Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2020
Jurisdiction | Wales |
Citation | WSI 2020/638 (Cymru) |
Year | 2020 |
2020 Rhif 638 (Cy. 146)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2020
Gwnaed 23th June 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 25th June 2020
Yn dod i rym 1st August 2020
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22(2)(g), (3)(d) a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 19981ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy2.
Enwi a chychwyn
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Awst 2020.
Cymhwyso
2. Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyrwyr mewn cysylltiad â Blwyddyn Academaidd 2020/2021.
Dehongli
3. Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “Atebolrwydd sydd heb ei Dalu” (“Outstanding Liability”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 7;
ystyr “benthyciad at gostau byw” (“loan for living costs”) yw benthyciad a geir gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â Blwyddyn Academaidd 2020/2021 o dan Ran 6 o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 20173neu o dan Ran 8 o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 20184mewn cysylltiad â chwrs llawnamser;
ystyr “benthyciwr” (“borrower”) yw person sydd wedi cael benthyciad at gostau byw;
ystyr “blwyddyn academaidd” (“academic year”) yw’r cyfnod o ddeuddeng mis sy’n dechrau ar 1 Medi, 1 Ionawr, 1 Ebrill neu 1 Gorffennaf yn y flwyddyn galendr y mae blwyddyn academaidd y cwrs o dan sylw yn dechrau ynddi, yn ôl a yw’r flwyddyn academaidd honno yn dechrau ar neu ar ôl 1 Awst ond cyn 1 Ionawr, ar neu ar ôl 1 Ionawr ond cyn 1 Ebrill, ar neu ar ôl 1 Ebrill ond cyn 1 Gorffennaf, neu ar neu ar ôl 1 Gorffennaf ond cyn 1 Awst, yn y drefn honno;
ystyr “Blwyddyn Academaidd 2020/2021” (“Academic Year 2020/2021”) yw blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2020 ond cyn 1 Medi 2021;
ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;
ystyr “Deddf 2008” (“the 2008 Act”) yw Deddf Gwerthu Benthyciadau Myfyrwyr 20085;
ystyr “Dyddiad Ad-dalu” (“Repayment Date”) yw’r diwrnod ar ôl y dyddiad yr ystyrir bod ad-daliad cyntaf y benthyciwr ar ei fenthyciad wedi ei gael naill ai gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi neu gan Weinidogion Cymru, pa un bynnag yr ystyrir iddo ei gael gyntaf (yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 22 o Ddeddf 19986);
mae i “Dyddiad Bodloni” (“Satisfaction Date”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 9;
mae “Gweinidogion Cymru” (“Welsh Ministers”) yn cynnwys unrhyw berson y mae Gweinidogion Cymru wedi trosglwyddo neu wedi dirprwyo eu swyddogaethau iddo o dan adran 23 o Ddeddf 19987neu unrhyw berson y maent wedi trosglwyddo eu hawliau iddo o dan adran 9 o Ddeddf 2008; ac
mae i “Swm Penodedig” (“Specified Amount”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 6.
Y cymhwyster ar gyfer dileu
4. Mae benthyciwr yn gymwys i gael y Swm Penodedig o’i Atebolrwydd sydd heb ei Dalu wedi ei ddileu o dan yr amgylchiadau a nodir yn rheoliad 5 (“yr Amgylchiadau”).
Yr Amgylchiadau
5. Yr Amgylchiadau at ddibenion rheoliad 4 yw bod Gweinidogion Cymru yn ystyried, ar y Dyddiad Ad-dalu—
(a) nad yw’r benthyciwr wedi torri unrhyw rwymedigaeth a geir mewn unrhyw gytundeb ar gyfer benthyciad myfyriwr neu mewn unrhyw reoliadau a wneir o dan adran 22 o Ddeddf 1998;
(b) nad oes gan y benthyciwr gosbau, costau, treuliau neu ffioedd sydd heb eu talu mewn perthynas ag unrhyw fenthyciad o’r fath yn unol ag unrhyw gytundeb neu reoliadau o’r fath; ac
(c) nad yw’r benthyciwr wedi cael unrhyw o’i atebolrwydd i dalu mewn cysylltiad â benthyciad a gafwyd gan Weinidogion Cymru wedi ei ddileu (gan gynnwys dilead o £0.00) o dan ddarpariaethau—
(i) Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 20108;
(ii) Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 20119;
(iii) Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 201210;
(iv) Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 201311;
(v) Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 201412;
(vi) Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 201513;
(vii) Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 201614;
(viii) Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 201715;
(ix) Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 201816; neu
(x) Rheoliadau Dileu Atebolrwydd...
To continue reading
Request your trial