Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006

JurisdictionUK Non-devolved
CitationWSI 2005/116 (Cymru)

2005Rhif 116 (Cy.14)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006

24 Ionawr 2006

25 Ionawr 2006

TREFN Y RHEOLIADAU

RHAN 1

RHAGARWEINIOL A CHYFFREDINOL

1. Enwi, cychwyn a chymhwyso

2. Dehongli

3. Addasu Deddf Amaethyddiaeth 1970 o ran pob bwyd anifeiliaid

4. Addasu Deddf Amaethyddiaeth 1970 o ran bwydydd anifeiliaid wedi eu mewnforio

5. Deunydd rhagnodedig

6. Esemptiadau rhag y Rheoliadau hyn

7. Dirymiadau

RHAN 2

CYFLWYNO BWYDYDD ANIFEILIAID A'U CYFANSODDIAD

8. Materion y mae'n ofynnol eu cynnwys, ac y caniateir eu cynnwys mewn datganiad statudol neu eu datgan fel arall

9. Ffurfiau o ddatganiad statudol

10. Cyfyngu ar amrywio

11. Priodoli ystyron ar gyfer datganiadau statudol neu farciau

12. Dull pecynnu a selio bwydydd anifeiliaid cyfansawdd

13. Rheoli deunyddiau bwyd anifeiliaid

14. Rheoli cynhyrchion a fwriedir fel bwyd anifeiliaid sy'n cynnwys sylweddau annymunol

15. Rheoli bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys sylweddau gwaharddedig

16. Rheoli ffynonellau protein penodol

17. Rheoli'r haearn a gynhwysir mewn bwydydd anifeiliaid sy'n cymryd lle llaeth

18. Rheoli lludw sy'n annhoddadwy mewn asid hydroclorig mewn bwydydd anifeiliaid cyfansawdd

19. Rheoli bwydydd anifeiliaid a fwriedir at ddibenion maethiadol penodol, a darpariaethau atodol o ran datganiadau statudol

20. Rheoli ychwanegion a rhag-gymysgeddau

21. Darpariaethau gwybodaeth gyfrinachol

RHAN 3

GORFODI

22. Gorfodi darpariaethau a wnaed o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972

23. Addasu adran 74A(3) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970

RHAN 4

DIWYGIO DEDDFWRIAETH ARALL

24. Diwygio'r Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999

ATODLENNI

Atodlen 1:

Dulliau cyfrifo gwerth egni bwydydd anifeiliaid cyfansawdd

Atodlen 2:

Rheoli deunyddiau bwyd anifeiliaid

Rhan I-

Y prif brosesau a ddefnyddir ar gyfer paratoi'r deunyddiau bwyd anifeiliaid a restrir yn Rhan II o'r Atodlen hon

Rhan II-

Rhestr, nad yw'n hollgynhwysol, o'r prif ddeunyddiau bwyd anifeiliaid

Rhan III-

Deunyddiau bwyd anifeiliaid eraill

Atodlen 3:

Cynnwys y datganiad statudol neu'r datganiad arall (ac eithrio ar gyfer ychwanegion neu rag-gymysgeddau na chynhwysir mohonynt mewn bwydydd anifeiliaid)

Rhan I

Rhan II-

Datganiad ynghylch cyfansoddion dadansoddiadol

Atodlen 4:

Cyfyngiadau ar amrywiad

Rhan A-

Bwydydd anifeiliaid cyfansawdd ar wahân i rai ar gyfer anifeiliaid anwes

Rhan B-

Bwydydd anifeiliaid anwes cyfansawdd

Rhan C-

Deunyddiau bwyd anifeiliaid

Rhan CH-

Fitaminau ac elfennau hybrin

Rhan D-

Gwerth egni bwydydd anifeiliaid cyfansawdd

Atodlen 5:

Cyfyngiadau rhagnodedig ar gyfer sylweddau annymunol

Atodlen 6:

Rheoli ffynonellau protein penodol

Atodlen 7:

Bwydydd anifeiliaid a ganiateir at ddibenion maethiadol penodol a darpariaethau ynghylch eu defnyddio

Atodlen 8:

Categorïau o ddeunyddiau bwyd anifeiliaid i'w defnyddio o ran bwydydd anifeiliaid cyfansawdd ar gyfer anifeiliaid anwes

Atodlen 9:

Offerynnau diwygio a ddirymir

Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 66(1), 68(1) ac (1A), 69(1) a (3), 70(1), 71(1), 74(1), 74A, 77(4), 78(6) a (10), 79(1), (2) a (9), a 84 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970 1 a chan ei fod wedi ei ddynodi 2 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 3 o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd a mesurau o ran bwyd anifeiliaid a gynhyrchwyd ar gyfer neu a fwydir i anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd a mesurau yn y maes milfeddygol ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran 2(2) a enwyd (i'r graddau na ellir gwneud y Rheoliadau hyn dan y pwerau yn Neddf Amaethyddiaeth 1970 a nodir uchod), ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol dan adran 84(1) o'r Ddeddf a enwyd neu fel bo'n briodol dan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau mewn materion diogelwch bwyd 4, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

RHAN 1

RHAGARWEINIOL A CHYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006, deuant i rym ar 25 Ionawr 2006 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.-

(1) Yn y Rheoliadau hyn-

ystyr "Aelod-Wladwriaeth" (Member State) yw Aelod-Wladwriaeth heblaw'r Deyrnas Unedig;

mae i "blawd cig ac esgyrn mamaliaid" (mammalian meat and bone meal) yr ystyr a roddir yn Rheoliad 3(1) o'r Rheoliadau Enseffalopathi Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2002 5;

ystyr "braster" (fat) yw'r rhin a geir ar ôl trin bwyd anifeiliaid yn unol â'r weithdrefn briodol a bennir yn y dull dadansoddi ar gyfer olewau a brasterau a bennir yn Rhan IV o'r Atodiad i Gyfarwyddeb 71/393/EEC 6;

ystyr "bwyd anifeiliaid a fwriedir ar gyfer diben maethiadol penodol" (feeding stuff intended for a particular nutritional purpose) yw bwyd anifeiliaid cyfansawdd, y mae ei gyfansoddiad neu ddull ei weithgynhyrchu yn ei wahaniaethu oddi wrth fathau eraill o fwydydd anifeiliaid ac oddi wrth y math o gynhyrchion sy'n dod dan Gyfarwyddeb y Cyngor 90/167/EEC sy'n gosod yr amodau sy'n rheoli paratoi, rhoi ar y farchnad a defnyddio bwydydd anifeiliaid meddyginiaethol o fewn y Gymuned 7, ac y rhoddir unrhyw awgrym mewn perthynas ag ef y bwriedir ef at ddiben maethiadol penodol;

ystyr "bwyd anifeiliaid anwes" (pet food) yw bwyd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid anwes a dehonglir "bwyd anifeiliaid anwes cyfansawdd" ("compound pet food") yn unol â hynny;

ystyr "bwyd anifeiliaid cydategol" (complementary feeding stuff) yw bwyd anifeiliaid cyfansawdd sy'n uchel eu cynnwys o ran sylweddau penodol ac nad yw, oherwydd ei gyfansoddiad, yn ddigonol ar gyfer dogn dyddiol heblaw ei fod yn cael ei ddefnyddio mewn cyfuniad â mathau eraill o fwyd anifeiliaid;

ystyr "bwyd anifeiliaid cyfansawdd" (compound feeding stuff), yn ddarostyngedig i reoliad 14(6), yw cymysgedd o ddeunyddiau bwyd anifeiliaid, pa un ai a ydyw yn cynnwys unrhyw ychwanegyn neu beidio, ar gyfer ei fwydo drwy'r geg i anifeiliaid anwes neu anifeiliaid fferm, ar ffurf bwydydd anifeiliaid cydategol neu fwyd anifeiliaid cyflawn;

ystyr "bwyd anifeiliaid cyflawn" (complete feeding stuff) yw bwyd anifeiliaid cyfansawdd sydd, oherwydd ei gyfansoddiad, yn ddigonol ar gyfer dogn dyddiol;

ystyr "bwyd anifeiliaid mwynol" (mineral feeding stuff) yw bwyd anifeiliaid cydategol a gyfansoddir o fwynau yn bennaf ac sy'n cynnwys o leiaf 40% o ludw yn ôl ei bwysau;

ystyr "bwyd anifeiliaid sy'n cymryd lle llaeth" (milk replacer feed) yw bwyd anifeiliaid cyfansawdd a roddir ar ffurf sych, neu wedi ei ailgyfansoddi â swm penodedig o hylif, i fwydo anifeiliaid ifanc yn ychwanegol at y llaeth ar ôl y llaeth llo bach neu yn lle hwnnw, neu i fwydo lloi y bwriedir eu lladd;

ystyr "bwyd anifeiliaid triagl" (molassed feeding stuff) yw bwyd anifeiliaid cydategol wedi ei baratoi ar sail triagl ac sy'n cynnwys o leiaf 14%, yn ôl ei bwysau, mewn cyfanswm o siwgr wedi ei fynegi fel swcros;

ystyr "cynnyrch a fwriedir ar gyfer bwyd anifeiliaid" (product intended for animal feed) yw unrhyw gynnyrch a ddefnyddir, neu a fwriedir ar gyfer ei ddefnyddio, mewn bwyd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid anwes, anifeiliaid fferm neu anifeiliaid sy'n byw'n rhydd yn y gwyllt;

ystyr "deunydd bwyd anifeiliaid" (feed material) yw-

(a) unrhyw gynnyrch sy'n deillio o lysiau neu o anifeiliaid, yn ei gyflwr gwreiddiol, yn ffres neu wedi ei gadw;(b) unrhyw gynnyrch sy'n deillio o gynnyrch o'r fath drwy brosesu diwydiannol; neu(c) unrhyw sylwedd organig neu anorganig,

(p'un ai a yw'n cynnwys unrhyw ychwanegyn neu beidio) ac sydd i'w ddefnyddio ar gyfer bwydo anifeiliaid anwes neu anifeiliaid fferm drwy'r geg, yn uniongyrchol fel y mae, neu ar ôl ei brosesu, wrth baratoi bwyd anifeiliaid cyfansawdd neu fel cariwr rhag-gymysgedd;

ystyr "deunydd rhagnodedig" (prescribed material) yw deunydd a ddisgrifir yn rheoliad 5(1);

ystyr "diben maethiadol penodol" ("particular nutritional purpose") yw diben diwallu unrhyw angen am faeth sydd ar anifeiliaid anwes neu dda byw cynhyrchiol, y mae eu proses cymathu neu amsugno, neu eu metabolaeth, efallai wedi cael ei handwyo dros dro, neu wedi ei handwyo dros dro neu'n barhaol, ac y gall felly llyncu bwyd anifeiliaid a all ateb y diben hwnnw fod o les iddynt;

ystyr "dogn dyddiol" (daily ration) yw cyfanswm cyfartalog y bwyd anifeiliaid, wedi ei fynegi ar sail 12% o leithedd, y mae ei angen ar anifail o fath, grwp oedran a lefel gynhyrchiant penodedig er mwyn bodloni ei holl anghenion am faeth;

ystyr "y Ddeddf" (the Act) yw Deddf Amaethyddiaeth 1970;

ystyr "ffeibr" (fibre) yw'r deunydd organig a gyfrifir ar ôl i fwyd anifeiliaid gael ei drin yn unol â'r weithdrefn a nodir yn y dull dadansoddi ar gyfer ffeibr a bennir ym Mhwynt 3 o Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 73/46/EEC 8;

ystyr "gwerth egni" (energy value) yw gwerth egni bwyd anifeiliaid cyfansawdd wedi ei gyfrifo yn unol â'r dull perthnasol a bennir yn Atodlen 1;

ystyr "Gwladwriaeth yr Ardal Economaidd Ewropeaidd" (EEA State) yw Aelod-Wladwriaeth yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein;

ystyr "y Gyfarwyddeb Bwydydd Anifeiliaid Cyfansawdd" (the Compound Feeding Stuffs Directive) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 79/373/EEC ar farchnata bwydydd anifeiliaid cyfansawdd 9;

ystyr "y Gyfarwyddeb Cynhyrchion Penodol" (the Certain Products Directive) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 82/471/EEC ynghylch cynhyrchion penodol a ddefnyddir mewn maethiad anifeiliaid 10;

ystyr "y Gyfarwyddeb Deunyddiau Bwyd Anifeiliaid" (the Feed Materials Directive) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 96/25/EC ynghylch cylchredeg deunyddiau bwyd anifeiliaid 11;

ystyr "y Gyfarwyddeb Ychwanegion" (the Additives Directive) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 70/524/EEC ynghylch ychwanegion mewn bwydydd anifeiliaid 12;

ystyr "isafswm oes storio" (minimum storage life) o ran bwyd anifeiliaid cyfansawdd, yw'r dyddiad hyd at yr hwn y bydd y bwyd anifeiliaid hwnnw, o dan amodau storio priodol, yn cadw ei briodweddau penodol;

ystyr "lleithedd" (moisture) yw dwr a deunyddiau...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT