Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) a Rheolau Cofrestru Tir (Diwygiadau Amrywiol) 2020

JurisdictionWales
CitationWSI 2020/131 (Cymru)

2020 Rhif 131 (Cy. 24)

Gofal Cymdeithasol, Cymru A Lloegr

Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) a Rheolau Cofrestru Tir (Diwygiadau Amrywiol) 2020

Gwnaed 10th February 2020

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 12th February 2020

Yn dod i rym 6th April 2020

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 50, 52, 53(3), 61, 196(2) a 198(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 20141, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

S-1 Enwi, cychwyn a chymhwyso

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1) Enwʼr Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) a Rheolau Cofrestru Tir (Diwygiadau Amrywiol) 2020.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2020.

S-2 Diwygio Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 2015

Diwygio Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 2015

2. Mae Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 20152wedi eu diwygio fel a ganlyn—

(a) yn rheoliad 7 (uchafswm ffi wythnosol am ofal a chymorth amhreswyl), ym mharagraff (1) yn lle “£90” rhodder “£100”;

(b) yn rheoliad 13 (isafswm incwm ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal) yn lle “£29.50” rhodder “£32”;

(c) yn rheoliad 22 (uchafswm cyfraniad neu ad-daliad wythnosol am ofal a chymorth amhreswyl) yn lle “£90” rhodder “£100”;

(d) yn rheoliad 28 (isafswm incwm ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal) yn lle “£29.50” rhodder “£32”.

S-3 Diwygio Rheolau Cofrestru Tir 2003

Diwygio Rheolau Cofrestru Tir 2003

3. Mae Rheolau Cofrestru Tir 20033wedi eu diwygio fel a ganlyn—

(a) yn Rhan 8, rheol 93(x) (personau yr ystyrir bod ganddynt fuddiant digonol i wneud cais am gyfyngiad) yn lle “under the terms of a deferred payment agreement within the meaning of section 68(2)” rhodder “section 71”;

(b) yn Atodlen 4 (ffurfiau safonol ar gyfyngiad) yn y cofnod sy’n ymwneud â Ffurf MM—

(i) ym mharagraff (2) yn lle “under the terms of a deferred payment within the meaning of section 68(2)” rhodder “section 71(1) or (5)”;

(ii) yn y pennawd yn lle “under the terms of a deferred payment agreement within the meaning of section 68(2)” rhodder “section 71”;

(iii) yn y geiriau o flaen paragraff (1) yn lle “under the terms of a deferred payment agreement within the meaning of section 68(2)” rhodder “section 71”.

Julie Morgan

Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

10 Chwefror...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT