Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020

JurisdictionWales
CitationWSI 2020/1011 (W225) (Cymru)
Year2020

2020 Rhif 1011 (Cy. 225)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020

Gwnaed 17th September 2020

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 18th September 2020

Yn dod i rym 18th September 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 19841.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

1 Cyflwyniad

RHAN 1

Cyflwyniad

S-1 Enwi, cymhwyso a dod i rym

Enwi, cymhwyso a dod i rym

1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020.

(2) Maeʼr Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 12.01 a.m. ar 18 Medi 2020.

S-2 Dehongli

Dehongli

2. Yn y Rheoliadau hyn—

(a) ystyr “coronafeirws” yw coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2);

(b) mae i “swyddog gorfodaeth” yr ystyr a roddir gan reoliad 15;

(c) mae i “cyfarwyddyd digwyddiad” yr ystyr a roddir gan reoliad 6;

(d) ystyr “awdurdod lleol” yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

(e) mae “mangre” yn cynnwys unrhyw adeilad neu strwythur ac unrhyw dir;

(f) mae i “cyfarwyddyd mangre” yr ystyr a roddir gan reoliad 5;

(g) mae i “man cyhoeddus” yr ystyr a roddir gan reoliad 7(2);

(h) mae i “cyfarwyddyd man cyhoeddus” yr ystyr a roddir gan reoliad 7.

S-3 Dod i ben

Dod i ben

3.—(1) Daw’r Rheoliadau hyn i ben ar ddiwedd y dydd ar 8 Ionawr 2021.

(2) Nid yw’r rheoliad hwn yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir yn unol â’r Rheoliadau hyn cyn iddynt ddod i ben.

2 Cyfarwyddydau awdurdodau lleol mewn perthynas â mangreoedd, digwyddiadau a mannau cyhoeddus

RHAN 2

Cyfarwyddydau awdurdodau lleol mewn perthynas â mangreoedd, digwyddiadau a mannau cyhoeddus

PENNOD 1

Rhoi a dirymu cyfarwyddydau

S-4 Yr amodau iechyd y cyhoedd dros roi cyfarwyddydau

Yr amodau iechyd y cyhoedd dros roi cyfarwyddydau

4.—(1) Os yw’n ystyried bod yr amodau iechyd y cyhoedd wedi eu bodloni, caiff awdurdod lleol roi—

(a)

(a) cyfarwyddyd mangre o dan reoliad 5;

(b)

(b) cyfarwyddyd digwyddiad o dan reoliad 6;

(c)

(c) cyfarwyddyd man cyhoeddus o dan reoliad 7.

(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn, yr “amodau iechyd y cyhoedd” yw—

(a)

(a) bod y cyfarwyddyd yn ymateb i fygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd,

(b)

(b) bod y cyfarwyddyd yn angenrheidiol at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint gan y coronafeirws yn ardal yr awdurdod lleol, ac

(c)

(c) bod y gwaharddiadau, y gofynion neu’r cyfyngiadau a osodir gan y cyfarwyddyd yn ddull cymesur o gyflawni’r diben hwnnw.

S-5 Cyfarwyddydau mangreoedd

Cyfarwyddydau mangreoedd

5.—(1) Caiff awdurdod lleol roi cyfarwyddyd mangre mewn cysylltiad ag unrhyw fangre yn ei ardal.

(2) Caiff cyfarwyddyd mangre—

(a)

(a) ei gwneud yn ofynnol i’r fangre gael ei chau;

(b)

(b) gosod cyfyngiadau neu ofynion mewn perthynas â mynd i’r fangre neu ei gadael;

(c)

(c) gosod cyfyngiadau neu ofynion mewn perthynas â defnyddio’r fangre;

(d)

(d) gosod cyfyngiadau mewn perthynas â nifer y personau neu’r disgrifiad o’r personau a ganiateir yn y fangre.

(3) Ond ni chaniateir i gyfarwyddyd mangre gael ei roi mewn perthynas â mangre sy’n rhan o seilwaith allweddol.

(4) Cyn rhoi cyfarwyddyd mangre, rhaid i awdurdod lleol roi sylw i’r angen i sicrhau y gall aelodau’r cyhoedd gael gafael ar nwyddau a gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.

(5) Pan fo awdurdod lleol yn rhoi cyfarwyddyd mangre, rhaid iddo gymryd camau rhesymol i roi rhybudd ymlaen llaw o’r cyfarwyddyd i—

(a)

(a) person sy’n cynnal busnes o’r fangre y mae’r cyfarwyddyd yn ymwneud â hi, a

(b)

(b) (os yw’n wahanol) unrhyw berson sy’n berchen ar y fangre neu sy’n meddiannu’r fangre.

(6) Rhaid i berson sy’n gyfrifol am fangre y mae cyfarwyddyd mangre yn ymwneud â hi gymryd y camau sy’n angenrheidiol i gydymffurfio â’r cyfarwyddyd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r cyfarwyddyd gymryd effaith.

(7) Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, weithredu yn groes i gyfarwyddyd mangre.

S-6 Cyfarwyddydau digwyddiadau

Cyfarwyddydau digwyddiadau

6.—(1) Caiff awdurdod lleol roi cyfarwyddyd digwyddiad mewn cysylltiad ag unrhyw ddigwyddiad a gynhelir, neu y bwriedir ei gynnal, yn ei ardal.

(2) Wrth ystyried a yw’r amodau iechyd y cyhoedd wedi eu bodloni, rhaid i awdurdod lleol, yn benodol, roi sylw i a yw pobl yn ymgynnull yn y digwyddiad yn groes i reoliad 14 neu 14A o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 20202, neu a ydynt yn debygol o wneud hynny.

(3) Caiff cyfarwyddyd digwyddiad—

(a)

(a) ei gwneud yn ofynnol i’r digwyddiad ddod i ben neu beidio â chael ei gynnal;

(b)

(b) gosod cyfyngiadau neu ofynion mewn perthynas â mynd i’r digwyddiad neu ei adael;

(c)

(c) gosod cyfyngiadau neu ofynion mewn perthynas â nifer y personau a gaiff fod yn bresennol yn y digwyddiad;

(d)

(d) gosod unrhyw gyfyngiadau neu ofynion eraill mewn perthynas â chynnal y digwyddiad (gan gynnwys, er enghraifft, gofynion sy’n ymwneud â phresenoldeb gwasanaethau meddygol neu’r gwasanaethau brys yn y digwyddiad).

(4) Pan fo awdurdod lleol yn rhoi cyfarwyddyd digwyddiad rhaid iddo gymryd camau rhesymol i roi rhybudd ymlaen llaw o’r cyfarwyddyd i—

(a)

(a) person sy’n ymwneud â threfnu’r digwyddiad, a

(b)

(b) (os yw’n wahanol) unrhyw berson sy’n berchen ar y fangre neu sy’n meddiannu’r fangre lle y mae’r digwyddiad yn digwydd neu lle y bwriedir iddo ddigwydd.

(5) Rhaid i berson sy’n ymwneud â threfnu digwyddiad y mae cyfarwyddyd digwyddiad yn ymwneud ag ef gymryd y camau sy’n angenrheidiol i gydymffurfio â’r cyfarwyddyd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r cyfarwyddyd gymryd effaith.

(6) Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, weithredu yn groes i gyfarwyddyd digwyddiad.

(7) At ddibenion y Rhan hon, nid yw person yn ymwneud â threfnu digwyddiad os nad yw’r person ond yn ymwneud â’r digwyddiad, neu os na fyddai ond yn ymwneud â’r digwyddiad, drwy fod yn bresennol ynddo.

S-7 Cyfarwyddydau mannau cyhoeddus

Cyfarwyddydau mannau cyhoeddus

7.—(1) Caiff awdurdod lleol roi cyfarwyddyd man cyhoeddus mewn cysylltiad ag unrhyw fan cyhoeddus yn ardal yr awdurdod.

(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn, ystyr “man cyhoeddus” yw man yn yr awyr agored y mae gan y cyhoedd fynediad iddo neu y caniateir i’r cyhoedd gael mynediad iddo, pa un ai drwy dalu neu fel arall, gan gynnwys—

(a)

(a) tir sy’n ardd gyhoeddus neu a ddefnyddir at ddiben hamdden gan aelodau’r cyhoedd;

(b)

(b) tir sy’n “cefn gwlad agored” fel y diffinnir “open country” yn adran 59(2) o Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 19493, fel y’i darllenir gydag adran 16 o Ddeddf Cefn Gwlad 19684;

(c)

(c) unrhyw briffordd y mae gan y cyhoedd fynediad iddi.

(3) Ond nid yw man cyhoeddus yn cynnwys—

(a)

(a) “tir mynediad” o fewn yr ystyr a roddir yn rheoliad 14(7)(c);

(b)

(b) “llwybr cyhoeddus” o fewn yr ystyr a roddir yn rheoliad 14(7)(b).

(4) Caiff cyfarwyddyd man cyhoeddus osod gwaharddiadau, gofynion neu gyfyngiadau mewn perthynas â mynediad i’r man cyhoeddus (gan gynnwys, yn benodol, gwahardd mynediad ar adegau penodedig).

(5) Rhaid i gyfarwyddyd man cyhoeddus ddisgrifio’r man cyhoeddus yn ddigon manwl er mwyn gallu canfod ei ffiniau.

(6) Pan fo awdurdod lleol yn rhoi cyfarwyddyd man cyhoeddus rhaid iddo gymryd unrhyw gamau sy’n rhesymol ymarferol er mwyn—

(a)

(a) atal neu gyfyngu mynediad y cyhoedd i’r man cyhoeddus y mae’r cyfarwyddyd yn ymwneud ag ef yn unol â’r cyfarwyddyd (gan gynnwys codi a chynnal hysbysiadau mewn mannau amlwg sy’n rhoi gwybod i’r cyhoedd am y cyfarwyddyd);

(b)

(b) rhoi rhybudd ymlaen llaw o’r cyfarwyddyd i bersonau sy’n cynnal busnes o fangre o fewn y man cyhoeddus;

(c)

(c) sicrhau y dygir y cyfarwyddyd i sylw unrhyw berson sy’n berchen ar unrhyw fangre yn y man cyhoeddus, sy’n meddiannu unrhyw fangre ynddo neu sy’n gyfrifol am unrhyw fangre ynddo.

(7) Rhaid i unrhyw berson, ac eithrio awdurdod lleol, sy’n berchen ar fangre mewn man cyhoeddus y mae cyfarwyddyd man cyhoeddus yn ymwneud ag ef, sy’n meddiannu mangre o’r fath neu sy’n gyfrifol am fangre o’r fath gymryd unrhyw gamau sy’n rhesymol ymarferol er mwyn atal neu gyfyngu mynediad y cyhoedd i’r fangre yn unol â’r cyfarwyddyd.

(8) Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, fynd i fan cyhoeddus y mae cyfarwyddyd man cyhoeddus yn ymwneud ag ef neu aros yn y man cyhoeddus hwnnw yn groes i waharddiad, gofyniad neu gyfyngiad a osodir gan y cyfarwyddyd.

(9) Ni chaiff awdurdod lleol roi cyfarwyddyd man cyhoeddus mewn cysylltiad â man cyhoeddus sy’n cynnwys eiddo y mae adran 73 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 19845(eiddo’r Goron) yn gymwys iddo.

(10) Ond caiff awdurdod lleol roi cyfarwyddyd man cyhoeddus mewn cysylltiad â’r man hwnnw os yw’r awdurdod wedi ymrwymo i gytundeb o dan is-adran (2) o adran 73 â’r awdurdod priodol (o fewn yr ystyr a roddir i “appropriate authority” gan yr adran honno) fod—

(a)

(a) adran 45C o’r Ddeddf honno, a

(b)

(b) y Rheoliadau hyn,

yn gymwys i’r eiddo (yn ddarostyngedig i unrhyw delerau a gynhwysir yn y cytundeb).

S-8 Adolygu a dirymu

Adolygu a dirymu

8.—(1) Pan fo awdurdod lleol yn rhoi cyfarwyddyd o dan y Rhan hon, rhaid i’r awdurdod adolygu a yw’r amodau iechyd y cyhoedd yn parhau i gael eu bodloni mewn perthynas â’r cyfarwyddyd—

(a)

(a) o leiaf unwaith yn y cyfnod o 7 niwrnod sy’n...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT