETH, CYMRU

Rheoliadau Llywodraethu Digidol (Cyrff Cymreig) (Cymru) 2018

Gwnaed 25Ebrill 2018

Yn dod i rym 26Ebrill 2018

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 35(3), 36(5)(a), 38(5)(a), 44(2)(b), 48(5), 54(2)(b), 56(6) a 62(2)(b) o Ddeddf yr Economi Ddigidol 2017(1) (“y Ddeddf”), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â'r Comisiynydd Gwybodaeth, Comisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, Gweinidogion yr Alban, Adran Gyllid Gogledd Iwerddon, y Gweinidog dros Swyddfa'r Cabinet, ac unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol, fel sy'n ofynnol gan adrannau 44(4), 48(11) a 56(12) o'r Ddeddf.

Yn unol ag adrannau 35(6), 36(8), 38(8), 48(10) a 56(11) o'r Ddeddf, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i'r systemau a'r gweithdrefnau ar gyfer trin gwybodaeth yn ddiogel gan y personau y cyfeirir atynt yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Gosodwyd drafft o'r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adrannau 44(9), 54(6) a 62(6) o'r Ddeddf, ac fe'i cymeradwywyd drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llywodraethu Digidol (Cyrff Cymreig) (Cymru) 2018.

(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 26 Ebrill 2018.

(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y Ddeddf” yw Deddf yr Economi Ddigidol 2017.

Diwygio Atodlenni 4, 5, 6, 7 ac 8

2. Mae Atodlen 4 (cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus: personau penodedig at ddibenion adran 35) i'r Ddeddf wedi ei diwygio yn unol â pharagraff 1 o'r Atodlen.

3. Mae Atodlen 5 (cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus: personau penodedig at ddibenion adrannau 36 a 37) i'r Ddeddf wedi ei diwygio yn unol â pharagraff 2 o'r Atodlen.

4. Mae Atodlen 6 (cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus: personau penodedig at ddibenion adrannau 38 a 39) i'r Ddeddf wedi ei diwygio yn unol â pharagraff 3 o'r Atodlen.

5. Mae Atodlen 7 (personau penodedig at ddibenion y darpariaethau dyledion) i'r Ddeddf wedi ei diwygio yn unol â pharagraff 4 o'r Atodlen.

6. Mae Atodlen 8 (personau penodedig at ddibenion y darpariaethau twyll) i'r Ddeddf wedi ei diwygio yn unol â pharagraff 5 o'r Atodlen.

25 Ebrill 2018

Julie James

Arweinydd y Tya'r Prif Chwip, un o Weinidogion Cymru

YR ATODLEN

Rheoliadau 2, 3, 4, 5 a 6

Diwygiadau i Atodlenni 4, 5, 6, 7 ac 8

1.—(1) Mae Atodlen 4 i'r Ddeddf wedi ei diwygio yn unol ag is-baragraffau (2) i (4).

(2) Ar ôl pennawd yr Atodlen mewnosoder—

“PART 1

UK AND ENGLISH BODIES”.

(3) Ym mharagraff 28, ar ôl y gair “who” mewnosoder—

“—

(a) falls within this Part of this Schedule; and

(b)”.

(4) Ar ôl paragraff 28 mewnosoder—

“PART 2

WELSH BODIES

29. The Welsh Ministers.

30. The Counsel General to the Welsh Government.

31. The Welsh Revenue Authority.

32. A county council in Wales.

33. A county borough council in Wales.

34. A community council in Wales.

35. A Community Health Council in Wales.

36. A Local Health Board established under section 11 of the National Health Service (Wales) Act 2006.

37. An NHS Trust established under section 18 of the National Health Service (Wales) Act 2006.

38. The Board of Community Health Councils in Wales.

39. A Special Health Authority established under section 22 of the National Health Service (Wales) Act 2006.

40. A fire and rescue authority constituted by a scheme under section 2 of the Fire and Rescue Services Act 2004, or a scheme to which section 4 of that Act applies, for an area in Wales.

41. Career Choices Dewis Gyrfa Ltd (company number 07442837, operating as Careers Wales).

42. The governing body of an educational establishment maintained by a Welsh local authority (within the meaning of section 162 of the Education and Inspections Act 2006).

43. The governing body of an institution in Wales within the further education sector (within the meaning of section 91(3) of the Further and Higher Education Act 1992) whose activities are carried on, or principally carried on, in Wales.

44. The governing body of an institution in Wales within the higher education sector (within the meaning of section 91(5) of the Further and Higher Education Act 1992) whose activities are carried on, or principally carried on, in Wales.

45. A regulated institution within the meaning of the Higher Education (Wales) Act 2015 (ignoring section 26 of that Act) other than an institution within the higher education sector (within the meaning of section 91(5) of the Further and Higher Education Act 1992).

46. The Natural Resources Body for Wales.

47. A registered social landlord being a body registered in the register maintained...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT