Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2020

JurisdictionWales

2020 Rhif 817 (Cy. 179)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2020

Gwnaed 30th July 2020

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 31th July 2020

Yn dod i rym 30th July 2020

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 19841, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, dod i rym a dehongli
S-1 Enwi, dod i rym a dehongli

Enwi, dod i rym a dehongli

1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2020.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 11.59 p.m. ar 30 Gorffennaf 2020.

(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 20202.

Diwygiadau i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol
S-2 Diwygiadau i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol

Diwygiadau i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol

2. Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol wedi eu diwygio yn unol a rheoliadau 3, 6, 8 a 9.

Ychwanegiadau at y rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt
S-3 Ychwanegiadau at y rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt

Ychwanegiadau at y rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt

3. Yn Rhan 1 o Atodlen 3 (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), yn y lleoedd priodol mewnosoder—

“Estonia”

“Latfia”

“Saint Vincent a’r Grenadines”

“Slofacia”

“Slofenia”.

Darpariaethau trosiannol sy’n ymwneud â rheoliad 3

Darpariaethau trosiannol sy’n ymwneud â rheoliad 3

S-4 Mae paragraff (2) yn gymwys pan, yn union cyn 31 Gorffennaf...

4.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan, yn union cyn 31 Gorffennaf 2020—

(a)

(a) oedd person (“P”) yn ddarostyngedig i ofyniad i ynysu yn rhinwedd y ffaith ei fod wedi cyrraedd Cymru o wlad a restrir yn rheoliad 3, neu ar ôl bod mewn gwlad a restrir yn y rheoliad hwnnw, a

(b)

(b) fo diwrnod olaf ynysiad P ar 31 Gorffennaf 2020 neu ddiwrnod ar ôl y diwrnod hwnnw.

(2) Nid yw ychwanegu’r gwledydd a restrir yn rheoliad 3 at Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn effeithio ar y gofyniad i ynysu fel y mae’n gymwys i P, nac ar y modd y pennir diwrnod olaf ynysiad P o dan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.

(3) Yn y rheoliad hwn, mae i “gofyniad i ynysu” yr ystyr a roddir gan reoliad 10(2) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol; ac mae cyfeiriadau at ddiwrnod olaf ynysiad P i’w dehongli yn unol â rheoliad 12 o’r Rheoliadau hynny.

S-5 Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo person (“P”)— yn cyrraedd...

5.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo person (“P”)—

(a)

(a) yn cyrraedd Cymru ar 31 Gorffennaf 2020 neu wedi hynny, a

(b)

(b) wedi bod mewn gwlad a restrir yn rheoliad 3 o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.

(2) At ddibenion rheoliadau 7(1) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, mae’r cwestiwn o ran pa un a yw P wedi cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt, neu ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath, mewn perthynas â gwlad a restrir yn rheoliad 3, i’w bennu drwy gyfeirio at ba un a oedd y wlad yn wlad nad yw’n esempt pan oedd P yno ddiwethaf (ac nid drwy gyfeirio at statws y wlad pan fo P yn cyrraedd Cymru).

Hepgor Lwcsembwrg o’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt
S-6 Hepgor Lwcsembwrg o’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt

Hepgor Lwcsembwrg o’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt

6. Yn Rhan 1 o Atodlen 3 (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), hepgorer “Lwcsembwrg”.

Darpariaeth drosiannol yn ymwneud â Lwcsembwrg
S-7 Darpariaeth drosiannol yn ymwneud â Lwcsembwrg

Darpariaeth drosiannol yn ymwneud â Lwcsembwrg

7.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo person (“P”)—

(a)

(a) yn cyrraedd Cymru ar 31 Gorffennaf 2020 neu wedi hynny, a

(b)

(b) wedi bod yn Lwcsembwrg ddiwethaf—

(i) o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru, a

(ii) cyn 31 Gorffennaf 2020.

(2) Mae P, yn rhinwedd y ffaith iddo fod yn Lwcsembwrg, i’w drin at ddibenion rheoliadau 7(1) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol fel pe bai wedi cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt, neu fel pe bai wedi cyrraedd ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath.

Ychwanegiadau at y rhestr o ddigwyddiadau chwaraeon penodedig
S-8 Ychwanegiadau at y rhestr o ddigwyddiadau chwaraeon penodedig

Ychwanegiadau at y rhestr o ddigwyddiadau chwaraeon penodedig

8.—(1) Mae Atodlen 4 (digwyddiadau chwaraeon penodedig) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2) Ym mharagraff 2, yn lle “— gemau prawf.” rhodder—

“—

(a)

(a) gemau prawf;

(b)

(b) gemau rhyngwladol undydd;

(c)

(c) gemau T20 rhyngwladol.”

(3) Ym mharagraff 4, yn lle “— gornestau Cynghrair Pencampwyr UEFA a Chynghrair Ewropa UEFA.” rhodder—

“—

(a)

(a) gornestau Cynghrair Pencampwyr UEFA a Chynghrair Ewropa UEFA;

(b)

(b) gornestau...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT