Rheoliadau Gwastraff (Deddfiadau Rhagnodedig) (Cymru) 2020

JurisdictionWales
CitationWSI 2020/594 (Cymru)
Year2020

2020 Rhif 594 (Cy. 135)

Yr Amgylchedd, Cymru

Rheoliadau Gwastraff (Deddfiadau Rhagnodedig) (Cymru) 2020

Gwnaed 15th June 2020

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 17th June 2020

Yn dod i rym 9th July 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir gan adran 57(6) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 19901.

S-1 Enwi, cychwyn a dod i ben

Enwi, cychwyn a dod i ben

1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwastraff (Deddfiadau Rhagnodedig) (Cymru) 2020.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 9 Gorffennaf 2020.

S-2 Deddfiadau a ragnodwyd at ddibenion adran 57(6) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990

Deddfiadau a ragnodwyd at ddibenion adran 57(6) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990

2.—(1) Mae’r deddfiadau a ganlyn wedi eu rhagnodi at ddibenion adran 57(6) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990—

(a)

(a) adrannau 33, 34 a 47 o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 19902;

(b)

(b) adrannau 171G, 179, 187, 187A, 216 a 331 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 19903;

(c)

(c) adran 23 o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 19904;

(d)

(d) rheoliad 65 o Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 20055;

(e)

(e) rheoliad 56 o Reoliadau Batris a Chronaduron Gwastraff 20096;

(f)

(f) rhannau 5, 8, a 9 o Reoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 20117; a

(g)

(g) rheoliad 38 o Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 20168.

(2) Ni chaiff person fod yn euog o drosedd o dan y deddfiadau hyn oherwydd unrhyw beth o angenrheidrwydd a wneir neu nas gwneir er mwyn cydymffurfio â chyfarwyddyd o dan adran 57 o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990.

Hannah Blythyn

Y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, o dan awdurdod y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

15 Mehefin 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi deddfiadau amrywiol at ddibenion adran 57(6) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 (“Deddf 1990”).

O dan adran 57(1) o Ddeddf 1990, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo deiliad unrhyw drwydded amgylcheddol sy’n awdurdodi gweithrediad gwastraff i dderbyn a chadw, neu dderbyn a thrin neu waredu, gwastraff mewn mannau penodedig o dan delerau penodedig.

O dan adran 57(2) o Ddeddf 1990, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo unrhyw berson sy’n cadw gwastraff ar dir i ddanfon y gwastraff i berson penodedig o dan delerau penodedig, gyda’r nod bod y gwastraff yn cael ei drin neu ei waredu gan y person hwnnw.

Mae adran 57(6) o Ddeddf 1990 yn caniatáu i ddeddfiadau gael eu rhagnodi gan Reoliadau i...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT