Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig (Cymru) 2003

JurisdictionUK Non-devolved
CitationWSI 2003/3047 (Cymru)
Year2003

2003Rhif 3047 (Cy.290)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig (Cymru) 2003

26 Tachwedd 2003

28 Tachwedd 2003

Drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1)(e), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990( 1) ac a freiniwyd ynddo bellach, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru( 2), ac yntau wedi ystyried y cyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, ac wedi ymgynghori fel sy'n ofynnol yn Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor( 3), ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf uchod, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig (Cymru) 2003, a deuant i rym ar 28 Tachwedd 2003 a byddant yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli

2. Yn y Rheoliadau hyn -

mae i "awdurdod bwyd" yr un ystyr ag sydd i "food authority"yn adran 5(1A) a (3)(a) a (b) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990;

ystyr "cynnyrch siwgr penodedig" ("specified sugar product") yw unrhyw fwyd a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 1 (fel y'i darllenir gyda'r Nodiadau sy'n ymwneud â'r Atodlen honno) ond nid yw'n cynnwys unrhyw fwyd o'r fath sydd ar ffurf siwgr eisin, siwgr candi neu siwgr lwmp;

ystyr "Cytundeb yr AEE" ("EEA Agreement") yw'r Cytundeb ynghylch yr Ardal Economaidd Ewropeaidd( 4) a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992 fel y'i haddaswyd gan y Protocol( 5) a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993;

ystyr "defnyddiwr olaf" ("ultimate consumer") yw unrhyw berson sy'n prynu heblaw -

(a) er mwyn ailwerthu,(b) at ddibenion sefydliad arlwyo, neu(c) at ddibenion busnes gweithgynhyrchu.

ystyr "disgrifiad neilltuedig" ("reserved description"), o ran unrhyw gynnyrch siwgr penodedig, yw unrhyw ddisgrifiad mewn cysylltiad â'r cynnyrch hwnnw yng ngholofn 1 o Atodlen 1 (fel y'i darllenir gyda'r nodiadau sy'n ymwneud â'r Atodlen honno) a lle y defnyddir disgrifiad o'r fath yn y Rheoliadau hyn rhaid ei ddehongli fel y cynnyrch y mae'r disgrifiad hwnnw yn berthnasol iddo;

ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

mae ystyr "gwerthu" ("sell") yn cynnwys cynnig neu ddangos ar werth neu fod ym meddiant rhywun ar gyfer ei werthu, a rhaid dehongli ffurfiau sy'n deillio ohono yn unol â hynny;

ystyr "Gwladwriaeth yr AEE" ("EEA State") yw Gwladwriaeth sydd yn rhan o Gontract Cytundeb yr AEE;

mae ystyr "paratoi" ("preparation") yn cynnwys gweithgynhyrchu ac unrhyw fath o brosesu neu driniaeth a rhaid dehongli ffurfiau sy'n tarddu o "baratoi" yn unol â hynny;

ystyr "Rheoliadau 1996" ("the 1996 Regulations") yw Rheoliadau Labelu Bwyd 1996( 6);

ystyr "sefydliad arlwyo" ("catering establishment") yw bwyty, ffreutur, clwb, tafarn, ysgol, ysbyty neu sefydliad tebyg (gan gynnwys cerbyd neu stondin sefydlog neu stondin symudol) lle, wrth gynnal busnes, y paratoir bwyd i'w ddosbarthu i'r cwsmer olaf a'r bwyd hwnnw yn barod i'w fwyta heb ei baratoi ymhellach;

ystyr "siwgr candi" ("candy sugar") yw siwgr crisial os yw unrhyw ochr o'r crisialau yn hwy nag un sentimetr;

ystyr "siwgr eisin" ("icing sugar") yw gronynnau mân o siwgr gwyn neu siwgr claerwyn neu gymysgedd ohonynt;

ystyr "siwgr lwmp" ("sugar in loaf form") yw darn o siwgr crisial wedi ei gydgasglu ar ffurf côn fel arfer, nad yw ei bwysau'n llai na 250 gram;

Cwmpas y Rheoliadau

3. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i gynhyrchion siwgr penodedig, y bwriedir iddynt gael eu bwyta gan bobl ac sydd yn barod i'w dosbarthu i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo.

Disgrifiadau neilltuedig

4. Ni chaiff neb werthu bwyd gyda label, boed honno wedi ei glynu wrth y deunydd lapio neu'r cynhwysydd ai peidio, neu wedi ei hargraffu arno, os yw'n dangos neu'n cynnwys unrhyw ddisgrifiad neilltuedig neu unrhyw ymadrodd sy'n deillio ohono, neu unrhyw air neu ddisgrifiad sy'n sylweddol debyg iddo heblaw -

(a) mai'r cynnyrch siwgr penodedig y mae'r disgrifiad yn ymwneud ag ef yw'r bwyd hwnnw;(b) bod y disgrifiad, yr ymadrodd sy'n deillio ohono, neu'r gair, yn cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun sy'n dangos yn ddiamwys neu'n awgrymu yn eglur mai dim ond cynhwysyn yn y bwyd hwnnw yw'r sylwedd y mae'n cyfeirio ato;(c) bod y disgrifiad, yr ymadrodd sy'n deillio ohono, neu'r gair, yn cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun sy'n dangos yn ddiamwys neu'n awgrymu yn eglur nad cynnyrch siwgr penodedig mo'r bwyd hwnnw, ac nad yw'n cynnwys dim ohono; neu(ch) bod y disgrifiad, yr ymadrodd sy'n deillio ohono, neu'r gair yn cael ei ddefnyddio yn enw arferol ar gynnyrch bwyd arall ac nad yw'n debygol o gamarwain y defnyddiwr.

Labelu a disgrifio cynhyrchion siwgr penodedig

5. Heb iddo leihau effaith gyffredinol Rhan II o Reoliadau 1996, ni chaiff neb werthu unrhyw gynnyrch siwgr penodedig os nad yw wedi ei farcio neu ei labelu â'r manylion canlynol -

(a) disgrifiad neilltuedig y cynnyrch; a(b) yn achos toddiant siwgr, toddiant siwgr gwrthdro a surop siwgr gwrthdro, faint o sylwedd sych a faint o siwgr gwrthdro sydd yn y cynnyrch.

Y dull o farcio neu labelu

6. Rhaid i Reoliadau 35, 36(1) a (5) a 38 o Reoliadau 1996 (sy'n ymwneud â sut y mae bwyd yn cael ei farcio neu ei labelu) fod yn gymwys i'r manylion y mae rheoliad 5 o'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol iddynt gael eu marcio ar gynnyrch siwgr penodedig, neu eu rhoi ar ei label, fel pe baent yn fanylion y mae Rheoliadau 1996 yn ei gwneud yn ofynnol eu marcio ar fwyd neu eu rhoi ar label arno.

Cosbau a gorfodi

7. - (1) Bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i reoliad 4 neu 5 o'r Rheoliadau hyn, neu berson nad yw'n cydymffurfio â hwy yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

(2) Rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn yn ei ardal.

Amddiffyniad o ran allforio

8. Mewn unrhyw achos sy'n ymwneud â thramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, bydd yn amddiffyniad i'r person a gyhuddir os bydd yn profi -

(a) y bwriadwyd allforio'r bwyd yr honnir bod y tramgwydd wedi ei wneud mewn cysylltiad ag ef i wlad y mae ganddi ddeddfwriaeth sy'n cyfateb i'r Rheoliadau hyn a bod y bwyd yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth honno; a(b) yn achos allforio i Wladwriaeth yr AEE, bod y ddeddfwriaeth yn cydymffurfio â darpariaethau Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/111/EC( 7) sy'n ymwneud â siwgrau penodol y bwriedir iddynt gael eu bwyta gan bobl.

Cymhwyso amryw ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990

9. Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn, wedi eu haddasu fel bod...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT