Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2020
Jurisdiction | Wales |
2020 Rhif 820 (Cy. 180)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2020
Gwnaed 31th July 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 31th July 2020
Yn dod i rym 3rd August 2020
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 19841.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.
Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a dod i rym
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2020 a deuant i rym ar 3 Awst 2020.
Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020
2.—(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 20202wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Hepgorer rheoliad 6.
(3) Yn rheoliad 7—
(a)
(a) yn y pennawd, yn lle “eraill” rhodder “penodol”;
(b)
(b) ym mharagraff (2)(a), hepgorer “4,”.
(4) Yn rheoliad 9, hepgorer “6(1) neu” yn y ddau le y mae’n digwydd.
(5) Yn rheoliad 12—
(a)
(a) ym mharagraff (2)(a)(ii), yn y testun Cymraeg, ar ôl “gynnal” mewnosoder “rhyngddynt”;
(b)
(b) ym mharagraff (3), hepgorer is-baragraff (d).
(6) Yn rheoliad 14—
(a)
(a) ym mharagraff (1), hepgorer is-baragraff (a);
(b)
(b) yn lle’r pennawd rhodder—
“Cyfyngiadau ar gynulliadau o dan do”.
(7) Ar ôl rheoliad 14 mewnosoder—
“Cyfyngiad ar gynulliadau yn yr awyr agored
14A. (1) Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad yn yr awyr agored sy’n cynnwys mwy na 30 o bobl.
(2) Mae esgus rhesymol yn cynnwys yr angen i wneud y canlynol—
(a)
(a) gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;
(b)
(b) pan fo’r person yn athletwr elît, hyfforddi neu gystadlu;
(c)
(c) bodloni rhwymedigaeth gyfreithiol;
(d)
(d) cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;
(e)
(e) cael gafael ar ofal plant neu gymryd rhan mewn gweithgareddau o dan oruchwyliaeth i blant.”
(8) Hepgorer rheoliad 15.
(9) Yn rheoliad 17(2), hepgorer “6(1),”.
(10) Yn rheoliad 18—
(a)
(a) ym mharagraff (1), hepgorer “6(1),”;
(b)
(b) ym mharagraffau (4) a (6), ar ôl “14(1)” mewnosoder “neu 14A(1)”.
(11) Yn rheoliad 20(1)—
(a)
(a) yn is-baragraff (a), hepgorer “6(1),”;
(b)
(b) yn is-baragraff (b), ar ôl “14(1)” mewnosoder “neu 14A(1)”.
(12) Yn rheoliad 20(11), yn y testun Cymraeg, yn lle “gronfeydd y” rhodder “asedau’r”.
(13) Hepgorer Atodlen 1.
(14) Yn Atodlen 2—
(a)
(a) yn lle paragraff 3 rhodder—
“3. Lleoliadau lle y darperir cerddoriaeth fyw neu wedi ei recordio i aelodau’r cyhoedd neu aelodau’r lleoliad ddawnsio.
3A. Lleoliadau adloniant rhywiol (o fewn yr ystyr a roddir i...
To continue reading
Request your trial