Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) 2020

JurisdictionWales
CitationWSI 2020/1015 (W226) (Cymru)

2020 Rhif 1015 (Cy. 226)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) 2020

Gwnaed 18th September 2020

Gosodwyd gerbron Senedd Cymrut 18th September 2020

Yn dod i rym 19th September 2020

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 19841, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

1 Cyffredinol

RHAN 1

Cyffredinol

S-1 Enwi, dod i rym a dehongli

Enwi, dod i rym a dehongli

1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) 2020.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 19 Medi 2020.

(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 20202.

2 Diwygiadau i’r rhestr o wledydd esempt yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol

RHAN 2

Diwygiadau i’r rhestr o wledydd esempt yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol

S-2 Ychwanegiad at y rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt

Ychwanegiad at y rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt

2.—(1) Yn Rhan 1 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), yn y lle priodol mewnosoder—

“Gwlad Thai”.

(2) Yn Rhan 2 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), yn y lle priodol mewnosoder—

“Gibraltar”.

S-3 Darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â rheoliad 2

Darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â rheoliad 2

3.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan, yn union cyn 4.00 a.m. ar 19 Medi 2020—

(a)

(a) oedd person (“P”) yn ddarostyngedig i ofyniad i ynysu yn rhinwedd y ffaith iddo gyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth a restrir yn rheoliad 2, neu ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath, a

(b)

(b) diwrnod olaf ynysiad P yw 19 Medi 2020 neu ddiwrnod ar ôl y diwrnod hwnnw.

(2) Nid yw ychwanegu’r wlad a’r diriogaeth a restrir yn rheoliad 2 at Rannau 1 a 2 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn effeithio ar y gofyniad i ynysu fel y mae’n gymwys i P, nac ar y modd y pennir diwrnod olaf ynysiad P o dan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.

(3) Mae paragraff (4) yn gymwys pan fo person (“P”)—

(a)

(a) yn cyrraedd Cymru am 4.00 a.m. ar 19 Medi 2020 neu wedi hynny, a

(b)

(b) wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn rheoliad 2 o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.

(4) At ddibenion rheoliadau 7(1) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, mae’r cwestiwn o ran a yw P wedi cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt neu ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath i’w bennu, mewn perthynas â gwlad neu diriogaeth a restrir yn rheoliad 2, drwy gyfeirio at ba un a oedd y wlad neu’r diriogaeth yn wlad neu’n diriogaeth nad yw’n esempt pan oedd P yno ddiwethaf (ac nid drwy gyfeirio at statws y wlad neu’r diriogaeth pan fo P yn cyrraedd Cymru).

(5) Yn y rheoliad hwn, mae i “gofyniad i ynysu” yr ystyr a roddir gan reoliad 10(2) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol; ac mae cyfeiriadau at ddiwrnod olaf ynysiad P i’w dehongli yn unol â rheoliad 12 o’r Rheoliadau hynny.

S-4 Hepgor gwledydd a thiriogaethau o’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt

Hepgor gwledydd a thiriogaethau o’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt

4. Yn Rhan 1 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), hepgorer—

“Guadeloupe”

“Slofenia”.

S-5 Darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â rheoliad 4

Darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â rheoliad 4

5.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo person (“P”)—

(a)

(a) yn cyrraedd Cymru am 4:00 a.m. ar 19 Medi 2020 neu wedi hynny, a

(b)

(b) wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn rheoliad 4 ddiwethaf—

(i) o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â’r...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT