Rheoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) (Diwygio) 2018
Jurisdiction | Wales |
Citation | WSI 2018/1188 (W242) (Cymru) |
Year | 2018 |
2018 Rhif 1188 (Cy. 242)
Amaethyddiaeth, Cymru
Rheoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) (Diwygio) 2018
Gwnaed 15th November 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 16th November 2018
Yn dod i rym 7th December 2018
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi1at ddibenion gwneud rheoliadau o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722mewn perthynas â mesurau sy’n gysylltiedig â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol bwyd.
Mae Gweinidogion Cymru wedi cynnal ymgynghoriad agored a thryloyw â’r cyhoedd fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu egwyddorion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd3, ac maent yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.
Enwi a chychwyn
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) (Diwygio) 2018.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 7 Rhagfyr 2018.
Diwygio Rheoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) 2011
2. Mae Rheoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) 20114wedi eu diwygio yn unol â’r rheoliadau a ganlyn.
Diwygio rheoliad 2
3. Yn rheoliad 2(1)—
(a) yn is-baragraff (a), ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) Rhif 653/2014 Senedd Ewrop a’r Cyngor5”;
(b) yn is-baragraff (c), yn lle’r geiriau o “Rhan I” hyd at “1234/2007” rhodder “Rhan 1 o Atodiad 7 i Reoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol6”; ac
(c) yn is-baragraff (d), ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 565/20137”.
Diwygio rheoliad 4
4. Yn rheoliad 4—
(a) ym mharagraff (1)—
(i) yn is-baragraff (a), hepgorer paragraffau (vii) ac (viii); a
(ii) yn is-baragraff (c), yn y geiriau cyn paragraff (i), yn lle’r geiriau o “Reoliad” hyd at “1234/2007” rhodder “Reoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol”;
(b) ym mharagraff (2), yn lle’r geiriau o “pwynt IV(2)” hyd at “1234/2007” rhodder “pwynt 4(2) o Ran 1 o Atodiad 7 i Reoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu...
To continue reading
Request your trial