Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2020

JurisdictionWales
CitationWSI 2020/366 (Cymru)
Year2020

2020 Rhif 366 (Cy. 81) (C. 19)

Iechyd Meddwl, Cymru

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2020

Gwnaed 26th March 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 87(4) o Ddeddf y Coronafeirws 20201.

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod yr amod a bennir yn adran 87(5) o’r Ddeddf honno, wedi ei fodloni mewn perthynas â’r darpariaethau sydd wedi eu cychwyn gan y Rheoliadau hyn.

S-1 Enwi, cymhwyso a dehongli

Enwi, cymhwyso a dehongli

1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2020.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf y Coronafeirws 2020.

S-2 Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 27 Mawrth 2020

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 27 Mawrth 2020

2. Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym am 9 a.m. ar 27 Mawrth 2020—

(a) adran 10 (addasu dros dro ddeddfwriaeth iechyd meddwl a galluedd meddyliol);

(b) Rhan 1 o Atodlen 8 (darpariaeth ragarweiniol);

(c) paragraffau 11, 12 a 13 o Atodlen 8 (cyfansoddiad a thrafodion Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru).

S-3 Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 2020

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 2020

3. Daw adran 15 (gofal a chymorth gan awdurdodau lleol) o’r Ddeddf, a Rhan 2 o Atodlen 12 (pwerau a dyletswyddau awdurdodau lleol yng Nghymru) iddi i rym ar 1 Ebrill 2020.

Vaughan Gething

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

26 Mawrth 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn dwyn i rym ddarpariaethau penodol o Ddeddf y Coronafeirws 2020 (“y Ddeddf”).

Mae rheoliad 2 yn dwyn i rym am 9 a.m. ar 27 Mawrth 2020 adran 10 o’r Ddeddf, a Rhan 1 a pharagraffau 11, 12 a 13 o Atodlen 8 iddi, fel nad yw’n ofynnol i Dribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru gydymffurfio â gofynion penodol o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983. Mae Rhan 1 o Atodlen 8 yn cynnwys darpariaeth ragarweiniol ac mae paragraffau 11 a 12 yn dileu’r gofyniad bod rhaid cael o leiaf dri aelod er mwyn cyfansoddi tribiwnlys ac yn darparu y caniateir i achosion gael eu penderfynu heb wrandawiad, o dan amgylchiadau penodedig. Mae paragraff 13 yn darparu y caiff Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru enwebu aelod cyfreithiol arall i weithredu fel dirprwy os nad yw Llywydd y Tribiwnlys ar gael am gyfnod dros dro.

Mae rheoliad 3 yn dwyn i rym ar 1 Ebrill 2020...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT