Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi (Diwygio) (Cymru) 2017

CitationWSI 2017/453 (W96) (Cymru)

2017 Rhif 453 (Cy. 96)

Adnoddau Dŵr, Cymru

Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi (Diwygio) (Cymru) 2017

Gwnaed 20th March 2017

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 23th March 2017

Yn dod i rym 1st May 2017

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi1at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722mewn perthynas â mesurau sy’n ymwneud ag adnoddau dŵr, ac yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan yr adran honno.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori mewn perthynas â rheoliad 6 o Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 20133.

S-1 Enwi, cymhwyso a chychwyn

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi (Diwygio) (Cymru) 2017 a deuant i rym ar 1 Mai 2017.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

S-2 Diwygio Rhan 2 o Atodlen 2 i Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013

Diwygio Rhan 2 o Atodlen 2 i Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013

2. Yn Rhan 2 o Atodlen 2 (dyfroedd wyneb yng Nghymru) i Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013 ar ôl “Tenby South”, mewnosoder “Traeth Glan Don Beach”.

Jane Hutt

Un o Weinidogion Cymru

20 Mawrth 2017

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rhan 2 o Atodlen 2 (dyfroedd wyneb yng Nghymru) i Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013 (“y Rheoliadau”), sy’n rhestru’r dyfroedd a nodwyd gan Weinidogion Cymru fel dyfroedd ymdrochi yng Nghymru.

Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn ychwanegu Traeth Glan Don Beach at y rhestr o ddyfroedd ymdrochi a nodwyd yn y Rheoliadau.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, nid oes unrhyw asesiad effaith wedi ei lunio ar gyfer y Rheoliadau hyn gan nad oes unrhyw newid i bolisïau, nac unrhyw effaith ar fusnesau na’r sector gwirfoddol yn cael ei rhagweld.


(1) O.S. 2003/2901 ar gyfer y dynodiad a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn rhinwedd adrannau 59 a 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 28 o Atodlen 11 iddi, mae’r dynodiad hwnnw bellach wedi ei roi i Weinidogion Cymru.
(2) 1972 p. 68; diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) a Rhan 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7).
(3) O.S. 2013/1675; fel y’i diwygiwyd o ran Cymru gan O.S. 2014/1067 (Cy. 106) ac O.S. 2016/314 (Cy. 103).
...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT