Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016

JurisdictionWales

2016 Rhif 413 (Cy. 131)

Gofal Cymdeithasol, Cymru A Lloegr

Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016

Gwnaed 19th March 2016

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 2

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 198 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 20141.

Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 196(6) o’r Ddeddf honno ac fe’i cymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy benderfyniad.

Enwi
S-1 Enwi

Enwi

1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016.

Cychwyn
S-2 Cychwyn

Cychwyn

2.—(1) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2016 yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (6).

(2) Daw rheoliad 140 i rym ar y diwrnod y daw adran 85D o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 19922i rym.

(3) Daw rheoliad 158 i rym ar y diwrnod y daw adran 562J o Ddeddf Addysg 19963i rym.

(4) Daw rheoliad 235 i rym ar y diwrnod y daw adran 93A o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 20064i rym.

(5) Daw rheoliad 253 i rym ar y diwrnod y daw’r diwygiad i adran 6 o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 20065, a wnaed gan baragraff 8 o Atodlen 14 i Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 20086, i rym.

(6) Daw rheoliadau 322 a 323 i rym yn union ar ôl i’r diwygiad i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, sy’n mewnosod yn y Ddeddf honno Atodlen A1 (Taliadau Uniongyrchol: Ôl-ofal o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983), a wnaed gan baragraff 1 o Ran 2 o Atodlen 4 i Ddeddf Gofal 20147, ddod i rym.

Deddf Plant a Phobl Ifanc 1933 (p. 12)

Deddf Plant a Phobl Ifanc 1933 (p. 12)

S-3 Mae Deddf Plant a Phobl Ifanc 1933 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

Mae Deddf Plant a Phobl Ifanc 1933 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

3. Mae Deddf Plant a Phobl Ifanc 1933 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

S-4 Yn adran 34(7A) (presenoldeb mewn llys riant plentyn neu...

4. Yn adran 34(7A)8(presenoldeb mewn llys riant plentyn neu berson ifanc a gyhuddir o drosedd etc.), ar ôl “Children Act 1989” mewnosoder “or section 76 of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014”.

S-5 Yn adran 34A (presenoldeb rhiant neu warcheidwad mewn llys),...

5. Yn adran 34A9(presenoldeb rhiant neu warcheidwad mewn llys), yn is-adran (2)(b) ar ôl “1970” mewnosoder “or the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014”.

Deddf Cymorth Gwladol 1948 (p. 29)

Deddf Cymorth Gwladol 1948 (p. 29)

S-6 Mae Deddf Cymorth Gwladol 1948 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

Mae Deddf Cymorth Gwladol 1948 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

6. Mae Deddf Cymorth Gwladol 1948 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

S-7 Yn adran 1 (disodli cymhwyso cyfraith y tlodion gan...

7. Yn adran 1 (disodli cymhwyso cyfraith y tlodion gan ddarpariaethau penodol yn y Ddeddf), hepgorer y geiriau o’r “and” cyntaf hyd at y diwedd.

S-8 Hepgorer Rhan 3.

Hepgorer Rhan 3.

8. Hepgorer Rhan 3.

S-9 Hepgorer Rhan 4 ac eithrio adrannau 49 a 68. Yn adran 49 ...

9.—(1) Hepgorer Rhan 4 ac eithrio adrannau 49 a 68.

(2) Yn adran 4910(treuliau swyddogion cyngor sy’n gweithredu fel derbynyddion), yn lle “any such council as is referred to in section 48(4) of this Act, other than one in Wales,” rhodder “a county council in England, a district council for an area in England for which there is no county council, a London borough council or the Common Council of the City of London,”.

Deddf Personau Anabl (Cyflogaeth) 1958 (p. 33)

Deddf Personau Anabl (Cyflogaeth) 1958 (p. 33)

S-10 Mae Deddf Personau Anabl (Cyflogaeth) 1958 wedi ei diwygio fel...

10. Mae Deddf Personau Anabl (Cyflogaeth) 1958 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

S-11 Yn adran 3 (darparu cyflogaeth warchodol gan awdurdodau lleol)—...

11. Yn adran 3 (darparu cyflogaeth warchodol gan awdurdodau lleol)—

(a) yn is-adran (1), ar ôl y geiriau “A local authority” mewnosoder “in England or Scotland”;

(b) yn is-adran (2)11, hepgorer “section twenty-nine of the National Assistance Act 1948 or under paragraph 2 of Schedule 15 to the National Health Service (Wales) Act 2006, or”;

(c) yn is-adran (5)12, hepgorer “and in relation to Wales, the council of a county or county borough”.

S-12 Hepgorer yr Atodlen.

Hepgorer yr Atodlen.

12. Hepgorer yr Atodlen.

Deddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968 (p. 46)

Deddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968 (p. 46)

S-13 Mae Deddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968 wedi ei...

13. Mae Deddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

S-14 Hepgorer adran 45 (hybu gan awdurdodau lleol les hen bobl).

Hepgorer adran 45 (hybu gan awdurdodau lleol les hen bobl).

14. Hepgorer adran 45 (hybu gan awdurdodau lleol les hen bobl).

S-15 Yn adran 63(8) (darparu cyfarwyddyd mewn gweithgareddau penodol...

15. Yn adran 63(8) (darparu cyfarwyddyd mewn gweithgareddau penodol sy’n gysylltiedig ag iechyd neu les), yn y diffiniad o “the relevant enactments”—

(a) ym mharagraff (a)13ar ôl “2006” mewnosoder “or for the purposes of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014”;

(b) ym mharagraff (b)14

(i) hepgorer “Part III of the National Assistance Act 1948”;

(ii) hepgorer “section 45 of this Act and”;

(iii) ar ôl “2006 Acts” mewnosoder “and Part 4 of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014”.

S-16 Yn adran 64 (cymorth ariannol gan Weinidogion i sefydliadau...

16. Yn adran 64 (cymorth ariannol gan Weinidogion i sefydliadau gwirfoddol penodol), yn is-adran (3)(a)—

(a) hepgorer is-baragraff (iii);

(b) ar ôl is-baragraff (xxii) mewnosoder—

“(xxiii)

“(xxiii) section 15 and Part 4 of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014;”.

S-17 Yn adran 65 (cymorth ariannol gan awdurdodau lleol i...

17. Yn adran 65 (cymorth ariannol gan awdurdodau lleol i sefydliadau gwirfoddol penodol), yn is-adran (3)(b)—

(a) hepgorer is-baragraff (iii);

(b) ar ôl is-baragraff (xxii) mewnosoder—

“(xxiii)

“(xxiii) section 15 and Part 4 of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014;”.

Deddf Gweinyddu Cyfiawnder 1970 (p. 31)

Deddf Gweinyddu Cyfiawnder 1970 (p. 31)

S-18 Yn Atodlen 8 i Ddeddf Gweinyddu Cyfiawnder 1970 (gorchmynion...

18. Yn Atodlen 8 i Ddeddf Gweinyddu Cyfiawnder 1970 (gorchmynion cynhaliaeth at ddibenion Rhan 2 o’r Ddeddf a Deddf 1958), ym mharagraff 6(a) ar ôl “Children Act 1989” mewnosoder “or under paragraph 3 of Schedule 1 to the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014”.

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970 (p. 42)

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970 (p. 42)

S-19 Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970 wedi...

19. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

S-20 Yn adran 1 (awdurdodau lleol)— yn lle “the councils of...

20. Yn adran 115(awdurdodau lleol)—

(a) yn lle “the councils of non-metropolitan counties, metropolitan districts and London boroughs” rhodder “the councils of non-metropolitan counties and metropolitan districts in England, the councils of London boroughs”;

(b) hepgorer o “but, in relation to Wales” hyd at y diwedd.

S-21 Yn adran 6 (cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol)— yn is-adran...

21. Yn adran 6 (cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol)—

(a) yn is-adran (A1)16, hepgorer “in England”;

(b) hepgorer is-adran (1);

(c) yn is-adran (2)17, yn y ddau le y mae’n digwydd, hepgorer “or (as the case may be) social services”.

S-22 Yn adran 13 (gorchmynion a rheoliadau), hepgorer is-adran (5).

Yn adran 13 (gorchmynion a rheoliadau), hepgorer is-adran (5).

22. Yn adran 13 (gorchmynion a rheoliadau), hepgorer is-adran (5).

S-23 Nid yw’r diwygiadau sydd wedi eu gwneud gan y Rheoliadau hyn i...

23. Nid yw’r diwygiadau sydd wedi eu gwneud gan y Rheoliadau hyn i adran 1 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970 yn effeithio ar weithredu unrhyw orchymyn o dan adran 9(1) o’r Ddeddf honno a wnaed cyn i’r diwygiadau hynny ddod i rym.

S-24 Yn Atodlen 1 — hepgorer y cofnodion sy’n ymwneud â Deddf...

24. Yn Atodlen 118

(a) hepgorer y cofnodion sy’n ymwneud â Deddf Cymorth Gwladol 1948, ac eithrio’r cofnod sy’n ymwneud ag adran 49 o’r Ddeddf honno;

(b) yn y cofnod sy’n ymwneud â Deddf Gwasanaethau Ymwelwyr Iechyd a Gwaith Cymdeithasol (Hyfforddi) 196219hepgorer “, and as extended by section 45(9) of the Health Services and Public Health Act 1968 (c. 46)”;

(c) yn y cofnod sy’n ymwneud â Deddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968 hepgorer y cyfeiriad at adran 45;

(d) hepgorer y cofnod sy’n ymwneud â Deddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 196820;

(e) hepgorer y cofnod sy’n ymwneud â Deddf Plant 197521;

(f) hepgorer y cofnod sy’n ymwneud â Deddf Budd-daliadau Atodol 197622;

(g) hepgorer y cofnod sy’n ymwneud â Deddf Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dyfarniadau Nawdd Cymdeithasol 198323;

(h) yn y cofnod sy’n ymwneud â Deddf Personau Anabl (Gwasanaethau, Ymgynghori a Chynrychioli) 198624

(i) yn lle “1 to 4” rhodder “1, 2 and 4”;

(ii) yn lle “, 7 and 8” rhodder “and 7”;

(i) yn y cofnod sy’n ymwneud â Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal yn y Gymuned 199025, hepgorer—

“Section 46

Preparation of plans for community care services”;

(j) hepgorer y cyfeiriad at Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 200026;

(k) yn y cofnod sy’n ymwneud â Deddf Gofal Cymunedol (Rhyddhau Gohiriedig etc.) 200327, hepgorer—

“Part 2

Functions imposed by regulations relating to eligibility for free provision of personal care to persons living at home.”;

(l) hepgorer y cofnod sy’n ymwneud â Deddf Gofalwyr (Cyfle Cyfartal) 200428;

(m) yng Ngholofn 1 o’r cofnod sy’n ymwneud â Deddf Plant 200429yn lle “, 13 to 16 and 31 to 34” rhodder “and 13 to 16”;

(n) hepgorer y cofnod sy’n ymwneud â Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 200630;

(o) hepgorer y cofnod sy’n ymwneud â Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 201031;

(p) hepgorer y cofnod sy’n ymwneud â Mesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru) 201032;

(q) hepgorer y cofnod sy’n ymwneud â Mesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 201033;

(r) hepgorer y...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT