Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2020

JurisdictionWales
CitationWSI 2020/985 (W222) (Cymru)

2020 Rhif 985 (Cy. 222)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2020

Gwnaed 11th September 2020

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 11th September 2020

Yn dod i rym 14th September 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 19841.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

S-1 Enwi a dod i rym

Enwi a dod i rym

1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2020 a deuant i rym ar 14 Medi 2020.

S-2 Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020

Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020

2.—(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 20202wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2A, yn lle paragraff (3) rhodder—

S-3

3. Pan fo aelwydydd yn cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig—

(a) mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn (ac eithrio yn y rheoliad hwn a rheoliad 14(1)(b)(i)) at “aelwyd” i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys yr aelwydydd sydd wedi cytuno felly, a

(b) mae rheoliad 14 yn gymwys i gynulliad sy’n cynnwys personau o fwy nag un aelwyd mewn aelwyd estynedig fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle paragraff (1)—

“(1) Ni chaiff cynulliad mewn mangre o dan do, heb esgus rhesymol, gynnwys—

(a) mwy na 6 aelod o aelwyd estynedig, heb gynnwys unrhyw blant o dan 11 oed;

(b) person nad yw’n aelod o’r aelwyd estynedig ar wahân i—

gofalwr aelod o’r aelwyd estynedig, neu

person y mae aelod o’r aelwyd estynedig yn darparu gofal iddo.””.

(3) Hepgorer rheoliad 11.

(4) Ar ôl rheoliad 12A mewnosoder—

S-12B

Gofyniad i wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus penodol o dan do

12B. (1) Rhaid i berson (“P”) wisgo gorchudd wyneb mewn mangreoedd perthnasol o dan do.

(2) Ond nid yw hyn yn ofynnol—

(a)

(a) pan fo esemptiad yn gymwys o dan baragraff (3);

(b)

(b) pan fo gan P esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb, ac o ran hynny gweler paragraff (4).

(3) Mae esemptiad i’r gofyniad i wisgo gorchudd wyneb yn gymwys—

(a)

(a) pan fo P yn blentyn o dan 11 oed;

(b)

(b) pan fo P mewn mangre lle y gwerthir bwyd neu ddiod, neu lle y darperir bwyd neu ddiod fel arall, i’w fwyta neu i’w hyfed yn y fangre honno.

(4) Mae’r amgylchiadau pan fo gan P esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb yn cynnwys—

(a)

(a) pan na fo P yn gallu rhoi gorchudd am ei wyneb, neu wisgo neu dynnu gorchudd wyneb, oherwydd salwch neu nam corfforol neu feddyliol, neu anabledd (o fewn yr ystyr a roddir i “disability” yn adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 20103);

(b)

(b) pan fo P yn ymgymryd â gweithgaredd ac y gellir ystyried yn rhesymol bod gwisgo gorchudd wyneb yn ystod y gweithgaredd hwnnw yn peri risg i iechyd P;

(c)

(c) pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb i gyfathrebu â pherson arall sy’n cael anhawster i gyfathrebu (mewn perthynas â lleferydd, iaith neu fel arall);

(d)

(d) pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb er mwyn osgoi niwed neu anaf, neu’r risg o niwed neu anaf, i P ei hunan neu i eraill;

(e)

(e) pan fo P yn y fangre i osgoi anaf, neu i ddianc rhag risg o niwed, ac nad oes gan P orchudd wyneb;

(f)

(f) pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb i—

cymryd meddyginiaeth;

bwyta neu yfed, pan fo’n rhesymol angenrheidiol;

(g)

(g) pan ofynnir i P dynnu’r gorchudd wyneb gan swyddog gorfodaeth.

(5) At ddibenion paragraff (3)(b), pan fo bwyd neu ddiod yn cael ei werthu neu ei gwerthu neu’n cael ei...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT