Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020

JurisdictionWales
CitationWSI 2020/353 (Cymru)

2020 Rhif 353 (Cy. 80)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020

Gwnaed 26th March 2020

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 27th March 2020

Yn dod i rym 26th March 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 19841.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlu acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

S-1 Enwi, dod i rym, cymhwyso a dehongli

Enwi, dod i rym, cymhwyso a dehongli

1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 a deuant i rym am 4.00p.m. ar 26 Mawrth 2020.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3) Yn y Rheoliadau hyn—

(a)

(a) ystyr “gofalwr” yw person sy’n darparu gofal ar gyfer y person a gynorthwyir pan—

(i) bo hawlogaeth gan y gofalwr i asesiad o dan adran 24 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 20142,

(ii) bo’r gofal yn rhan o’r ddarpariaeth o wasanaethau gofal cymunedol o dan Ran 4 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, neu

(iii) bo’r gofal wedi ei ddarparu gan ddarparwr gofal sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 20163;

(b)

(b) ystyr “coronafeirws” yw coronafeirws syndrom anadlu acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2);

(c)

(c) ystyr “awdurdod lleol” yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

(d)

(d) mae “person sy’n gyfrifol am gynnal busnes” yn cynnwys perchennog a rheolwr y busnes hwnnw;

(e)

(e) mae “person hyglwyf” yn cynnwys—

(i) unrhyw berson sy’n 70 oed neu’n hŷn;

(ii) unrhyw berson o dan 70 oed sydd â chyflwr iechyd isorweddol, gan gynnwys y cyflyrau a restrir yn Atodlen 2, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt;

(iii) unrhyw berson sy’n feichiog.

S-2 Dirymu

Dirymu

2.—(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Cau Busnes) (Cymru) 20204a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws: Cau Busnesau Hamdden, Llwybrau Troed a Thir Mynediad) (Cymru) 20205wedi eu dirymu.

(2) Er gwaethaf dirymu’r Rheoliadau hynny, maent yn parhau mewn grym mewn perthynas ag unrhyw drosedd a gyflawnwyd oddi tanynt cyn y daeth y Rheoliadau hyn i rym.

S-3 Cyfnod yr argyfwng ac adolygu’r angen am gyfyngiadau

Cyfnod yr argyfwng ac adolygu’r angen am gyfyngiadau

3.—(1) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae “cyfnod yr argyfwng”—

(a)

(a) yn dechrau pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym, a

(b)

(b) yn gorffen mewn perthynas â gofyniad neu gyfyngiad a osodir gan y Rheoliadau hyn ar y diwrnod ac ar yr adeg a bennir mewn cyfarwyddyd a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru sy’n terfynu’r gofyniad neu’r cyfyngiad (gweler paragraffau (3) a (4)).

(2) Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r angen am gyfyngiadau a gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn bob 21 o ddiwrnodau, gyda’r adolygiad cyntaf yn cael ei gynnal erbyn 15 Ebrill 2020.

(3) Cyn gynted ag y bo Gweinidogion Cymru yn ystyried nad oes angen gofyniad neu gyfyngiad a osodir gan y Rheoliadau hyn mwyach i atal, i ddiogelu rhag, i reoli neu i ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint yng Nghymru â’r coronafeirws, rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi cyfarwyddyd sy’n terfynu’r gofyniad neu’r cyfyngiad.

(4) Caiff cyfarwyddyd a gyhoeddir o dan y rheoliad hwn—

(a)

(a) terfynu unrhyw un neu ragor o ofynion neu gyfyngiadau;

(b)

(b) terfynu gofyniad neu gyfyngiad mewn perthynas â busnes neu wasanaeth penodedig neu ddisgrifiad penodedig o fusnes neu wasanaeth.

(5) Yn y rheoliad hwn, ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu mewn cyfarwyddyd.

S-4 Gofyniad i gau mangreoedd a busnesau yn ystod cyfnod yr argyfwng

Gofyniad i gau mangreoedd a busnesau yn ystod cyfnod yr argyfwng

4.—(1) Rhaid i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 1, yn ystod cyfnod yr argyfwng—

(a)

(a) cau unrhyw fangre, neu ran o’r fangre, lle y gwerthir bwyd neu ddiod i’w fwyta neu i’w hyfed yn y fangre honno;

(b)

(b) peidio â gwerthu bwyd neu ddiod i’w fwyta neu i’w hyfed yn ei fangre (ond os yw’r busnes yn gwerthu bwyd a diod i’w fwyta neu i’w hyfed oddi ar y fangre, caiff barhau i wneud hynny yn ddarostyngedig i reoliad 6(1).

(2) At ddibenion paragraff (1), nid yw bwyd neu ddiod a werthir gan westy neu lety arall fel rhan o wasanaeth ystafell i’w drin neu i’w thrin fel pe bai’n cael ei werthu neu ei gwerthu i’w fwyta neu i’w hyfed yn ei fangre.

(3) At ddibenion paragraff (1), mae ardal sy’n gyfagos i fangre’r busnes lle y mae seddau yn cael eu rhoi ar gael i gwsmeriaid y busnes (pa un ai gan y busnes ai peidio) i’w thrin fel rhan o fangre’r busnes hwnnw.

(4) Rhaid i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes neu ddarparu gwasanaeth a restrir yn Rhan 2 neu 3 o Atodlen 1, yn ystod cyfnod yr argyfwng, beidio â chynnal y busnes hwnnw neu ddarparu’r gwasanaeth hwnnw.

(5) Ond nid yw paragraff (4) yn atal y defnydd—

(a)

(a) o fangre a ddefnyddir ar gyfer y busnesau neu’r gwasanaethau a restrir ym mharagraffau 5, 6, 7, 8, 9, 10 neu 18 o Ran 2 i ddarlledu (heb gynulleidfa) berfformiad (boed dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu);

(b)

(b) o unrhyw fangre addas a ddefnyddir ar gyfer y busnesau neu’r gwasanaethau a restrir yn Rhan 2 neu 3 o’r Atodlen honno i ddarparu, ar gais Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol, wasanaethau cyhoeddus brys (gan gynnwys darparu bwyd neu gymorth arall ar gyfer y digartref neu bersonau hyglwyf, sesiynau rhoi gwaed neu gymorth mewn argyfwng);

(c)

(c) o fangre a ddefnyddir fel amgueddfa, oriel neu lyfrgell, neu a ddefnyddir i ddarparu gwasanaethau archifau, ar gyfer darparu gwybodaeth neu wasanaethau eraill—

(i) drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar-lein,

(ii) dros y ffôn, gan gynnwys archebion drwy neges destun, neu

(iii) drwy’r post.

(6) Os yw busnes a restrir yn Atodlen 1 (“busnes A”) yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”), mae’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn cydymffurfio â’r gofyniad ym mharagraff (1) neu (4) os yw’n cau busnes A i lawr.

S-5 Gofyniad i gau mangreoedd a busnesau yn ystod cyfnod yr argyfwng: darpariaeth benodol ynghylch llety gwyliau etc.

Gofyniad i gau mangreoedd a busnesau yn ystod cyfnod yr argyfwng: darpariaeth benodol ynghylch llety gwyliau etc.

5.—(1) I’r graddau y mae rheoliad 4(4) yn gymwys i safle gwyliau neu safle gwersylla (yn rhinwedd ei restru yn Rhan 3 o Atodlen 1), mae’r rhwymedigaeth ar y person sy’n gyfrifol am gynnal y busnes (“P”) yn cynnwys rhwymedigaeth ar P i wneud ei orau glas i sicrhau fod unrhyw berson sy’n aros ar y safle pan yw’r busnes wedi peidio â chael ei gynnal yn gadael y fangre.

(2) Ond nid yw’r rhwymedigaeth ym mharagraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw berson sy’n defnyddio cartref symudol ar safle gwyliau i’w fyw ynddo gan bobl o dan gytundeb y mae Rhan 4 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 20136yn gymwys iddo.

(3) I’r graddau y mae rheoliad 4(4) yn gymwys i unrhyw fusnes arall a restrir yn Rhan 3 o Atodlen 1, mae’r rhwymedigaeth ar y person sy’n gyfrifol am gynnal y busnes yn gymwys yn ddarostyngedig i’r angen—

(a)

(a) i ddarparu llety i bersonau sy’n aros yn y llety hwnnw pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym ac—

(i) na allant ddychwelyd i’w prif breswylfa, neu

(ii) sy’n defnyddio’r llety fel eu prif breswylfa;

(b)

(b) i gynnal y busnes, neu i gadw unrhyw fangre a ddefnyddir at y busnes yn agored, at unrhyw ddiben ar gais Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol.

(4) Yn y rheoliad hwn ac yn Rhan 3 o’r Atodlen, ystyr “safle gwyliau” yw unrhyw dir yng Nghymru lle y gosodir cartref symudol neu garafán at ddibenion byw gan bobl (gan gynnwys unrhyw dir yng Nghymru a ddefnyddir ar y cyd â’r tir hwnnw), y mae’r caniatâd cynllunio perthnasol neu’r drwydded safle ar gyfer y tir mewn cysylltiad ag ef—

(a)

(a) wedi ei fynegi i’w roi neu wedi ei mynegi i’w rhoi at ddefnydd gwyliau yn unig, neu

(b)

(b) yn ei gwneud yn ofynnol bod adegau o’r flwyddyn pan na chaniateir gosod unrhyw gartref symudol neu garafán ar y safle i bobl fyw ynddo neu ynddi.

(5) At ddibenion penderfynu pa un a yw safle yn safle gwyliau ai peidio, mae unrhyw ddarpariaeth yn y caniatâd cynllunio perthnasol neu yn y drwydded safle sy’n caniatáu gosod cartref symudol ar y tir i bobl fyw ynddo drwy gydol y flwyddyn i’w hanwybyddu os yw wedi ei hawdurdodi i’r canlynol feddiannu’r cartref symudol—

(a)

(a) y person sy’n berchennog y safle, neu

(b)

(b) person sydd wedi ei gyflogi gan y person hwnnw ond nad yw’n meddiannu’r cartref symudol o dan gytundeb y mae Rhan 4 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 20137yn gymwys iddo.

S-6 Cyfyngiadau ar fusnesau a gwasanaethau penodol eraill yn ystod cyfnod yr argyfwng

Cyfyngiadau ar fusnesau a gwasanaethau penodol eraill yn ystod cyfnod yr argyfwng

6.—(1) Rhaid i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes, neu am ddarparu gwasanaeth, a restrir yn Rhan 4 o Atodlen 1, yn ystod cyfnod yr argyfwng—

(a)

(a) cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau ym mangre’r busnes (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr),

(b)

(b) cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau nad yw personau ond yn cael mynediad i fangre’r busnes mewn niferoedd digon bach fel bod modd cynnal y pellter hwnnw, ac

(c)

(c) cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng personau sy’n aros i fynd i fangre’r busnes (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr).

(2)...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT