Rheoliadau Deddf yr Economi Ddigidol 2017 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru a Lloegr) 2018
Jurisdiction | Wales |
Citation | WSI 2018/342 (W 62) (C 29) (Cymru) |
Year | 2018 |
2018 Rhif 342 (Cy. 62) (C. 29)
DATGELU GWYBODAETH, CYMRU A LLOEGR
Rheoliadau Deddf yr Economi Ddigidol 2017 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru a Lloegr) 2018
Gwnaed 8Mawrth 2018
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 118(5) a (7) o Ddeddf yr Economi Ddigidol 2017(1).
Enwi a dehongli
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf yr Economi Ddigidol 2017 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru a Lloegr) 2018.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Deddf 2017” yw Deddf yr Economi Ddigidol 2017.
Y darpariaethau sy'n dod i rym drannoeth y diwrnod y gwneir y Rheoliadau hyn
2. Daw'r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2017 i rym drannoeth y diwrnod y gwneir y Rheoliadau hyn—
(a) adran 35 (datgelu gwybodaeth i wella cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus), at ddibenion gwneud rheoliadau mewn perthynas â datgelu gwybodaeth i ymgymerwr dŵr neu garthffosiaeth ar gyfer ardal sy'n gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru, neu mewn perthynas â datgelu gwybodaeth gan ymgymerwr o'r fath, yn unig;
(b) adran 38 (datgelu gwybodaeth i ymgymerwyr dŵr a charthffosiaeth etc.), at ddibenion gwneud rheoliadau mewn perthynas â datgelu gwybodaeth i ymgymerwr dŵr neu garthffosiaeth ar gyfer ardal sy'n gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru, neu mewn perthynas â datgelu gwybodaeth gan ymgymerwr o'r fath, yn unig; ac
(c) adran 44 (rheoliadau), i'r graddau y mae'n ymwneud â'r dibenion a bennir ym mharagraffau (a) a (b).
Y darpariaethau sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 2018
3.—(1) Daw'r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2017 i rym ar 1 Ebrill 2018 i'r graddau y maent yn ymwneud â datgelu gwybodaeth i ymgymerwr dŵr neu garthffosiaeth ar gyfer ardal sy'n gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru, neu'n ymwneud â datgelu gwybodaeth gan ymgymerwr o'r fath—
(a) adran 35 (datgelu gwybodaeth i wella cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus), at bob diben sy'n weddill;
(b) adran 38 (datgelu gwybodaeth i ymgymerwyr dŵr a charthffosiaeth etc.), at bob diben sy'n weddill;
(c) adran 39 (datgelu gwybodaeth gan ymgymerwyr dŵr a charthffosiaeth etc.);
(d) adran 40 (darpariaethau pellach ynghylch datgeliadau o dan unrhyw un neu ragor o adrannau 35 i 39);
(e) adran 41 (cyfrinachedd gwybodaeth bersonol);
(f) adran 42 (gwybodaeth a ddatgelir gan Gyllid a Thollau);
(g) adran 43 (cod ymarfer);
(h) adran 44 (rheoliadau), at yr holl ddibenion sy'n weddill;
(i) adran 45 (dehongli'r bennod hon etc.);
(j) Atodlen 4 (cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus: personau penodedig at ddibenion adran 35);
(k) Atodlen 6 (cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus: personau penodedig at ddibenion adrannau 38 a 39).
(2) Daw Penodau 5 a 6 o Ran 5 o Ddeddf 2017 i rym ar 1 Ebrill 2018, i'r graddau y maent yn ymwneud â datgelu gwybodaeth gan Awdurdod Cyllid Cymru.
8 Mawrth 2018 |
Mark Drakeford Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru |
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf yr Economi Ddigidol 2017 (“y Ddeddf”).
Mae rheoliad 2 yn cychwyn darpariaethau penodol ym Mhennod 1 o Ran 5 o'r Ddeddf drannoeth y diwrnod y gwneir y Rheoliadau hyn, at ddiben gwneud rheoliadau mewn perthynas â datgelu gwybodaeth i ymgymerwr dŵr neu garthffosiaeth ar gyfer ardal sy'n gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru, neu mewn perthynas â datgelu gwybodaeth gan ymgymerwr o'r fath.
Mae rheoliad 3 yn cychwyn darpariaethau ym Mhennod 1 o Ran 5 o'r Ddeddf ar 1 Ebrill 2018, at yr holl ddibenion sy'n weddill ac i'r graddau y maent yn ymwneud â datgelu gwybodaeth i ymgymerwr dŵr neu garthffosiaeth ar gyfer ardal sy'n gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru, neu'n ymwneud â datgelu gwybodaeth gan ymgymerwr o'r fath.
Mae rheoliad 3 hefyd yn cychwyn Penodau 5 a 6 o Ran 5 o'r Ddeddf ar 1 Ebrill 2018 i'r graddau y maent yn ymwneud â datgelu gwybodaeth gan Awdurdod Cyllid Cymru.
NODYN AM Y RHEOLIADAU CYCHWYN CYNHARACH
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r darpariaethau a ganlyn o'r Ddeddf wedi eu dwyn i rym, neu maent i'w dwyn i rym, drwy reoliadau cychwyn a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol cyn dyddiad y Rheoliadau hyn:
Y Ddarpariaeth |
Y Dyddiad Cychwyn |
Rhif O.S. |
Adran 4 (yn rhannol) |
31 Gorffennaf 2017 |
2017/765 |
Adran 4 (dibenion pellach) |
22 Tachwedd 2017 |
2017/1136 |
Adran 4 (at y dibenion sy'n weddill) |
28 Rhagfyr 2017 |
2017/1286 |
Adran 5 |
31 Gorffennaf 2017 |
2017/765 |
Adran 6 |
31 Gorffennaf 2017 |
2017/765 |
Adran 8 |
31 Gorffennaf 2017 |
2017/765 |
Adran 14 (yn rhannol) |
31 Gorffennaf 2017 |
2017/765 |
Adran 15 (yn rhannol) |
31 Gorffennaf 2017 |
2017/765 |
Adran 16 |
31 Gorffennaf 2017 |
2017/765 |
Adran 17 |
31 Gorffennaf 2017 |
2017/765 |
Adran 21(5) (yn rhannol) |
31 Gorffennaf 2017 |
2017/765 |
Adran 22 (yn rhannol) |
31 Gorffennaf 2017 |
2017/765 |
Adran 25 |
31 Gorffennaf 2017 |
2017/765 |
Adran 26(2) |
31 Gorffennaf 2017 |
2017/765 |
Adran 27 |
31 Gorffennaf 2017 |
2017/765 |
Adran 30(1) a (2) (yn rhannol) |
31 Gorffennaf 2017 |
2017/765 |
Adran 32 |
1 Hydref 2017 |
2017/765 |
Adran 33 |
1 Hydref 2017 |
2017/765 |
Adran 34 |
31 Gorffennaf 2017 |
2017/765 |
Adran 35 (yn rhannol) |
1 Hydref 2017 |
2017/765 |
Adran 36 (yn rhannol) |
1 Hydref 2017 |
2017/765 |
Adran 43 (yn rhannol) |
1 Hydref 2017 |
2017/765 |
Adran 44 (yn rhannol) |
1 Hydref 2017 |
2017/765 |
Adran 46 (yn rhannol) |
31 Gorffennaf 2017 |
2017/765 |
Adran 47 (yn rhannol) |
31 Gorffennaf 2017 |
2017/765 |
Adran 48 (yn rhannol) |
1 Hydref 2017 |
2017/765 |
Adran 52 (yn rhannol) |
1 Hydref 2017 |
2017/765 |
Adran 54 (yn rhannol) |
1 Hydref 2017 |
2017/765 |
Adran 56 (yn rhannol) |
1 Hydref 2017 |
2017/765 |
Adran 60 (yn rhannol) |
1 Hydref 2017 |
2017/765 |
Adran 62 (yn rhannol) |
1 Hydref 2017 |
2017/765 |
Adran 70 (yn rhannol) |
1 Hydref 2017 |
2017/765 |
Adran 74 |
31 Gorffennaf 2017 |
2017/765 |
Adran 76 |
31 Gorffennaf 2017 |
2017/765 |
Adran 77 |
31 Gorffennaf 2017 |
2017/765 |
Adran 78 |
31 Gorffennaf 2017 |
2017/765 |
Adran 79, ac eithrio is-adran (3) (yn rhannol) |
31 Gorffennaf 2017 |
2017/765 |
Adran 80 (yn rhannol) |
1 Hydref... |
To continue reading
Request your trial